Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

enwadau

enwadau

Er fod y cylchgronau hyn wedi eu huniaethu'n glos a'r enwadau a'u noddai hwynt, eto nid enwadol a chrefyddol yn ynig oeddynt o ran cynnwys.

Yn wir, yr oedd ysbrydolrwydd ac edifeirwch ar drai drwy'r holl enwadau fel ei gilydd.

Anghydffurfwyr pybyr oedd y rhan fwyaf o'r ymfudwyr o Gymru, a buan yr aeth y gwahanol enwadau ati i godi capeli a fyddai'n ganolfannau i'w gweithgareddau.

Yr arwisgiad hwnnw, yng nghanol bonllefau'r Cymry ac ymgreinio archesgobion ac esgobion ac arweinwyr yr holl enwadau crefyddol Cymreig, oedd yr awr dduaf yn y chwe-degau.

Gwyddai Ieuan Gwynedd fod nifer o offeiriaid eglwysig yn cribo i lawes Lingen, Symons a Johnson, ac er ei fod yn fawr ei ofid yn sgil marwolaeth ei wraig a'i fab, aeth ati i gasglu ystadegau ynglŷn ag enwadau crefyddol yr ardaloedd glofaol.

Dyma gylch cyfarfod sydd wedi gafael a thyfu, cylch o bobl o wahanol enwadau o fewn y dref sy'n dod at ei gilydd i sgwrsio, yfed te a choffi a myfyrio ar y Gair, a hynny bob bore Mawrth yn Festri Salem.

Pwrpas y Gymdeithas ar y pryd oedd hyrwyddo crefydd rydd a rhyddid crefyddol yng Nghymru yng ngwyneb yr erledigaeth a fodolai o gyfeiriad yr enwadau iawnffyddol.

Gallai Eglwys Loegr wneud cynhaeaf bras o'i hynafiaeth, ac yn enwedig felly'r rhai a bleidiai egwyddorion Mudiad Rhydychen, gan fwrw sen ar yr enwadau Ymneilltuol fel rhyw chwyn crefyddol a dyfodd yn ddiweddar.

Casglodd ynghyd nifer o weinidogion o'r enwadau gwahanol, gan gynnwys Caledfryn a Christmas Evans, yn ogystal â Hughes a lleygwyr eraill er mwyn penderfynu ar yr hyn y dylid ei wneud.

Mewn oes pan nad oedd hanner poblogaeth Cymru yn mynychu na chapel nac eglwys, meddai ef: '...' Gellid dadlai mai nai%vete/ a barodd iddo wrthod derbyn yr un ddimai goch o arian y wladwriaeth i gynnal ysgolion yng Nghymru, a breuddwyd gwrach oedd disgwyl i enwadau, yr oedd eu culni a'u heiddigedd o'i gilydd yn ddihareb, ymuno'n frwd â chynllun a fyddai'n cymell gwerinwyr tlawd i gyfrannu swllt y pen bob blwyddyn yn enw addysg grefyddol wirfoddol.

Roedd y broblem yn dechrau gwasgu arno ni, y son am yr Eglwysi, yr enwadau.

Olrheiniwyd twf a datblygiad yr enwadau ymneilltuol yn nyffryn Aman yn y ddwy bennod flaenorol, wrth fynd heibio, megis, ac yn y bennod hon ceisir dangos sut y magodd y gweinidog a'r pregethwr ddiddordeb mewn llenyddiaeth, ac mewn barddoniaeth yn fwyaf arbennig.