Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

elw

elw

Yr elw tuag at yr Eisteddfod Genedlaethol.

'Rydan ni'n gwmni sy'n gwneud elw.' 'Ydach chi?' Daeth i sefyll yn syth o'i blaen, ei ddwylo yn ei bocedi, ei goesau'n dalsyth.

Bydd y gyllideb gwerthiannau yn dangos faint o gynnyrch yr arfaethir ei werthu a'r elw gros y gellir ei ddisgwyl oddi wrtho; bydd y gyllideb gynhyrchu yn dangos y nifer a'r mathau o nwyddau y bwriedir eu cynhyrchu, a'u gwerth, ac yn y blaen, am bob agwedd ar weithgarwch y busnes.

Mynnwn bunt o elw am eu cario fel petai!

Y gweithwyr a'u cynhaliodd hwy a'u gweinidogion, heb gymorth yr elw mawr a rydd alcohol i'r clybiau.

Gwerthodd hefyd y tai a feddiannodd megis Pembrey House, Gwesty'r Ashburnham, tafarndy'r Ship Aground a gwiath glo Cwm Capel gan wneud elw da bob tro.

Mae'n rhaid trafod y peth 'fel busnes' nawr a daw geiriau fel 'cynyddu' ac 'elw' a 'chredyd' ac 'ail-fuddsoddi' yn rhan o'u siarad beunyddiol.

Gwelsom fod y Cyfrif Elw a Cholled yn adrodd canlyniadau gweithgareddau'r busnes yn ystod cyfnod o flwyddyn, a'r Fantolen yn dangos adnoddau a goblygiadau'r busnes ar ddyddiad arbennig.

Er enghraifft, mae'n rhaid ystyried yr elw mewn perthynas â'r cyfalaf a ddefnyddir yn y busnes.

Fe ofynnodd - - os oes elw yn cael ei dalu iddynt hefyd - doedd - - ddim yn gweld fod y ddadl honno yn berthnasol.

Tybed na 'welai' y bardd hefyd y caledi a'r dioddef oedd ynghlwm wrth y llafurio am gyflog bychan, i chwarelwr, ac elw mawr, i berchennog?

Bydd yr holl elw yn mynd i Plant Mewn Angen sy'n cael ei ddarlledu ddydd Gwener, Tachwedd 17.

Hysbysodd Mr Causebrook na ddylai preifateiddio effeithio gymaint ar y rheilffordd oherwydd y byddai'n dod dan bennawd "Dyletswydd Cymdeithasol" yn hytrach nag un lle 'roedd yn bosibl gwneud elw.

Pa fodd y rhowch chwi gyfrif am eich tenantiaid truain?" Yn yr un ysbryd, gadawodd Wroth elw tair acer o dir a brynasai ym mhlwyf Magwyr i fod yn rhodd flynyddol i ddeuddeg o dlodion Llanfaches.

Pe gallwn gael elw o'u cyfarfod, yna fe fyddai fy ngweledigaeth, a'm gweinidogaeth yn cael eu cyfoethogi.

Wedi'r cwbl mae'n bosibl mai hwy sydd debycaf o wneud yr elw mwyaf o'r farchnad anghyfreithlon yma.

Mae'r eiddo i fynd i'w frawd, Thomas, tra bydd byw, ond wedyn y mae elw a rhenti ac incwm yr eiddo i fynd at sefydlu a chynnal ysgol ym Motwnnog.

Yn ystod y prynhawn cynhaliwyd arwerthiant, yr elw tuag at gronfa'r Uned.

Rhwng y Cyngerdd a Raffl a drefnwyd gwnaed elw o dros pedwar cant a phedwar deg o bunnau tuag at Cronfa'r Ysgol.

Diolchodd y Llywydd i bawb am eu cefnogaeth, cafwyd noson gymdeithasol hynod o lwyddiannus a bonws oedd yr elw sylweddol a wnaethpwyd.

