Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

enbyd

enbyd

'Do, fe welais Jonathan,' ochneidiodd Mathew, 'ond mae gen i newydd enbyd.' 'Mae wedi marw,' casglodd Non yn dawel.

Yr angen enbyd am ragor o Feiblau yng Nghymru a barodd iddo awgrymu ei sefydlu a'r peth cyntaf a gyhoeddwyd ganddi oedd y Beibl Cymraeg, gyda Charles yn olygydd iddo.

Collwyd rhywogaethau dirifedi yn llwyr a gwelwyd lleihâd enbyd mewn eraill.

Pam y penderfynwyd defnyddio argraffiad Charles ac Oliver sy'n malurio'r testun gwreiddiol yn enbyd?

Cafodd y tad waith gyda chwmni rheilffordd y GWR yn Paddington a dechreuodd yfed diodydd meddwol yn enbyd.

Wrth gwrs bu'r ardal hon yn dioddef yn enbyd yn economaidd ac y mae cyfraddau diweithdra ymysg y gwaethaf yng Nghymru.

Ond rodd darganfod aur yn Awstralia yn nechrau'r pumdegau, megis yng Nghaliffornia ychydig o flynyddoedd ynghynt, yn ddigon i sbarduno miloedd ar filoedd i fentro ar y fordaith bell er garwed y peryglon enbyd.

'Roedd tlodi enbyd ym Mhrydain o hyd ac 'roedd llawer o waith i'w wneud cyn y gellid taflu ymaith yr hen gadwyni a rhodio'n rhydd.

Rwy'n cofio'n glir cyrraedd Montreal yng nghanol storm drydanol enbyd, a gwres llethol ar ben hyrmy yn`sugno pob owns o- ~nni oedd- yn y corff.

Gwelwyd dirywiad enbyd yn y brwdfrydedd hwn yn y chwe degau am amryw resymau, nid y lleiaf ohonynt ddatblygiad y cyfryngau.

Of nai'r meddyg y byddai'n rhaid torri'r droed i ffwrdd gan mor enbyd oedd ei chyflwr, ond yr oedd Phil yn gyndyn iawn i gytuno â hynny.

ddim oll i gynnig unrhyw help iddo; a chafodd Waldo siom enbyd, a theimlodd ddigalondid dybryd.

Chwedl Idris Davies: Bron, bron a chredu, ond yn cael pethau'n anodd enbyd.

Mae cyfarwyddwr hyfforddi Clwb Rygbi Casnewydd Allan Lewis, yn cwyno'n enbyd am strwythur y gêm yng Nghymru.

Yna, gyda rhediad amser ganwyd tri o blant iddynt ond cyfansoddiad gwan oedd ganddi a dadfeiliodd yr iechyd yn enbyd a gorfu i'r gŵr, yn erbyn ei ewyllys, erfyn am help i gael arbenigwr i'w gweld.

Felly pan ddaeth y dirwasgiad enbyd ar ôl y rhyfel byd, Cymru a ddioddefodd gyntaf a Chymru a ddioddefodd waethaf.

Pechasai'n enbyd: oni churasai'n haerllug ar y drws a hynny â Phregethau W.

Fe wahaniaethir rhwng y teip yma - y damweiniol - a'r teip patholegol a achosir gan nifer o ddoluriau, fel coma oherwydd is thyroidedd, trawiad enbyd o'r galon, gostyngiad yn lefel y siwgr ar ôl i berson newynog yfed gormod o alcohol, sioc, a gostyngiad ym mhwysedd y gwaed o ganlyniad i ddamwain neu ddolur heintus fel Newmonia, ac yn bennaf mewn person sy'n wael iawn oherwydd gwenwyniad gwaed.

Ysbardunai Harri ei geffyl i ddilyn Ernest, a chyn pen yr awr yr oedd wedi blino yn enbyd, a da fuasai ganddo gael gorwedd i lawr yn rhywle, a chafodd gyfleustra yn bur fuan.

Ceir darlun gwahanol o Gymru a'i diwylliant o safbwynt Americanes yn y gyfrol, yn ogystal â'r problemau enbyd mae rhywun yn ei gael wrth ddysgu'r iaith.

Cododd y bwced a throi at y graffiti enbyd a baentwyd hyd furiau ei gelloedd.

Ac yn chwyldro enbyd yr Ugeinfed Ganrif, 'rwy'n credu mai gwell ydy i rai arweinwyr ddod i'r Ffydd ar ôl anawsterau dirfawr.

