Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

enwad

enwad

Ac nid oedd yn ddim ganddo adrodd hanes rhai o fawrion yr enwad yn ystod ei wers Ysgol Sul.

Wel mi gan nhw eu gorfodi dwi'n credu, gan amgylchiadau, i ddod i delerau efo'r sefyllfa oherwydd faswn i'n meddwl, er na allaf siarad o brofiad, ymhlith yr hen oedd y styfnigrwydd yma, yr hen bobl yn ei chael hi'n anodd i symud a newid enwad, neu newid adeilad, addoldy, ond tydi bobl ifanc yn malio fawr ddim am bethau fel hyn, a 'dwn i ddim beth fydd dyfodol yr Eglwys neu'r Capeli os ydi'r bobl ifainc yn troi i fod yn Gapelwyr neu Eglwyswyr unwaith eto.

Pregethai'n aml ar y Suliau, a'i unig amcan oedd "helpu allan" eglwysi o bob enwad.

Er mai Bedyddwyr oedd teulu tad Euros, dewisodd fynd i'r weinidogaeth gyda'r Annibynwyr, enwad ei fam-yng-nghyfraith a fynychai Gapel Hermon, Treorci.

Baker, un o gaplaniaid enwad yr Annibynwyr.

Nid gweddus felly difri%o saint Duw, ni waeth i ba enwad y maent yn perthyn.

Ac felly y lluniwyd trefniadaeth glos a oedd cyn bo hir, gyda chynnydd y mudiad, i greu rhywbeth tebyg iawn i enwad.

Annibynnwr oedd ef, ond ni wnâi hynny lawer o wahaniaeth yn yr oes honno; cadwai brodyr un enwad lygad barcud ar weithgarwch y llall.

Yr oedd gwrandawyr yn aml iawn yn crwydro o gapel i gapel ac o enwad i enwad yn ôl eu mympwy a gallent yn hawdd ymddangos yn ystadegau amryw eglwysi.

Ond nid dyn un enwad yn unig oedd Tegla na dyn un maes.

Mae'n amlwg mai cadarnhau'r patrwm cyffredinol y mae'r ffigurau hyn - at ei gilydd eglwysi bychain oedd rhai Eifionydd o bob enwad.

Megis yr ymosododd Evan Evans ar yr Esgyb Eingl yr ymosododd Emrys ar achosion Seisnig ei enwad a mynd rhagddo i ddadlau mai'r iaith Gymraeg oedd prif fater politicaidd Cymru a chraidd ei bod, mai eilbeth oedd pob problem boliticaidd wrth hon.

Mi ddôth y dyn llyfr bach ata i ar ddiwedd yr oedfa bore Sul a dweud wrtha i yn blwmp ac yn blaen na chawn i byth fynd yno wedyn am fy mod i'n rhoi oel ar fy ngwallt.' O drugaredd, 'roedd gan y bachgen hwnnw gryn dipyn o synnwyr digrifwch ac fe ddaeth yn bregethwr poblogaidd iawn ac yn un o arweinwyr 'i enwad - er 'i fod o'n dal i roi od ar 'i wallt.

Gall diwinyddion a gwleidyddion da godi eu llygaid tu hwnt i ofynion caeth enwad neu blaid.

Gellid boddi pob gwahaniaeth arall, boed iaith neu genedl neu enwad neu beth a fynnoch.

Fel yr oedd teimladau'n poethi, a pherygl i'r Rhyddfrydwyr dynnu'n ôl, daeth yr Henadur William George i'r adwy ac apelio at ei blaid ail ystyried a rhoi'r Ymgyrch, fel yr awgrymasai Plaid Cymru, yn llaw mudiad unol nad oedd yn rhwym wrth na phlaid nac enwad, cyngor na mudiad o unrhyw fath.

Cafwyd tystiolaeth debyg am ymagwedd y Lluoedd Arfog tuag at y Rhyfel gan gaplaniaid pob enwad fel ei gilydd.

Ian Paisley yn agor un o eglwysi ei enwad ym Mhorth Tywyn.

Edrychai pethau'n addawol dros ben iddo ef - pobl o bob plaid ac enwad a chyngor yn fodlon cydweithio a'i gilydd i ennill rhywbeth mawr, sylweddol i Gymru.

I'r tadau Methodistiaid Calfinaidd ym Mon, ac yn wir ym mhob ardal yng Nghymru bron, roedd Gwyddelod a Phabyddion i'w hosgoi ar bob cyfrif, ac felly roedd llongau Cymreig yn perthyn i Fethodistiaid Calfinaidd Cymraeg, gyda chapteiniaid a swyddogion a oedd yn aelodau o'r un enwad, yn llawer mwy deniadol na llongau porthladdoedd Lloegr a oedd yn llawn o Wyddelod tlawd, afiach.Dyma pam y daeth llongau Davies Porthaethwy mor boblogaidd a chawsant lwyddiant ysgubol yn y fasnach i Ogledd America, gyda'u llongau'n cludo llechi ac ymfudwyr i Quebec, Efrog Newydd a New Orleans, ac yn dychwelyd gyda llwythi gwerthfawr o goed Gogledd America i adeiladu tai a llongau yn yr hen wlad.

Eithr nid oedd cydymdeimlo â'r 'hen ŵr heb ei gôt' yn ddigon ac ni ddylid ymgysuro oherwydd bod Yr Eurgrawn, misolyn enwad llawer mwy, wedi cael ei 'ddiraddio i fod yn chwarterolyn'.

Fe wyddai Iolo Morganwg, ac yntau'n undodwr ac yn ei dro yn ddiweddarach yn llywydd gweithgareddau'r enwad, gystal â neb am y prinder hwn.

Yn wir, nid oes dim sy'n llefaru'n fwy eglur ar berthynas Methodistiaeth a'r eglwysi Annibynnol yng ngogledd Cymru yn y cyfnod hwn na'r ffaith fod yr un teulu wedi magu dau blentyn a enillodd le iddynt eu hunain fel prif bregethwyr dau enwad, sef Henry a William Rees.

Dilynwyd yr esiampl hon gan y ddau brif enwad arall, yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr.

Ac oherwydd y tywyllwch a ddeddfwyd fel rhwystr i awyrennau bomio'r gelyn, ni fu'n bosibl i rai o hoelion wyth yr enwad ddod yno i roi eu sêl a'u bendith ar weithgareddau'r dathliad.

Byddai'r cylchgrawn hwn a gyhoeddid gan enwad bychan yn cyrraedd cartrefi dros bedwar ban y wlad gan gymaint croeso a gawsai'r golygydd eisoes ar aelwydydd Cymru, drwy gyfrwng y radio a'r teledu, fel colofnydd wythnosol Y Cymro, a golygydd papur cenedlaethol yr henoed.

Roedd yr Ymneilltuwyr yn fwy hyblyg, a chynyddai nifer y capeli o bob enwad wrth i'r mewnfudwyr dyrru i'r gweithfeydd o gefn gwlad Cymru.

Perthyn y rhan fwyaf ohonynt i enwad y Wesleaid, ond nid pawb.