Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

elwa

elwa

Gall pawb elwa o'r newidiadau hyn.

Ond am ei bod hi'n rhyfel ni allodd elwa arni.

Er gwaethaf llwyddiant etholiadol y Bloc, ni all plaid ffederal ddod â sofraniaeth i Que/ bec yn uniongyrchol, dim ond y senedd yn ninas Que/ bec gwþr busnes o Dwrci ac Iran eisoes yn y wlad yn elwa ar gysylltiadau oesol â'r hen ffordd sidan, ac yn awr yn sugno i'w côl fasnach oedd gynt dan reolaeth ganolog Moscow.

Fe fu cyfraniad y llu hyfforddwyr ledled y Sir ar hyd y blynyddoedd yn amhrisiadwy ac nid gormodedd yw dweud i gannoedd lawer o ieuenctid Meirionnydd elwa'n fawr ar yr hyfforddiant a gawsant er dod yn Amaethwyr a Gwladwyr Da.

'Roedd yn amlwg yn waith a oedd wedi gwneud defnydd llwyddiannus o ysgolheictod Erasmus a Mu%nster ac wedi elwa'n fawr ar fersiynau cynharach Luther, Tyndale a Coverdale.

Roedd rhywun arall wedi methu mynd ar y funud olaf a thybiwyd y byddai rhywun fel fi yn elwa ar y profiad.

Mae CiF yn rhannu'r arian hwn o dan drefniant arbennig gyda'r Apêl, i sicrhau y bydd plant yn ein holl grwpiau yn elwa.

Mae hinsawdd o'r fath yn gymorth i hyrwyddo brwdfrydedd ar ran disgyblion i fanteisio ar bob cyfle y gall addysg Gymraeg ei gynnig drwy elwa'n llawn ar gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg a phrofi agweddau amrywiol o'r diwylliant Cymraeg.

Mae angen parhau i elwa ar y gorau o'r adnoddau Saesneg tra hefyd yn cefnogi cynhyrchu yn y Gymraeg, yn arbennig o safbwynt datblygu'r 'Cwricwlwm Cymreig' yn y dyfodol.

Un o fwriadau'r Pecyn HMS felly, yw cynnig cyfle i athrawon: * adfyfyrio ar eu harferion dysgu presennol, mewn sefyllfaoedd uniaith yn ogystal a dwyieithog gan ofyn pam a sut y maent yn cyflwyno'r gwaith fel y gwnant, * gyd-drafod gydag aelodau eraill o'r un adran y dulliau dysgu hynny sy'n seiliedig ar y defnydd o iaith wrth gyfathrebu yn eu pwnc, * elwa oddi wrth brofiad aelodau eraill sydd yn yr un adran.

Eisteddfod Caerdydd ym 1960 oedd yr Eisteddfod gyntaf i elwa ar y drefn newydd.

O dan yr holl hwyl roedd pwrpas i'r diwrnod, codi miliynau o bunnoedd i elusennau trwy Gymru a gweddill Prydain fel y gallai miloedd o blant elwa.

Ers y dyddiau hynny hefyd mae arfer o weithio mewn mwy nac un iaith yn fwy cyfarwydd ac mae'r cyd-destun gwleidyddol Ewropeaidd a byd-eang yn caniatáu i ni elwa o brofiadau gwledydd eraill yn hwylus.

Roedd bynny'n dgwydd yn naturiol o fewn y BBC lle y byddai'r strwythur yn sicrhau bod y newyddian yn elwa o fwrw'i brentisiaeth yng nghysgod crefftwyr mwy profiadol.

Y Gymraeg oedd yn elwa ar y sefyllfa hon, wrth gwrs, nid y Saesneg.

Dylai'r Gweinidogion gydnabod bod y dull o gynhyrchu adnoddau drwy ddefnyddio'r canolfannau adnoddau yn gost effeithiol iawn gan iddo elwa ar gyfraniad y sefydliadau addysgol sy'n cynnal y canolfannau i leihau y grant.

Aeth ambell aelod o'r gynulleidfa adref mewn dagrau, eraill mewnsyndod ond pawb yn teimlo iddynt elwa o weld perfformiad diddorol, grymus ac addysgiadol.

Byom ar ein hennill o'u cael yn ein mysg ac yn ein heglwysi, a bydd ardal Llanilar yn siwr o elwa am yr un rhesymau.

Bellach, ysywaeth Neuadd William Aston yn Wrecsam sy'n elwa ar draddodiad a gafodd ei feithrin ar lwyfannau'r Rhos.

Mae cwmni Go wedi agor desg ym maes awyr Bryste – dyma ffactor sy'n siwr o ddenu nifer yno gan gynnwys Cymry o'r de a'r gororau – mae Bryste yn elwa tra bo Caerdydd yn colli.

ac y mae Pwyllgor Henoed Y Felinheli wedi elwa oherwydd hynny.

Sylla'n hy i fyw llygad y camera, gan hudo sylw y gwylwyr, yn union fel petai'n Rasputin y drefn gomiwnyddol - 'guru' gorffwyll sy'n ceisio elwa ar hygoeledd y werin.

Gan imi orfod disgwyl am beth amser, gwelais yn dda i elwa ar lyfrgell yr eglwys.

Ymhob gêm gellir dysgu oddi wrth gamgymeriadau ac elwa ar fethiant.

Mae felly yn bwysig i sicrhau y gwneir darpariaeth i wrthbwyso ffactorau negyddol y sefyllfa hon, fel y gall y plant elwa cymaint â'r fam drwy fod mewn amgylchedd gefnogol.

Yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg, cyflwynwyd nifer o argymhellion ynglŷn â thraenio'r aber eang ac adennill tir gan dirfeddianwyr a fyddai'n elwa o wneud hynny.

Fe gafwyd adroddiadau o Sweden i geisio asesu damcaniaeth Phil Williams, gwyddonydd rhyngwladol ac aelod blaenllaw o Blaid Cymru, fod tref anghysbell yno yn elwa mwy dan bolisi rhanbarthol Sweden nag yr oedd ei dref enedigol, Bargoed, yn ei wneud dan bolisi rhanbarthol gwledydd Prydain.

Ni wyddai Hadad chwaith am arfer gwragedd gwerddon Cwffra o deithio i fyny i Bengasi i elwa ar eu cyrff trwy buteinio'n agored, neu gudd, fel morwynion, efallai, i Americanwr neu Brydeiniwr oedd yn byw am ysbaid heb ei wraig ac yn hoff o gwmni yn y gwely.

Syniadau newydd - rhaid sicrhau fod Cymru'n elwa'n ddigonol ar ddatblygiadau newydd megis y Film Industry Training Fund.

Os ydych chi a'r ysgol i elwa oddi wrth y profiad, y sgiliau a'r wybodaeth a enillwch ar leoliad, yna bydd angen i chi ddatblygu cynllun gweithredu.

Fe wnaeth Wrecsam ddigon, gan elwa o flynyddoedd o brofiad yn yr Ail Adran.

Bydd y diwydiant twristiaidd ac economi'r ardal yn elwa'n fawr yn ogystal â Chymru, a fydd yn cael hwb i'w ddelwedd drwy'r byd, meddai Bwrdd Croeso Cymru'r wythnos hon.

Mae'n hysbys fod TAC wedi cymryd y cyfrifoldeb am hyfforddiant o fewn y diwydiant yng Nghymru, ac mae'r sgrîn eisoes yn elwa'n sylweddol o hynny.