Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

elin

elin

Os ydych chi am fod yn rhan o'r ymgyrch gyffrous hon yng Nghaerfyrddin yna fe ddylech gysylltu â Sioned Elin ar 804068 neu 384378.

Y siaradwyr yng Nghaerfyrddin fydd Sioned Elin, Llyr Huws Gruffydd a Dafydd Morgan Lewis.

Ryw hannar milltir cwta sy' rhwng fa'ma a'r Felin 'cw." Sibrydodd, "Dydan ni'n dau yn gymdogion rŵan." A chyda'r addewid rasol yna, a chan gydio yn dynn yng nghlust Hywal y mab, camodd Laura Elin y Felin, yn llythrennol o'r Nef i'r niwl.

Fe lwyddodd y Gymdeithas i amharu'n ddifrifol ar y cyfarfod hwn a bu trafodaeth breifat rhwng Sioned Elin, cadeirydd y Gymdeithas yn Sir Gaerfyrddin, a Meryl Gravell, arweinydd y Cyngor.

Mae Elin yn ymweld â chartre'r henoed ac yn methu adnabod Martha, hen fenyw a arferai fod yn adnabyddus yn y gymdogaeth fel person cymwynasgar oedd yn rhedeg siop y pentref.

Ne...ne mi eith y gwarthaig i'r mart 'i hunan." Er ei bod hi'n bnawn myglyd 'roedd drws Nefoedd y Niwl yn agored led y pen a chorff byrgrwn, wynebgoch Laura Elin o'r Felin yn hanner llenwi'r drws hwnnw.

'Yn aml iawn, mae chwilio ar y We yn Gymraeg wedi bod yn broblematig,' meddai Elin Haf Gruffydd Jones ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, 'ac mae'r Chwilotydd yn datrys y broblem mewn ffordd ddyfeisgar a syml.

Disgrifir siom Elin yn gelfydd, wrth i'r awdures gymharu'r profiad â chanfod siop ddillad ar gau a dadlennir llawer am greulondeb henaint trwy gyfrwng y ddelwedd.

Gyda'n pecynnau bwyd - diolch eto i Elin - yn ein dwylo, i lawr â ni at Eglwys Nanhyfer yng nghwmni ein tywysydd lleol Lyn Lewis Dafis, neb llai na golygydd y cylchgrawn hwn.

Wedi dod yn rhydd o'r breichiau cryfion cafodd JR ei lusgo i'r gadair freichiau ger y tân a rhoddodd Laura Elin orchymyn siarp i'w mab Hywal, a eisteddai ar y stôl drithroed, yn pigo'i drwyn, i symud 'i hen betha oddi ar y bwrdd i'r gŵr bonheddig gal tamad yn 'i grombil.

'Roedd Dewyrth Dafydd yn bump oed ar y pryd ac yn cofio amdano'i hun yn sefyll efo'i fam yn nrws Crowrach a chlywed yr ardalwyr yma ac acw hyd yr ardal yn bloeddio 'Elin, Elin'.

Mae agwedd Elin yn parhau i beri pryder.

Ond dyw Elin ddim yn ymddangos fel ei bod yn poeni o gwbl.

Wedi clirio'r llestri swper, rhoi proc i'r tân a dŵr yn y botel ddŵr poeth, casglodd Laura Elin y cwbl ynghyd a pharatoi i cychwyn.

Mewn cyfarfod cyhoeddus drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Ngwesty'r Angel Caerdydd nos Fawrth Mai 16eg - cyfarfod i lansio deiseb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros Ddeddf Iaith Newydd, deddf a fyddai yn rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg - fe gafwyd cefnogaeth gref gan Elin Jones, llefarydd Plaid Cymru ar yr iaith Gymraeg, a Christine Humphreys ar ran y Rhyddfrydwyr Democrataidd.

'dwn i ddim fyddwch chi?" Roedd Laura Elin ar ei deulin ac wrthi'n brysur yn datod ei esgid chwith.

Anerchir y rali gan Branwen Niclas, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Elin Haf Gruffydd Jones, arweinydd ymgyrch y Gymdeithas dros Ddeddf Iaith Newydd a nifer o Gymry amlwg eraill.

Yr wythnos hon bydd Alison yn derbyn llythyr yn datgelu bod Elin wedi cael ei gwahardd o'r ysgol am smocio canabis.

Fel ffuredau mae rhai o'n sylwebyddion praffaf wedi gafael yn dynn yng ngeiriau Elin H G Jones heb fwriad i'w gadael yn llonydd.

