Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

elltydd

elltydd

Dêm Fira Lyn, os da y cofiwch, a ganai'n bersain am y glas adar a ehedai dros wyn elltydd Dover pan oedd y Wlad yma mewn dirfawr berygl o gael ei goresgyn gan estroniaid oerwaed o wlad arall ddrwg.

(Myfyrdod ar y gwcw lwydlas neu'r aderyn prengoch glas (o wyn elltydd Dover draw), neu'r hudol Dr Red(efallai)waed o Gaint - o waldiwch fy mhen hefo potel sôs coch (neu salad crîm), yr wyf ar ganol hynllef gyda'r waethaf...

Ac o feddwl eto, byddai wedi bod yn beth ofnadwy petai gwyn elltydd Dover wedi eu goresgyn gan luoedd atgas yr Elmyn.