Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

elphin

elphin

Ond wrth ystyried Elphin, ar y llaw arall, dichon y cytunem nad oes yn ei waith odid ddim o werth mawr parhaol ac nad oes ganddo gymaint ag un gerdd gron y gellir cymharu ei hansawdd a goreuon ei genhedlaeth nac ag unrhyw genhedlaeth arall.

Yn ol yr Athro, 'Dangosir diffyg cysondeb prydyddol Elphin a gwendid ei ddychymyg yn y chwechawd uchod lle y mae'r gair "adennydd" yn y llinell olaf yr un mor amlwg yn dynodi, yn y cyd-destun, ddifodiant.' Awgrymwn i, serch hynny, fod y gair olaf 'hwy' yn bwysleisiol ac yn gyferbyniol, bod 'aden' ddifodol Cwsg ac Angau, a bod y newid o'r naill i'r llall yn eironig arwyddocaol.

Dyma gameo ohono gan ein hawdurdod pennaf arno, Mrs Ann Rhian Hughes: Unben styfnig a phenderfynol oedd Elphin.

Mewn dau le, serch hynny, y mae'r Athro'n anghytuno a'r ffordd y'i dehonglwn i hi, a gobeithiaf na pheidiaf a chyfleu fy ngwerthfawrogiad o'r gwasanaeth hollol wych a wnaeth ef wrth ddadlennu arbenigrwydd Elphin, os gor-sylwaf ar y rheini.

Mentrwn innau awgrymu fod Elphin yn yr wyth soned hyn, os nad yw'n cyrraedd uchelderau De Musset a Novalis, ac er gwaethaf ei adfeiliaeth ber-bydredig fin de siecle, wedi cyrraedd lefel o orffennedd deallus sy'n tra-rhagori ar lawer o feirdd y ganrif ddiwethaf a gyfrifir rywsut yn haeddiannol o'n sylw.