Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

enwocaf

enwocaf

Erbyn hyn mae'n siwr mai hon ydy un o ganeuon enwocaf Caban.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyflogi un o dditectifs enwocaf Prydain Fawr (a'i gynorthwydd) i ddod o hyd i Rosemary Butler yr aelod o Gabinet y Cynulliad Cenedlaethol sydd a chyfrifoldeb dros addysg dan 16 oed.

Ond mae yna ffactorau dyfnach hefyd sy'n deillio, yn eironig ddigon, o gyfnod yr Archentwr enwocaf oll - arwr Menem a sylfaenydd y blaid y daeth yn arweinydd arni - sef Juan Pero/ n.

Y ddihareb gyntaf y mae'r Kurdiaid yn ei dysgu i'w plant yw: 'Does gan y Kurd ddim ffrindiau.' Un o'r Kurdiaid enwocaf oedd Saladin, a fu'n ymladd dros Islam yn erbyn Richard the Lionheart, brenin Lloegr.

Ym mis Rhagfyr 1999 gwelwyd un o dditectifs enwocaf Prydain Fawr, ynghyd â'i gynorthwyydd (byr, ond tra effeithiol) y tu allan i adeilad y Cynulliad yn chwilio'n ddyfal am Ms Butler.

Bu hefyd yn noddwr hynod o hael i rai o feirdd enwocaf ei gyfnod athroes Abergwili yn un o hafnau mwyaf croesawgar a dymunol yr oes i lenorion.

Er bod pedwar deg wyth wedi marw allan o bron i bymtheg can o garcharorion, morwyr a milwyr a gludwyd mewn un ar ddeg o longau, roedd Capten Arthur Phillip wedi cyflawni un o fordeithiau enwocaf hanes y mor, dros bymtheng mil o filltiroedd heb golli'r un llong.Roedd y marwolaethau'n llawer mwy yn y llyngesau a'i dilynodd oherwydd gorlwytho, prinder bwyd, creulondeb annynol ac afiechydon a oedd yn deillio'n anorfod o'r sefyllfa ar y llongau, a'r ffaith bod y fordaith mor hir.

Byddent yn aml yn enwi'r eglwysi a godent ar ôl y saint y buont yn ddisgyblion iddynt Ar ôl y seintiau hyn y daeth yr enwocaf o'r seintiau Cymraeg, Dewi Cymaint oedd ei glod ef fel, erbyn dechrau'r ddeuddegfed ganrif, y daethai Tŷ Ddewi yn eglwys y cyrchai iddi bererinion o bob rhan o'r wlad, ac yr oedd dwy bererindod i Dŷ Ddewi yn cael eu cyfrif o'r un gwerth ag un i Rufain.

Do, adargraffwyd ei dri llyfr enwocaf, ond nid oes sôn a sŵn amdano.

Daeth y bachgen tawel hwnnw yn un o feirdd enwocaf y genedl.

casgliad hwn a roddodd i Schneider ei ddyfyniad enwocaf: 'Bydd gwaredu'r mur yn ein meddyliau yn cymryd llawer iawn yn hwy nag unrhyw ymdrech i chwalu'r mur gweladwy'.Calon y Dywysoges - H.

Un o'r profiadau mwya' ysgytwol i mi oedd ymweliad â Cheung Euk, sef y `killing fields' enwocaf ar gyrion Phnom Penh.

Alaw sydd wedi ei recordio dros y degawdau gan rai o ferched enwocaf y llwyfan opera.

Yn ogystal â dangos lluniau rhai o arlunwyr enwocaf Môn, megis Kyffin Williams, mae Oriel Ynys Môn yn cefnogi celfyddyd a chrefft yr ynys yn gyffredinol drwy drefnu rhaglen o arddangosfeydd cyhoeddus (yn yr ystafell arddangosfeydd dros dro).

Un o'r cerddi enwocaf yw un Iolo Goch yn disgrifio llys Sycharth ym Mhowys.

Yr enwocaf o'r criw llafar hwn, yn y cyswllt presennol, oedd y Parchedig Evan Jones (Ieuan Gwynedd), Tredegar, prif ladmerydd y Cymry yn ystod 'argyfwng' y Llyfrau Gleision.

Cyfres o chwedlau enwocaf Cymru yw'r Mabinogion, ac yn un ohonynt ceir hanes Branwen ferch Llŷr, a'i phriodas drist â Matholwch brenin Iwerddon.

Cadeirydd pwyllgor streic y gweithwyr cludiant oedd Mann, syndicalydd enwocaf Prvdain.

Yr oedd yn ei elfen ac ar ei enwocaf tua 60au/70au'r ddeunawfed ganrif.

Er bod un mlynedd ar hugain wedi mynd heibio ers i mi groesi'r ffordd o Fryn Meirion i'r Coleg ar y Bryn, erys ynof yr ymdeimlad o falchder imi gael y profiad gwerthfawr o berthyn i'r gyfundrefn ddarlledu enwocaf a'r fwyaf ei pharch yn y byd.

Rhestrid yn eu mysg athrawon mor ddisglair â Hegius a disgyblion llachar megis Rudolf Agricola a'r enwocaf oll, Erasmus.

Ymhlith yr ysgolion enwocaf yr oedd y rheiny yn yr Almaen a'r Iseldiroedd a berthynai i'r urdd grefyddol ryfedd honno, Brodyr y Bywyd Cyfun (...).

Y mae yr enwocaf o'i nofelau, Treasure Island, yn dal i gael ei chyhoeddi ar gyfer plant ac yn cael ei hailweithio byth a hefyd yn ffilm.

Dawn fwyaf arbenning y bardd yma yw efelychu a pharodïo rhai o gerddi enwocaf Cymru drwy'r oesoedd (cerddi fydd yn gyfarwydd i unrhywun sydd wedi gwneud lefel o ac A mewn Cymraeg), a gwneud hynny'n goeglyd a sbeitlyd, gydag ambell i gic yn ei neges.

Aeth pethau rhagddynt yn ddigon annwyl a chyfeillgar er i Alun Michael ddweud fod Peter Hain wedi tanseilio" pwysigrwydd gwella ffyrdd y Rhondda mewn ateb i gwestiwn Cymraeg gan Geraint Davies, yr aelod dros gwm enwocaf Cymru.

Dywedodd Dafydd Morgan Lewis, Swyddog Ymgyrchoedd y Cynulliad 'Mae'r sefyllfa hon yn un llawn dirgelwch a dyna pam yr ydym wedi cyflogi detectif enwocaf Prydain (a'i gynorthwydd) i'n helpu i ddatrys y broblem.