Cyllideb Lloyd George yn siomi'r Torïaid: cyflwyno 'supertax' o 6d ( 2 1/2c ) i'r rhai a enillai dros £5000 ac ychwanegu at dreth alcohol a baco i dalu am wasanaethau lles.
Ond Lewis a enillai bob tro, a'r llall o'i go'n lân am iddo golli.
Yr oedd tlodi'r wlad yn ei gwneud yn amhosibl i filoedd hepgor yr amser i'w plant gael addysg am flynyddoedd; yr oedd pob ceiniog a enillai'r plant wrth weithio ar y ffermydd ac yn y gweithfeydd yn help i ysgafnhau cyni'r teulu.
Fel dyfarnwr enillai barch ar bob llaw oherwydd ei wybodaeth, ei gadernid a'i degwch.
Am y clod hunanol a enillai Geraint mewn twrnameintiau y sonnir ar derfyn adran gyntaf y 'rhamant' ac wrth gyfeirio at ysblander ei lys yn yr ail adran, ond ar ddiwedd y chwedl y mae Geraint yn wir lywodraethwr ac yn rhannu'r clod â'i wraig.
Fel yr enillai'r Saesneg dir croeso a bri ar bob llaw, haerai'r beirdd fwyfwy fod serchiadau'i chynefin yn dynnach nag erioed am y Gymraeg.
Enillai ddigon o gyflog i fforddio siwt trowsus hir, i brynu ffon, i fynd ar ei wyliau i Landrindod unwaith o leiaf, i gael ychydig o ddannedd gosod ac i ddechrau smocio.
Enillai'r mwyafrif llethol ohonynt eu bywoliaeth drwy drin y tir a bugeilio gwartheg neu ddefaid.
Yn awr mae plant yn cael mwy o arian poced nag a enillai ein tadau o gyflog mewn wythnos.