Yr oedd y cynrychiolwyr wedi trefnu cinio a dawns tuag at elw cronfa cynrychiolwyr

Proffit ar y diwydiant cythreulig 'arfau' a pryd y gwelwn broffit ar y diwydiant Amaeth, sydd yn ol un aelod seneddol Toriaidd, Richard Body, o Sir Norfolk y 'Laime Duck' mwyaf o holl ddiwydiannau ein gwlad.' Nid yw felly yn anodd dod i'r penderfyniad fod y Diwydiant Arfau, Y Lluoedd Arfog, ac Amaethyddiaeth yn diwydiannau y gellir cael elw gwleidyddol Toriaidd ohonynt, ac ar yr un pryd wrth faeddu digon ar Undebaeth a newid rheolau a chyfreithiau'r wlad y mae'n hawdd dylanwadu ar y 'Floating Vote'.

Er enghraifft, y cwestiwn cyntaf a ofynnwn am gwmni yw pa faint o elw y mae wedi ei ennill, a sut y mae hwn yn cymharu â'r flwyddyn flaenorol.

(f) Mae modd profi'r dyfroedd heb rwymo'n hunain i lwybr arbennig - gallwn droi yn ôl, heb i hynny fod yn drychineb, ac yn wir yn aml cawn elw o'r fath brofiadau.

Yn dilyn, ceir golwg ar dywysogaeth Llywelyn cyn y gostyngiad pryd y derbyniai arian dirwyon y llysoedd, tollau a rhenti tiroedd yn ogystal ag elw y marchnadoedd a'r ffeiriau.

Cymhareb holl-bwysig ydyw'r berthynas rhwng elw a'r cyfalaf a fuddsoddwyd.

Bydd rhywun yn sicr o ofyn pam, os oedd yr elw mor uchel, y mynegwyd y fath syndod pan ddatgelwyd y cyfrifon.

Pan ddown at fyd busnes, y mae'n bosibl inni wneud amcangyfrif (neu gyllideb, fel y'i gelwir yn gyffredinol) am y flwyddyn, a chymharu'r cyfrif elw a cholled ag ef ar derfyn y cyfnod.

Mae'n wir fod yr elw economaidd i Gorfforaeth Lerpwl yn enfawr.

Mae BBC Cymru Adnoddau wedi llwyddo i ddod ag elw i'r ganolfan gorfforaethol yn unol â ffigurau'r Llywodraeth ar gyfer Ymgorffori.

'Deunaw oedd gen i ar f'elw, ond fe wnaeth rhyw ddyn yn y farchnad imi brynu hwn gynno fo am naw ceiniog.'

Gweld elw sylweddol ar ddiwedd yr žyl oedd y peth diwethaf ar feddyliau pob un.

Gwrthodwyd yn yr ofn y byddai hynny'n mynd â'r cyfan o'r elw.

Derbyniodd y Llys gyfraniad, oherwydd yr elw ym Mhwllheli, a oedd ymhell y tu hwnt i'w ddisgwyliadau ddwy flynedd yn gynharach.

Gallai Cela Trams redeg y lle, a thalu cyfran go dda o'r elw i'r Trysorlys: byddai hynny'n siŵr o ennill cefnogaeth y Canghellor a hawdd fyddai darbwyllo'r bobl y byddai N'Og mor gyfoethog o hyn ymlaen fel y gallai pawb wledda ar fwydydd llawer mwy blasus a maethlon na wynwyn.

Cymhareb sy'n dangos pa ran o'r gwerthiannau sy'n elw: elw / gwerthiannau.

A bu'r Herald Cymraeg ar ei elw o'i gael wrth y llyw am gyfnod da.

Clywsom nad oedd y cynhyrchwyr hyn yn derbyn 'cyflog'; yn hytrach, câi'r elw ei rannu rhwng pawb, gyda chynllun bonws i'r rhai mwyaf cynhyrchiol.

