Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

enwadol

enwadol

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf daeth rheidrwydd i uno rhai gofalaethau, ac erbyn hyn aeth y nifer i lawr i bump yn yr Henaduriaeth, gydag un ofalaeth gyd-enwadol o dan ofal y Parchedig WJ Edwards, Llanuwchllyn.

Er fod y cylchgronau hyn wedi eu huniaethu'n glos a'r enwadau a'u noddai hwynt, eto nid enwadol a chrefyddol yn ynig oeddynt o ran cynnwys.

Ond y colegau enwadol a gyfrannodd fwyaf o ddigon at hyfforddi'r athrawon.

Fe'i collfarnwyd yn y wasg enwadol er iddi gael croeso gan Prosser Rhys, awdur y bryddest nwydus 'Atgof' yn yr un flwyddyn, fel 'un o'r darnau mwyaf addawol ac arwyddlon a sgrifennwyd gan fardd ifanc ers blynyddoedd'.

Dyma'r math o gymdeithas, a fodelwyd yn glos ar y gymdeithas yn 'yr hen wlad'; y ceisiodd y wasg ei gwasanaethu, ac nid yw'n syn mai'r cylchgronau enwadol a lwyddodd orau, fel yng Nghymru ei hun.

Fel y mae'r ganrif yn cerdded rhagddi gwelwn fod rhai ohonynt wedi bod mewn colegau heblaw'r rhai enwadol a diwinyddol.

Roedd hi'n adlewyrchiad o'r holltau gwleidyddol, ieithyddol ac enwadol o fewn cenedl oedd yn mynnu ei diffinio ei hun mewn sawl modd gwahanol.

Ond yr oedd yna hefyd ddimensiynau enwadol a gwleidyddol iddo.

Y mae Mr Gruffydd yn sicr wedi etifeddu'r safbwynt anghydffurfiol, ac megis Mr Murry yn Lloegr, yn gwneuthur mwy tros fetaffyseg crefydd nag unrhyw offeiriad enwadol y gwn i amdano.

Nid oedd haul y Tegla 'enwadol' yn machlud wrth iddo ymadael o'r Gadair ymhen y flwyddyn chwaith, oherwydd yn yr un Gymanfa fe'i dewiswyd--gan fod y flwyddyn ganlynol yn flwyddyn dathlu deucanmlwyddiant tro%edigaeth John Wesley-i siarad ar y pwnc hwnnw yng Nghymanfa'r flwyddyn ddilynol ym Mae Colwyn.

Sefydliadau Erbyn hyn yr oedd y drefniadaeth enwadol, sydd mewn bodolaeth o hyd, yn cael ei chadarnhau.

Ceir enghreifftiau ddigon ganddo o'r modd yr anwybyddwyd ef a'i gynulleidfa a'i fudiad oherwydd culni a rhagfarn, ac fel y gwrthodai cylchgronau enwadol eraill roi gofod i hysbysebu cyfarfodydd a syniadau, heb sôn am gyfle i amddiffyn safbwynt a chael chwarae teg mewn dadl.

ond gan gyfaddef 'mod i mor unllygeidiog ag unrhyw golofnydd enwadol yn yr oes aur.

Brwydro, lladd ac anafu mewn terfysgoedd enwadol yng Ngogledd Iwerddon a milwyr Prydeinig yn ceisio cadw'r ddwy ochr ar wahân.

Ac yn ail iddynt, colegau enwadol Lloegr.

Rhybuddiwyd y Dirprwywyr i ddal sylw manwl ar yr ysgolion Sul yng Nghymru, ac roedd yr ymraniadau enwadol yn siwr o fod yn eithaf cyfarwydd i Ysgrifennydd Pwyllgor y Cyfrin Gyngor ar addysg ...

Os oedd obsesiynau enwadol yn fynegiant o egni ar y naill law, roeddent hefyd ar y llall yn awgrym o bobl oedd o ddifrif am bethau llai na phwysig.