Mae ein hiaith mewn enbydrwydd, ein tir o dan warchae gan estroniaid, ein diwydiannau'n adfeilion a'n plant ar wasgar ym mhedwar ban y byd.
'Y gweld cyntaf' a ddaeth iddo, fel yr esboniodd mewn llythyr at Mary Lewis, a oedd yn gyfrifol am y cynhyrchiad, oedd, 'nad oes ddianc rhag enbydrwydd arswydus economeg y gors.' Dyma sail yr athroniaeth feirniadol a fynegwyd yng Nghwm Glo: 'Gweld cefn gwlad yn dihoeni a wneuthum,' meddai ac o ganlyniad meithrin ymwybyddiaeth o'r graddau y dylanwedir ar fywyd yr unigolyn gan amgylchiadau sydd y tu hwnt i'w reolaeth ef.
Mewn gwirionedd, y mae Samuel a Phantycelyn yn dweud yr un peth - pobl dda'n llafurio a'r wlad er hynny mewn enbydrwydd moesol ac ysbrydol.
Dylifodd estroniaid wrth y miloedd i gefn gwlad a bwriwyd yr iaith Gymraeg a'r diwylliant traddodiadol i enbydrwydd.
Yr oedd straen y Rhyfel a'i enbydrwydd wedi peri bod y milwyr yn holi cwestiynau dwys ynglŷn â phwrpas bywyd, ond nid oedd hynny wedi eu dwyn ronyn yn nes i'r Eglwys.