Os yw'r busnes o unrhyw faint, golyga hyn baratoi cyllideb ar gyfer pob adran; bydd y cyllidebau adran hyn wedyn yn cael eu cyfuno mewn cyllideb elw a cholled i'r busnes cyfan, a byddant hefyd yn rhoi'r ffigurau angenrheidiol er mwyn paratoi'r gyllideb ariannol, a fydd yn dangos y dylifiad o arian i mewn ac allan a'r amcangyfrif o'r fantolen ar ddiwedd y cyfnod.

Gwerthodd hefyd y tai a feddiannodd megis Pembrey House, Gwesty'r Ashburnham, tafarndy'r Ship Aground a gwaith glo Cwm Capel gan wneud elw da bob tro.

Heddiw yr hyn sydd yn bwysig ymhob agwedd o fywyd ydyw pa faint o elw a ddaw allan o unrhyw beth a gyflwynir.

Byddai adeiladydd, er enghraifft, yn ei chael hi'n fanteisiol i agor cyfrif arbennig ar gyfer pob contract y mae'n ymgymryd ag ef, er mwyn iddo fedru dweud pa elw neu golled a wna arno.

Gall Cymru fod ar flaen y symudiad yn ôl at ddyrchafu gwerthoedd dynol a chymdeithas yn lle elw.

Mae'n eu dysgu hefyd i fod yn gynhyrchwyr yn ogystal â bod yn ddefnyddwyr.' Byddai'r elw o lafur y plant yn cael ei ddefnyddio i adeiladu ysgolion eraill, ac i hyfforddi athrawon.

Thema'r gwasanaeth oedd 'Bywyd cyn Marwolaeth' ac roedd gan Mr Hughes ystadegau syfrdanol i ddangos sut mae'r Trydydd Byd yn cael ei ddefnyddio gan wledydd y Gorllewin i wneud elw afresymol o fawr iddynt hwy eu hunain.

Bydd rhai cyfrifyddion yn defnyddio'r gymhareb elw / cyfanswm asedau yn lle elw / cyfalaf a ddefnyddir.

Os oes elw, mae'n cael ei rannu allan rhwng aelodau'r Undeb.

Gan nad oedd yr elw a wneid o redeg y gwasanaeth tren yn dod yn agos at y gost o'i gynnal bydd y gwasanaeth yn dod i ben.

Dangosai'r cyfrifon fod y cwmniau'n medi elw dihafal ac yn talu llog di-ail i'w cyfranddalwyr.

Cynhelir Rali'r Ffermwyr Ieuanc ym Mhenygroes eleni a gobeithir gwneud elw sylweddol wrth werthu bwyd, er y golyga hyn waith caled!!

Roedd yn arbennig o falch nad 'cymorth' o unrhyw fath fyddai'r arian hwn, ond arian y byddai disgwyl iddo wneud elw.

Yn ol cyfartaledd roedd y cynnydd mewn pwysau yn werth oddeutu hanner can punt i ffermr wrth werthu'r anifail gorffenedig, hanner can punt fyddai'n aml yn gwneud y gwahaniaeth rhwng elw a cholled.

Yr unig beth Cymreig am HYDER yw eu dwyieithrwydd arwynebol a'u hawydd i wneud cymaint a phosib o elw allan o'u cwsmeriaid yng Nghymru.

Trwy ddefnyddio cynllun costio, y mae'n bosibl mesur cyfraniad y gwahanol adrannau i'r elw a wneir.

Daeth i'r casgliad mai swydd athro oedd y fwyaf dirmygedig a'r un a ddygai leiaf o elw o bob galwedigaeth ...

Ers rhai misoedd cyn cwrdd â Miss Derwent 'roeddwn i wedi bod yn llythyru â Chwmni Collins, a'i gael y cwmni mwyaf parod i sicrhau fod plant Cymru'n cael cyfieithiadau Cymraeg, a hynny heb ofidio am y golled ariannol a allai ddilyn y fenter, a heb ddisgwyl unrhyw elw, ac eithrio'r cyfle i ledaenu enw da'r Cwmni trwy Gymru.