Gwisgais fy ffrog siyrsi winau - rhag ofn i Emli feddwl mai dim ond y siwt a wisgwn i ar y prom oedd yn ffit i'w gweld - a chardigan o liw mwstard, a phar newydd o sanau neilon.
Rhywbeth yr oedd gan Emli ddigon ohono, mae'n fwy na thebyg.
Mini bach." Fedrwn i ddim dweud celwydd noeth hyd yn oed wrth Emli Preis.
Edrychai Emli braidd yn anniddig, a hytrach yn betrus hefyd.
Nid oedd fy fferau i yn ymwthio dros ymylon fy esgidiau bach i fel rhai Emli Preis, na fy nwyfron i'n hongian mor llac, na'm bol i mor dynn chwaith o dan fy sgert i.
"Pwy sydd isio rhyw sloban o hen fuwch fel Emli Preis?" "Ydw i'n ych nabod chi?" gofynnodd Emli Preis wedi cyrraedd ataf.
Dechreuais ymesgusodu eto - ond ymlaen yr aeth Emli, fel llanw'r mor ymhlith cestyll tywod y plant ar y traeth.
Lle'r oedd Emli'n fyr ac yn dew, yr oedd hon yn dal ac yn denau; os oedd dwyfron Wmli'n llawn ac yn amlwg, prin y gwyddech chi bod gan y llall fronnau o gwbl; lle'r oedd Emli'n bendant ei cherddediad a phenderfynol yr olwg arni, edrychai'r llall yn swil a diymhongar a di-ddweud.
Yr oedd cyfarwyddiadau Emli'n burion: tro ar y chwith wedi mynd heibio'r eglwys, yna, ymhen tua dwy filltir, dyma'r Tarw Du i'r golwg, lle pur boblogaidd a barnu wrth nifer y ceir a oedd yn ei fuarth.
"Da iawn," ebe Emli, "Pryd y dowch chi?
Ond fe allwn ddychmygu Emli yn ei helfen mewn lle o'r fath!
Eirlys Edwards," meddai Emli Preis toc, fel petai hi am i bawb ar y prom glywed.
"Peth digon digysur ydy bod mewn fflat a honno ar ganol ei hailwampio," ebe Emli, "Rhaid i chi ddod atom ni i fwrw'r Sul." "Rydan ni'n byw hefo'n gilydd," meddai wedyn, a throi at Alis a honno'n edrych allan i eangderau'r mor.
"Mae yna ddigon o le." Tro Alis oedd syllu ym myw llygad Emli.