Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ellid

ellid

Trueni na ellid ennyn yr un ymroddiad ymhlith yr unarddeg oedd ar ar y cae.

Byddai yma yr Ysgol Sul ddifyrraf a ellid ei chael.

Felly ni ellid apelio i'r Swyddfa Gymreig os gwrthodid y cais hwn.

Ymateb Cymdeithas yr Iaith -- Codi baner ac ymgyrch newydd dros Ryddid i Gymru mewn Addysg -- trefn Gymreig annibynnol na ellid eu chwalu dim mwy.

Mi ellid fod wedi gwario'r arian ar addysg, iechyd a'r amgylchedd, medden nhw.

Mynegodd un arall o gaplaniaid y Methodistiaid Calfinaidd ei bryder fod y gagendor rhwng y milwr a'r Eglwys mor llydan fel na ellid ei bontio heb ddyfalbarhad ac amynedd mawr o'r ddeutu.

O edrych ar rai o luniau David Gepp o Ogledd Iwerddon fe ellid maddau i'r anwybodus am feddwl fod bywyd yno'n un carnifal hwyliog.

Tra credai'r clasurydd Eliot na ellid llenyddiaeth fawr heb awdurdod allanol traddodiad yn sail iddi, mynnai Murry mai cydwybod yr unigolyn oedd yr unig faen prawf dibynadwy mewn llenyddiaeth ac ym mhob cylch arall o fywyd: Nid oedd gan Eliot ddim i'w ddweud wrth awdurdod mor wamal a chyfnewidiol.

Maentumiai gwrthwynebwyr na ellid dibynnu ar yr enwau am fod cyfartaledd uchel ohonynt yn enwau plant, a phobl a oedd wedi arwyddo fwy nag unwaith.

Bron na ellid dweud fod y cyfan yn rhy gyflym ar adegau gan nad yw'r awdur yn oedi ar unrhyw gyfnod.

Yn sicr, ni ellid dweud fod y nofel hon yn llusgo gan fod tempo y digwydd yn gyflym.

Fe ellid darganfod deunydd sawl drama naturiolaidd ynddi.

Gwrthodwn yr honiad na all ysgol fach gyflwyno'n effeithiol y Cwricwlwm 'Cenedlaethol'. Mae'n wir na ellid yn rhesymol ddisgwyl gan 2 athro yr amrywiaeth o arbenigedd i gyflwyno ar eu pennau eu hunain yr holl gwricwlwm, ac felly na allai ysgolion bach, yn eu ffurf draddodiadol, gyflwyno'r cwricwlwm yn gyflawn.

Er mor ddiddorol ac atyniadol yw rhai o'r ffresgoau a'r ffenestri hyn, y gellir eu gweld o hyd mewn ambell eglwys yng Nghymru a gwledydd eraill, ni ellid honni ar unrhyw gyfrif eu bod yn ddigonol i gymryd lle darllen y Beibl a myfyrio arno.

Pa ryfedd i Ddwynwen hoffi'r lle, ni ellid cael amgenach hafan i encilio a myfyrio.

Gwelodd y Dirprwywyr fod uchelgais draddodiadol ysgolion yr Eglwys o wasanaethu plwyfi unigol nid yn unig heb ei chyflawni ond na ellid ei chyflawni byth, gan fod y drefn blwyfol ei hun wedi ymddatod.

Oni ellid cynnwys prydferthwch, rhyddid, pechod, dyn a Duw, y tu mewn i'r rhwydwaith hwn, rhaid dyfarnu eu bod yn afreal.

Beth bynnag a ellid ddywedyd am waith Mr Jones yn cusanu genethod ieuanc iawn a fegir ganddo, ni welwn reswm yn y byd dros iddo barhau i wneuthur hynny wedi iddynt dyfu i fyny yn ferched ieuanc.

