'Nei di mo ngadel i i fynd i'r hen gollege ene, a 'nei di, Rhys?' ' Atebodd Dafydd drosof, ac yr oeddwn yn ddiolchgar iddo ``Mi gewch siarad am hynny eto, Miss Hughes,'' ac wedi ychwanegu ychydig o eiriau cysurus, aeth Dafydd ymaith.
Mae gwaith fel hyn dipyn yn newydd i chi, ond yr ydw i wedi hen arfer â fo.' Wedi dweud hyn, symudodd Ernest i siarad â rhyw sbrigyn o fonheddwr, a dywedodd yn rhy isel i Harri allu ei glywed: `Mi wna i i'r d l ene dorri corn ei wddw neu gorn gwddw ei geffyl cyn canol dydd.' Canodd y corn, ac ymaith â'r cŵn, a'r marchogion yn eu dilyn.
Dene'r bachgen ene yn mynd i'r college; ond mi fydde yn llawer ffitiach iddo aros gartre a helpio Miss Hughes os oes rhw deimlad ynddo.' ' ``Neiff Rhys Lewis ddim meddwl, tybed, am adael Miss Hughes yn yr helynt y mae hi ynddo yrŵan?