Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

enillion

enillion

Prin oedd yr enillion ar y gorau a doedd wiw imi feddwl am aros yn Hendregadredd yn hir.

A bwrw'n fras fod prisiau wedi dyblu, ac enillion wedi cynyddu ryw deirgwaith, yr oedd gwir incwm wedi codi ryw hanner dros y cyfnod: camp ddigon canmoladwy.

Ar y cyd felly yr oedd cyflogau - hynny yw, cyfartaledd enillion wythnosol - wedi cynyddu ryw dair gwaith.

Nid dechrau o'r dechrau yr şm o hyd wrth ddatblygu'r grefft o ddysgu ail-iaith, ond manteisio ar yr enillion a gafwyd wrth astudio didachteg iaith ac ieithyddiaeth gymwysedig yn broffesiynol.

Mae ei wŷr yn crechwenu ac yn ei oganu ymhlith ei gilydd, ond maent yn grwgnach hefyd wrth wedd clod y llys ac enillion y twrnameintiau'n diflannu.

Enillion Net o Ymelwa

Cawn olwg ar ffynhonnell gyllidol werthfawrocach na'r enillion tirol; sef y brenin yn ennill y gallu a'r breintiau a berthynai i Lywelyn Ap Gruffydd yn y gogledd ynghyd a'r wrogaeth a berthynai i'r Tywysog.

Mae lluniau'n gallu dweud rhan o stori - sef bod yna ladd, dioddefaint, enillion a cholledion ond, hyd yn oed wedyn, nid dyna ddiwedd y gân.