Dywedodd entomolegydd (person sy'n astudio pryfetach yn broffesiynol) wrthyf yn ystod un gaeaf caled fod y mathau sy'n gaeafu yn y ddaear yn treiddio'n ddyfnach fel y disgyn tymheredd pridd er mwyn ceisio amddiffyn eu hunain tuag at oroesi i dymor arall.
Os yw'r hyn ddywedodd yr entomolegydd yn gywir, a chan gofio mai nid yn y ddaear yn unig y gaeafa pryfetach dylid sicrhau fod gennym gyflenwad o leiddiaid i'w gwrthwefyll, hynny yw os credwn mewn cemegau felly.