DAVIES fydd ar grwydr yng Nghlwyd, ORIG WILLIAMS ym Mae Colwyn, RAY GRAVEL yn Aberystwyth, JENNY OGWEN yn Llanbedr- pont-Steffan, ELIN RHYS yng Nghaerfyrddin, JOHNNY TUDOR yn Hwlffordd, KEVIN DAVIES yn Abertawe a GILLIAN ELISA yng Nghaerdydd.

"Ma'ch traed bach hi fel llyffantod." Dechreuodd Laura Elin oglais gwadn troed dde Jeremeia Hughes, yr unig fan gwantan yn ei holl bersonoliaeth, ac aeth y gŵr piwis i ffit aflywodraethus o chwerthin.

Bydd Branwen Niclas, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ac Elin Haf Gruffydd Jones, arweinydd Ymgyrch Statws y Gymdeithas, yn arwain y rali.

Bydd David Davies ynghŷd â Carwyn Jones (Llafur), Elin Jones (Plaid Cymru), a Christine Humphreys (Rhyddfrydwr Democrataidd). Bydd Cynog Dafis yno fel Cadeirydd y Pwyllgor Addysg ôl 16.

Diolch yn fawr i Sioned Elin a Branwen Nicholas am gludo'r neges ar ein rhan ni ac ar ran y miloedd ar filoedd arwyddodd y ddeiseb.

Dowch chi draw eto os byth y byddwch chi'n pasio." "Pasio," meddai Laura Elin gan ymestyn chwerthin.

'Ro'n i'n gweld Laura Elin o'r Felin a Hywal y mab yn mynd yno bora a baich o bricia dechra tân ar gefna'r ddau." Gwelodd JR yr annibyniaeth y bu'n hiraethu cymaint amdano yn diflannu o dan ei drwyn, a hynny cyn iddo ef i gyrraedd.

Un ffeind fel 'na ydyw Laura Elin wedi bod 'rioed.

Yn ystod yr Eisteddfod yn Abergele llynedd, torrodd Branwen Nicholas a Sioned Elin i fewn i Swyddfa Etholaeth Rod Richards, yr Is-Ysgrifennydd yn y Swyddfa Gymreig, i brotestio yn erbyn polisïau addysg y Torïaid.

Yn anffodus crwydrodd ei lygad i gyfeiriad bwrdd crwn a diflannodd y gwynt i gyd o'i hwyliau - roedd Laura Elin o'r Felin wedi hulio brecwast i dri.

Fel y soniais yn barod diflannod Elin, modryb fy Mam, mewn dirgelwch.

Cyfieithwyd y cerddi hyn gan bump o lenorion, Joseph P.Clancy, Gillian Clarke, Tony Conran, Elin ap Hywel a Nigel Jenkins.

Am ugain mlynedd olaf ei bywyd yr oeddwn i'n un o'i chyfeillion: âi fy ngwraig a minnau i'w gweld yn aml, bu'n cysgu yn ein tŷ ni, ysgrifennai lythyron atom; yn ddi-feth bob Nadolig anfonai bunt i'n merch ni, ac os byddai Elin yn hwy nag arfer yn ysgrifennu ati i ddiolch iddi am y bunt honno, cyrhaeddai llythyr oddi wrth Kate Roberts i holi a oedd y bunt wedi cyrraedd.

Neu fel y byddai Jen Elin yn canu yn y Gystadleuaeth ers talwm Bw-w-w-w-wthyn a-a-r y Bryn.

Ymysg y siaradwyr yn Yr Wyddgrug mae Elin Haf Gruffydd Jones a Toni Schiavone.

"Deud celwydd wrth Laura Elin," medda hi'n chwareus.

Ar ôl deffro i frecwast blasus diolch i Elin sy'n gweithio yn y ganolfan, (a chlirio ychydig ar effaith y Pino-shite), parhawyd â'r drafodaeth am ddeddf iaith ar y bore Sadwrn.

Cododd ar ei draed mewn protest a dweud bod ganddo'r traed cynhesa' o fewn y cread, ond rhoddodd Laura Elin law gadarn ar ei ysgwydd a'i wthio yn ôl i'w sedd.

Elin Haf Gruffydd Jones, ysgrifennydd Cell Gogledd Ceredigion ac aelod o Grwp Democrat­iaeth Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sy'n gosod her i'r Cynulliad, sef bod yn sefydliad cenedlaethol gweithredol dwyieithog.