Er hynny, ni chofiaf erioed i mi ddarllen dim di-werth a ddaeth o'i law; i'r gwrthwyneb, gallai ysgrifennu am yr hyn a ymddangosai'n ddi-werth mewn ffordd mor fyw a deniadol fel na ellid ymatal rhag myfyrio ar ei gyfansoddiadau drosodd a thro, gan droi cylchgrawn dros amser yn drysor parhaol i'w anwylo.

Ni ellid profi dim gan fod honno yn llawer rhy bell.

Bron na ellid dweud mai hwy oedd aelodau mwyaf ysbrydol y corff i'r gwr hwn yr oedd y ffin rhwng golau haul a golau'r ysbryd mor fain iddo.

Ni ellid cael gwell dadansoddwr na'r Athro Jenkins.

Yn gyffredinol fe ellid dweud mai'r 'darnau mawr' lleiaf eu gwerth sy'n cael eu taflu i faes y frwydr yn gyntaf.

Ceisiai Project yr Armada, a drefnwyd gan Sydney Wignall, ddarganfod safle llongddrylliad Armada y gellid yn rhesymol dybio y byddai'n rhoi gwybodaeth inni am yr Armada na ellid ei chael o unrhyw ffynhonnell arall.

Ni ellid gwell enw arno, gan ei fod mor debyg i wenynen.

Bid siŵr, buasai'r cyfryw briodoleddau yn fwy trychinebus i ferch efallai, medden nhw; ond hyd yn oed yn achos gwryw, nid ellid dychmygu ei fod ef yn debyg o ennill serch naturiol yr un gymhares addawol.

I mi yn yr oed hwnnw ac yn byw ger afonig na ellid gweld ei gwaelod oherwydd y llwch glo ynddi, yr oedd pegi yn un o'r menywod ffolaf a fu.

Ni ellid meddwl am un ddadl gryfach nac un rhybudd dwysach.

Ond ni ellid, ar ôl ymaflyd yn gadarn ymarferol yn y cnewyllyn hwn, gael unrhyw frawddeg yn y byd Cymraeg nad yw'n cael ei hadeiladu o amrywiad neu gyfuniad o hon.

Ni ellid derbyn Beibl Genefa fel y fersiwn swyddogol, ond 'roedd wedi dwyn diffygion y Beibl Mawr i'r amlwg; penderfynwyd, gan hynny, ar wneud fersiwn diwygiedig arall a fyddai'n rhydd o dramgwydd Beibl Genefa.

Ac fe ellid bod wedi disgwyl gêm gymharol hawdd, ddi-fflach iddyn nhw yn erbyn Rhydychen, sydd mewn trafferthion, ar y Cae Râs neithiwr.

Fe ellid fod wedi dweud hynny ar ôl protest Trefechan, gellid fod wedi dweud hynny ar ôl ennill arwyddion dwyieithog, fe ellid fod wedi dweud hynny — yn wir fe ddywedwyd hynny — ar ôl ennill y sianel ac mae nhw'n dal i ddweud hynny ers Deddf Iaith 1993.

Gwyddai'r bugail yn dda am y boen o weld praidd newynog yn chwilio am borthiant a heb ei gael; gwyddai hefyd na chaent eu porthi oni ellid darparu ar eu cyfer yr Ysgrythur yn eu hiaith eu hun.

Arwydd eu bod hwy'n ennill peth tir yw bod yr aelodau Seneddol Cymreig yn rhoi diwrnod i drafod y mater yn Nhy^'r Cyffredin a bod y Cyngor Darlledu Cymreig yn sefydlu pwyllgor i ystyried a ellid o gwbl drefnu awdurdod teledu Cymreig annibynnol.

Awgrymodd na ellid gosod dim ymddiriedaeth ynddynt fel pobl, ac nad oedd fawr o obaith iddynt feithrin gogwyddiadau gwareiddiedig.

Nodwyd fod yna ddigon o eiddo gwag a ellid ei addasu yn gartrefi mewn nifer helaeth o ardaloedd heb fynd ati'n ddi-reolaeth i adeiladu ystadau o dai drud ar gyrion penterfi.

