Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

emosiwn

emosiwn

Fel gyda'r gweddill, dyma stori dda, sy'n cael ei hadrodd yn dda ac sy'n creu ymateb, emosiwn a chynhesrwydd.

Ceisia gyfleu ei deimladau i aelodau eraill y grūp ond eu hunig ymateb yw mynnu bod yr amser am emosiwn heibio ac mai'r hyn sydd ei angen yn awr yw strategaeth a chanllawiau pendant ac astudiaeth o wleidyddiaeth, nid datganiadau o dristwch neu ddicter na hyd yn oed o lawenydd.

Roedd y cwbwl ar dâp - y dagrau, y gweiddi, menyw'n llewygu dan y gwres a'r emosiwn, wynebau oer a gynnau cadarn y milwyr Israelaidd, a baner y wladwriaeth Iddewig yn chwifio'n herfeiddiol ar dir y daeth yn amlwg imi nad oes ganddynt y bwriad lleia' o'i ddychwelyd i'w wir drigolion.

A'r Ysbryd Glân trwy'r emosiwn at y deall a thrwy'r deall at yr ewyllys.

WALI: (Yn simsanu gan emosiwn braidd) Ras gyfnewid a nofio ar dy gefn?

Mae'n amlwg fod Lenz yn gweld colli'r emosiwn a'r angerdd a oedd yn rhan o brotestiadau'r chwedegau ac yn teimlo mai llwm a dideimlad yw gwleidyddiaeth y saithdegau cynnar mewn cymhariaeth.