Ond, yn groes i'w ddisgwyliad, daeth mab yr Yswain ato, gyda gwên ar ei enau, gan ddymuno bore da iddo, a chan ei annog i deimlo yn hyderus, ac ychwanegodd: `C'lynwch chi fi, Harri, pan ddaw hi'n adeg cychwyn, a mi fyddwch yn all right.
Nid tafodiaith y Cei oedd tafodiaith yr aelwyd a chlywn gryn dipyn o Welsh English y Rhondda o enau fy mam a 'nhad.
Teimlai Pamela fod barn Duw wedi ei chyhoeddi yn ei herbyn hithau y noson honno a'i bod yn ei chlywed o enau Dowdle.
Fe safodd fan'ny yn y drws fel tase fe wedi'i droi'n garreg, a dim gair o'i enau fe.
Buont yn enau i'n cydymdeimlad dwys â Phegi, ei briod, teuluoedd y ddwy ferch Helen a Janet, ac heb anghofio ei frawd, Will.
Picton Philipps ar yr Uchgapten Stuart i ddanfon mintai fwy o filwyr i'r groesfan, ac felly dyma Gatrawd Caerwrangon yn brasgamu ymlaen a'u bidogau wedi eu gosod ar enau'r drylliau.
Yn ystod cyfnod o chwarter canrif o ymwneud â seiciatreg, ychydig iawn a glywodd yr adolygydd yma am chwedlonaieth Geltaidd o enau neu ysgrifbin seiciatryddion neu seicolegwryr.
Yr oedd chwant cnoi yn ei ddannedd; y poer tan daflod ei enau yn wyn a phluog fel poer y gwcw; ei ben yn boen a'i gorff yn llesg ac yn llaith ac yn darfod o fodfedd i fodfedd.
Poenau a phleserau serch oedd byrdwn yr udo a'r cwafrio a swniai'n rhyfedd iawn i glustiau anghyfarwydd Hadad, er i'r miwsig dynnu ambell Alaah cymeradwyol o enau rhai o'r Senwsi.
Nid pruddglwyf rhamantus bellach, ond nodyn sinig o enau gŵr a welodd taw twyll ydoedd y cyfan o'i gylch.
Duw'n unig a wyr beth oedd ymateb y saint yn nwfn eu calonnau wrth i'r straeon a'r dywediadau carlamus arllwys yn un llifeiriant o'i enau.
Ond pan lefaraf fi wrthyt, fe agoraf dy enau, ac fe ddywedi wrthynt,
Ymlaen yr aethom drwy'r fagddu nes i enau gogleddol y twnnel ymddangos braidd yn ddisymwth, ac yn nes atom nag y disgwyliem, gan fod tro yn y twnnel.
Ond, cadarnhaodd datganiad arall o enau'r Ysgrifennydd Cartref fod rhaid i'r Llywodraeth amddiffyn bywyd, eiddo'r cwmniau rheilffyrdd, a'r rhwydwaith er dosbarthu bwyd.
Yr oedd yn fyrlymus a lliwgar ei barabl, ac yn un man gollyngodd y gair bugger o'i enau.
Gydag ymdrech enfawr, llwyddodd i atal y geiriau aflednais rhag llifo o'i enau a bodlonodd ar edrych yn fileinig ar y swyddog ifanc.
Ond os oedd 'gwedd ei ymddangosiad yn brawychu'r gwan eu ffydd', yn ôl Nantlais eto, 'roedd 'ei lais fel diliau cariad a'i wên oedd fel bore ddydd.' Siaradodd yr Iesu wrthynt ar unwaith, ac o gymryd y geiriau gan Marc, Mathew ac Ioan gyda'i gilydd, yr oedd balm i'w harswyd ynddynt: 'Codwch eich calon Myfi yw; peidiwch ag ofni.' Fel y gŵyr y cyfarwydd, yr oedd rhinwedd rhyfeddol yn y geiriau Myfi yw ar enau Iesu Grist, yn enwedig yn yr Efengyl yn ôl Ioan: 'Myfi yw [y Meseial] sef yr un sy'n siarad â thi 'Pan fyddwch wedi dyrchafu Mab y Dyn byddwch yn gwybod mai myfi yw'; 'Yn wir, yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, cyn geni Abraham,yr wyf fi'; 'Pwy yr ydych yn ei geisio?' 'Iesu o Nasareth,' meddent hwythau.
Gwnaf i'th dafod lynu wrth daflod dy enau, a byddi'n fud, fel na elli eu ceryddu, oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt.
Yna, wrth i Gethin ei lapio'i hun amdano, crawciodd yn boenus, 'He, gofala lle wyt ti'n gosod y blydi sugnydd, wnei di!' 'Ddrwg g-gen i,' sibrydodd y gelen a'i enau wedi'u cloi'n dynn.