Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

enillwyr

enillwyr

Parc Maesteg oedd enillwyr y gêm rhyngddyn nhw â Thon Pentre.

Mae nifer o enillwyr prif dlysau llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol yn galw am ddileu'r gair "Brenhinol" o'r teitl swyddogol.

Yn ail gymal y rownd gyn-derfynol, curodd Bayern enillwyr y gystadleuaeth llynedd, Real Madrid, 2 - 1, sef 3 - 1 ar gyfanswm goliau.

Ef, un flwyddyn, oedd ar ben y rhestr enillwyr yr Arholiad Ysgrythurol drwy'r sir.

Tîm rygbi Abertawe, 42 - 21, oedd yr enillwyr yn eu gêm yn erbyn Glasgow ddoe.

Mae'n rhaid fod Mrs Thatcher yn ymwybodol o hyn pan gyflwynodd hi fedalau i enillwyr Ymddiriedolaeth Goffa Winston Churchill pan oedd hi'n Brifweinidog.

Mae tri llyfr Cymraeg a thri Saesneg ar y rhestr fer gyda gwobr o £3,000 yr un i'r enillwyr ym mhob categori a £1,000 yr un hefyd i'r awduron eraill sydd wedi cyrraedd y rhestr fer..

Llongyfarchiadau mawr i bawb â anrhydeddwyd - ac o edrych ar yr enillwyr mae'n amlwg fod yna gyfoeth anhygoel yn y byd roc a phop yng Nghymru.

O gylch Papur Menai roedd clybiau Dwyran a Phenmynydd a Llangoed wrth gwrs ond rhwng Penmynydd a Rhosybol yr oedd hi am Darian yr Enillwyr efo Rhosybol yn y diwedd yn mynd a hi.

Bu ymosodwr Cymru, John Hartson, yn chwarae gyda Arsenal rhwng 1995 ac 1997 ac fe chwaraeodd e mewn rownd derfynol gyda'r Gunners - Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop.

Mae enillwyr Cwpan Gilbert y llynedd, Y Barri, drwodd i rownd derfynol eleni ar ôl curo Llanelli 4 - 1 yn ail gymal y rownd gyn-derfynol ar Barc Stebonheath.

Er hynny roedd yn rhaid aros i gymdeithasu â'r enillwyr tan amser cau cyn cychwyn yn ôl am Lerpwl.

Ymysg yr enillwyr o Benmynydd oedd Dilwyn Owen a Dylan Jones am Baratoi Oen at gylch sioe; Arwel Jones a Medwyn Roberts am wneud crempog (a'i thaflu!!); Paul Parry ac Ann Williams am addurno drwm olew, Arwel Jones ac Aled Pennant am wneud cenel i gi, ac unwaith eto eleni, eu tim dawnsio gwerin.

Bydd enillwyr y cynghrair arfaethedig - a phencampwyr Cymru felly - yn gymwys i gynrychioli ein gwlad ym mhrif gystadleuaeth pêl-droed y cyfandir, sef Cwpan Ewrop.

Ym mhencampwriaeth y rhai dan 18 oed - y minor final - Galway a drechodd Cork, ac yn y gêm dan 21 oed, Limerick oedd yr enillwyr.

Wrecsam yw enillwyr y Cwpan Cenedlaethol y tymor hwn.

Llongyfarchiadau i'r enillwyr.

Y gobaith nawr yw y bydd enillwyr y gêm yn chwarae Wrecsam yn y pedwar ola, wythnos nesa.

Bydd enillwyr y Steddfod yn mynd ymlaen i'r rownd derfynnol fydd yn cael ei gynnal ddechrau Rhagfyr.

Teyrnged Bryn Ymysg yr enillwyr - er mai rhannu'r wobr ariannol ddaru o - mae BRYN TERFEL.