Ac mi ddyfynnaf: 'Tydan ni ddim am adael i lofruddion enbyd fel Vatilan gael crwydro'r strydoedd yn ddilyffethair'.'

Yn y blynyddoedd enbyd hyn, yr unig ddihangfa i Brotestaniaid blaengar oedd ffoi am loches i ddinasoedd Protestannaidd y Cyfandir.

Pedair blynedd a barhaodd hwn er hynny gan i long y cwmni suddo mewn storm enbyd gerllaw Lerpwl ac oherwydd hynny daeth terfyn ar yr holl weithgaredd.

Daliai i gwyno'n enbyd.

Mae'n wir fod prisiau wynwyn yn cael eu cadw i lawr yn weddol, ond roedd pris wermod lwyd a senna ac asiffeta wedi codi'n enbyd.

Bydd hyn yn arwain at ddirywiad enbyd yn statws y Gymraeg yng Nghymru'.

Yna, gyda rhediad amser ganwyd tri o blant iddynt ond cyfansoddiad gwan oedd ganddi a dadfeiliodd yr iechyd yn enbyd a gorfu i'r gwr, yn erbyn ei ewyllys, erfyn am help i gael arbenigwr i'w gweld.

Ac ar ben hynny, coch a dyfrllyd oedd dwy lygad hwn, fel pe dioddefai'n enbyd ac yn gyson o'r fffliw.

Ac y mae agweddau arni yn cael eu mynegi o hyd, bedair canrif ar ddeg yn ddiweddarach, yn epig faith enbyd Bobi Jones.

Bu'r cyfnewidiad o'r naill gyflwr i'r llall yn un hir a phoenus ac yr oedd Robert Ferrar yn un o'r rhai a ddioddefodd yn enbyd yn ystod y berw hwn.

Ond roedd y llanciau mewn poen enbyd, yn enwedig yr un dorrodd ei goes.

Ysywaeth, flwyddyn neu ddwy ar ôl i Forgan ddod i'r fywoliaeth fe aeth yn ffrae enbyd rhyngddo ac Evan Meredith o Lantanad, twrnai ifanc yn llys Cyngor Cymru a'r Gororau yn Llwydlo ac uchelwr penna'r plwyf.

Rhai gweithiau yn unig y gwelais hi'n wirioneddol ddigalon, a hynny pan oedd y briwiau ar ei choesau mor enbyd o boenus fel na allai symud o'i chadair o flaen y tân nwy yn ei chartref.

Mae'r ysgrif Ladin a gerfiwyd arni wedi pylu'n enbyd ond gellir darllen y cofnod mai yn y fangre hon yr enillwyd Buddugoliaeth yr Halelwia yn ugeiniau'r bumed ganrif O.C Sut digwyddodd hynny?

Yr oedd holl wareiddiad a diwylliant Ewrop mewn perygl enbyd, meddai, ac eto prin y mae eco o'r holl broblemau hyn ym marddoniaeth gyfoes Cymru.

Byddai pysgotwyr yr ynys yn peryglu eu bywydau mewn corwyntoedd a stormydd enbyd, ac yn y ddeunawfed ganrif cyrchai smyglwyr i lawer traethell unig ac anghysbell i lanio eu nwyddau anghyfreithlon.

Gwelir ei eisiau yn enbyd ym Mangor oblegid yr oedd yn rhan mor amlwg a hyglyw o fywyd y Coleg, yn academaidd ac yn gymdeithasol.

Y mae disgwyliadau a phryderon pobl sir Fôn wedi newid yn enbyd tros y ddwy ganrif ddiwethaf.

Erys y clawdd hwn heddiw a adnabyddir fel Embankment yn dystiolaeth o ddyfeisgarwch yr arloeswyr hyn i gyrraedd nod arbennig ond fe fu'r defnydd ohono yn achos rhwyg enbyd rhwng y ddau bartner.

Daliaf i fod y math o Gymreictod a'r math o Ewropeaeth a fynegir yma gan Gruffydd yn rhagori ar y fersiynau a arddelid gan Saunders Lewis yn ystod blynyddoedd enbyd ac argyfyngus yr Ail Ryfel Byd.

Y tro cyntaf iddo hwylio am Gymru, dair blynedd ynghynt, cododd storm enbyd ar y môr a bu'n rhaid troi'n ôl am Ffrainc.