Cyn symud ymlaen i fanylu ar yr ystyriaethau wrth brynu carafan, efallai y dylasem oedi am ennyd i bwyso a mesur y manteision a'r anfanteision o brynu'n ail law a meddwl o ddifrif hefyd am bry- nu'n breifat o'i gymharu a phrynu gan ganolfan werthu.
Yn awr, cafodd ennyd o'i weld trwy ei lygaid beirniadol ef, ac ymddangosai mor ddi-raen ag adeilad yn ardal y slymiau.
Fe'i dallwyd hi am ennyd gan oleuni'r bore bach yn ffrydio, yn wyrthiol bron, i mewn i'r gegin dywyll.
yr oedd yr ergyd o drydan a ddeilliai o'r weithred yma yn achosi i'r ruban papur yn y peiriant derbyn, yn y pen arall, gael ei wasgu am ennyd yn erbyn yr olwyn lythrennau, a thrwy hynny yn achosi argraffu'r lythyren arbennig honno.
Tawelwch am ennyd, mwy o sŵn.
Troes yn ôl i siarad efo rhywun a gwnaeth y ffordd y daliodd ei ben am ennyd i lun Sonia Lloyd lenwi meddwl Sioned unwaith eto.
A'r ennyd honno fe'i cafodd Carol ei hun yn difaru nad oedd Emyr yno.
Ennyd hamddenol a hyfryd yw honno yn y beudy pan ollyngir y buchod o'u haerwyon.
Roedd golau gwan y lleuad yn help iddynt weld ei amlinell fel y safai am ennyd yn y fynedfa cyn camu i mewn rhwng y muriau.
Yr oedd fy stumog i'n dechrau troi, ac er mwyn rhoi taw ar Jini am ennyd, dywedais, 'Allwch chi ddim dod o hyd i eira llynedd, heb sôn am ei bwyso!
Os arhoswn ennyd ac ymchwilio ychydig i'w hanes, gwelwn mai testun rhyfeddod yw anguilta anguilla.
Yn ddiddiwedd!' Roeddynt yn dawel iawn am ennyd.
Ond teimlais yn ansicr am ennyd.
Ar hynny hyrddiodd ei hun arnaf fel ci a'r ennyd nesaf roedden ni'n dau yn ymdrybaeddu yn llwch yr iard, fy llaw dde fel crafanc yn tynnu yn ei wallt, a'i fysedd yntau'n bodio fy llygaid, a chledr ei law yn taro a phwyso nes bod y gwaed yn chwythu allan o'm trwyn.
Er hyn, allan o'r holl elfennau, y nudden sydd yn deimladwy ac yn cyflwyno bendith i ddiogelu yr ennyd sydd yn ddi-ofn am fod yr Hariers a holl awyrennau hynod y Sais yn sefyllian mewn gwyll unig, a pheiriannau peryglus yr Argies: y Super Etendards sydd yn cludo'r Exocets.
Wedi sefyll am ennyd ar stepan drws y ffrynt, yn cymhwyso'r nocar, mewn cystadleuaeth â'r gramaffôn, fe'm gollyngwyd i mewn gan y forwyn fach, â'i hwyneb yn disgleirio gan sirioldeb a sebon.
Yn yr ennyd hon fe'm cofleidiodd ac fe gydiais ynddo.
Roedd y ddau arall hefyd wedi gweld fflach ei olau am ennyd fel yr ymlwybrai tuag atynt.
Sefais am ennyd yn reddfol.
Oedodd y ddwy am ennyd ar y gair 'caneri' a gloywodd eu llygaid.
Rhonciodd y llong yn waeth nag arfer yr ennyd nesaf, a chlywais lais dyn yn gweiddi'n dorcalonnus yn un o'r cabanau 'roeddwn newydd ei basio.