Fe ellid dweud fod hon yn agwedd radical tuag at realiti pechod, ei weld fel rhywbeth cynhenid yn y natur ddynol.

Ar y dechrau ni ellid cael digon ohonynt a chyfyngwyd nhw i geginau a byrddau'r llys, ond yn fuan iawn cynhyrchwyd digon yn N'Og i gadw gwerin a bonedd mewn wynwyn.

Nid oedd ddirgelwch yn y bydysawd i gyd na ellid ei ddatrys trwy gymhwyso'r method gwyddonol.

Dywedodd fod problemau yng Nghymru ond na ellid eu datrys heb gyfrifoldeb amdanynt.

Ar brydiau, pan oedd y stêm yn isel, fe stolid (atal), y peirianwaith, gan ddal platen yn dynn yn y rowls, ac ni ellid ailddechrau'r peirianwaith heb ryddhau'r pinnau a ddaliai'r blaten yn y rowls.

Ni ellid gweld yr awyr gan flodau'r drain.

A ellid cymryd y stori fach hon fel rhoi diferyn o waed ar sleid, i'w harchwilio yn fy meddwl, fel y medrwn yn y diwedd, drwy weithio arno'n ddigon caled ac yn ddigon hir, weld Deddf y Bydysawd ei hun, a chael cipolwg ar fyd y sêr yn crynu yn eu lleoliad, fel breichledau ar fraich ddidostur Duw ei hun?

Ni ellid ymddiried mewn lleygwr, hyd yn oed pe medrai'r iaith Ladin - a pheth prin i'w ryfeddu oedd hynny, i fyfyrio arno a'i ddehongli drosto'i hun.

Nid oedd hi fawr mwy na sgerbwd; yn hollol analluog i weithio, neu hyd yn oed i fyw'n gyfforddus, ac ni ellid gwneud dim i'w helpu.

* pa mor gyfforddus ydi o i bobl efo'ch math chi o amhariad; * a ellid ei ddefnyddio'n hawdd ar gyfer gweithgareddau megis, er enghraifft, chwaraeon neu ddawnsio cadair olwyn; * faint yw ei bwysau a pha mor hawdd y gellir ei godi i mewn a'i storio yn eich car; * pa mor hawdd y gellir ei symud ar wahanol wynebau; * pa ddewis mewn lliwiau a defnydd sydd ar gael.

Ni ellid disgwyl i berson dysgedig Llangadwaladr a Rhydycroesau edmygu Penri.

(b) Bod y Cyngor yn ddiweddarach wedi cadarnhau nad oedd grant ar gael ac o'r herwydd ni ellid datblygu gyda'r cyfamod gan na fyddai'r datblygiad yn hyfyw.

Ni ellid eu goddef.

Efallai y dywedwch chi na ellid hynny fyth, na cheid fyth ddigon o Gymry i gytuno ac i drefnu'r peth yn ymgyrch o bwys a grym.

Deuai i gyffyrddiad â phob math o droseddwyr ac ni ellid cael neb gwell i drafod eu hachosion ac i gynorthwyo'r llysoedd i wneud cyfiawnder â hwy.

Fe ellid dadlau, wrth gwrs, nad oes unrhyw gysylltiad rhwng moderniaeth Cymru a'r modernismo y bu+m yn ceisio olrhain rhai o'i deithi, ac a oedd yn fynegiant pwysig o'r 'argyfwng byd-lydan' y cyfeiriodd Onis ato.

(b) Adroddiad y Prif Swyddog Technegol yn cadarnhau na ellid gweithredu'r trosglwyddiad hyd nes y byddai'r Uned wedi symud i'r adeilad newydd a gwasanaethau ffôn a chyfrifiadurol wedi eu cysylltu.

Ym myd chwaraeon, cafwyd egni ar y sgrîn a newyddiaduraeth o'r radd flaenaf gan Geoff Collins, Laura Watts a Delyth Morgan, gan gynnwys cyfweliadau gyda Graham Henry a Vinnie Jones a darllediadau estynedig o gêmau byw na ellid eu cynnwys ar y sianeli analog.

