Gollyngdod digamsyniol ar bnawn heulog o Fehefin i gaethion bach y desgiau pren fyddai edrych i fyny ar y manol yn entrychion yr ysgol a chofio fel yr oedd Wmffra a Nedw wedi treulio pnawn cyfan yn y seilin yn gollwng slumod wrth ben dosbarth y sgþl.
Aeth tatw yn brin a chododd eu pris i'r entrychion ond, er cyn lleied y cnwd, honno oedd y flwyddyn fwyaf broffidiol i'r ffermwyr tyfu tatw.
Bron na ddywedwn fod undonedd gwastatiroedd yn groes i natur y Celt a hynny am ei fod o bosib wedi etifeddu tueddiadau sy'n medru ei godi'n sydyn i'r entrychion, a bod undonedd yn lladd ei ysbryd.
Mae'r disgrifiadau yn canmol y tai i'r entrychion ac yn pwysleisio pob pwynt da ynglŷn â nhw.
Roedd pêl-droed Brazil yn codi rhywun i'r entrychion -- ....nid jest chwarae oedd yma ond celfyddyd yn rhoi mynegiant i'r ysbryd dynol ar ei orau, yn llawn llif dychymyg, creadigrwydd a llawenydd.
Yn y prynhawn, dewis y ffordd hawdd a dewraf i fyny'r llethrau, sef mewn car cêbl, a'i wifrau syndod o gryf yn llusgo'r wynebau chwilfrydig a'r boliau jeli i'r entrychion.
Yn yr entrychion roedd llais hon yn syfrdanol ac yr oedd y rhaglen wedi ei dewis i sicrhau ein bod ni i gyd yn ymwybodol o hynny.
Wedi ei chanmol i'r entrychion gan y beirniaid a'i gwelai yn dorriad gwawr newydd y nofel Gymraeg cafodd darllenwyr cyffredin a drodd mor awchus tuag ati eu hunain mewn cors o ddryswch.
Ond cyn cychwyn, roedd o wedi tynnu dau gan punt o'i gownt Post a chael hwyl wrth weld Maggie Huws yn codi i'r entrychion.