Sylw Carole Rosen, Is Lywydd Arlwy Deuluol HBO (Home Box Office), oedd, "Dyma'r wythfed Primetime Emmy i'w hennill gan y bartneriaeth hon rhwng Cymru ac UDA o fewn saith mlynedd - gorchest ryfeddol.
Gwnaeth un o brif gynyrchiadau animeiddiedig S4C a BBC Cymru gryn farc yn seremoni 51fed Gwobrau Blynyddol Primetime Emmy a gynhaliwyd yn Hollywood ar Awst y 4ydd 1999.
Daeth y pedair Primetime Emmy a enillwyd gan Chwedlau Caergaint fisoedd yn unig ar ôocirc;l i'r ffilm ddwy ran dderbyn enwebiad am Oscar ac ennill gwobr BAFTA am y Ffilm Fer Animeiddiedig Orau.
Enillodd JOANNA QUINN Primetime Emmy am Lwyddiant Unigol Arbennig ym maes Cynllunio Cynhyrchiad.