Sylweddoliad pwysicaf Cymdeithas yr Iaith oedd gweld na ellid ysgaru'r iaith o'i chyd-destun economaidd a chymdeithasol.

Y mae'n bosibl fod cydolygyddion Hughes wedi'i rybuddio yn erbyn gwrthweithio cryfder ei achos drwy ymarfer iaith a ellid ei dehongli yn hunangyfiawn ac â naws sarhau-er-mwyn-sarhau iddi yn yr ysgrifau hyn.

Ni ellid cynnal y statws bonheddig heb addysg, a honno'n addysg glasurol.

Ni ellid amau dilysrwydd ei ddisgrifiadau o amgylchiadau byw y werin, gan fod arolygwyr eraill yn eu cadarnhau: yn wir, fel y cawn weld, byddai'r adroddiadau eraill yn dyfnhau'r argraff fod y bobl yn gwbl amddifad o gyfleusterau cymdeithas.

Mae'n nhw'n ddiogel yng nghanol y tabl ac fe ellid tybio na fyddan nhw'n cymryd y gêm ormod o ddifri.

Hyd y gallaf i weld nid oedd unrhyw reswm pam na ellid fod wedi chwarae y gêm hon ar y Sadwrn.

Dyma ichi Harri Webb: At hynny, fe ellid ychwanegu dinistrio gwead cymdeithas (ar ol y Rhyfel Mawr), methiant y mudiad heddwch i rai, ac i eraill y lleihad yn nifer y siaradwyr Cymraeg.

I gael glo i'r tanau yn eu cartrefi - ac ni ellid coginio heb y rheina - yr oedd yn rhaid cloddio yn y tipiau glo a amharai ar harddwch y cwm, ac wrth gwrs yr oedd yn rhaid cludo sacheidiau adref - ar ysgwyddau'r cloddwyr neu ar ryw gerbyd olwynion, gwagen fach neu goets baban.

Mae Cell Gogled Cerdigion wedi bod yn ystyried pa fath o wrthwynebiad ellid ei ddangos i 'r ymweliad brenhinol.

'Ef yw ystor cerddorion', 'prydyddion a faeth' medd Dafydd y Coed amdano, 'ei noblau yn fau' medd drachefn am yr 'hael cerddwriaidd', a Dafydd biau'r cyfeiriad tra hysbys at y llawysgrifau a oedd yn ei feddiant: yr Elucidarium, 'Ystoryaeu Seint Greal' (yn ol pob tebyg) ac annales, sef cronicl Lladin neu Gymraeg, fe ellid barnu.

Nid gormod dywedyd bod y Saint, yn ôl syniadaeth a chredo'r bobl, megis angylion, a phrin y gellid meddwl am na helynt na thrafferth na llafur, na ellid mewn rhyw fodd alw cymorth y Saint ato a hynny'n bur effeithiol.

Mae'r lluniau llawn lliw hyn o safon mor uchel fel bod modd gweld yn eglur fanylion na ellid eu gweld â'r llygad.

Oherwydd natur ddethol yr aelodaeth bron na ellid dadlau fod dechreuad y Dafydd i'w olrhain yn ôl i gyfarfyddiad cyntaf OM Edwards a Puleston Jones â John Morris Jones.

CYFLWYNWYD adroddiad y Swyddog Adeiladau nad oedd llythyr y tenant wedi ei dderbyn ac felly ni ellid ystyried y cais.

Trwy ymroddiad cymdogion a'r gwasanaeth tân llwyddwyd i arbed peth ar y Swyddfa ond ni ellid ei defnyddio am ychydig amser.

Eto fe ellid dadlau fod rhyw fath ar ddatblygiad ar y syniad am Iawn yn datblygu yn ystod yr ail a'r drydedd ganrif.

Gallai un anghyfarwydd â'r grefft synied bod y saer yn gwastraffu ei amser gan mor ychydig o gynnydd a datblygiad a ellid ei ganfod.