Yr oedd hwn, cofiodd, yn enwog am ei ddireidi a'i ffraethineb, am ei gynganeddion cyflym ar lafar ac yn ei bapur, am ei areithiau ysgubol oddi ar lwyfannau eisteddfodol, am ei ysgrifau eofn, miniog, am ei wybodaeth o'r hen feirdd.
Os yw hyn i'w gyflawni rhaid i'r Gadair hawlio parch yr holl aelodau a'r gymdeithas gyfan, bydd hynny yn ei dro yn caniat~ i'r person sydd ynddi eistedd yn gyfforddus ac yn eofn ynddi.
Rywsut, mae Michael Bay a Jerry Bruckheimer wrth greu Americaniaid eofn a Siapaneaid anrhydeddus yn llwyddo i gadw'r ddesgil honno yn wastad ond, gwaetha'r modd, yn cyfrannu trwy wneud hynny at ddifetha ffilm a oedd eisoes yn gwegian.
Ffrwyth ymchwil synfawr a dychymyg eofn wedi esgor ar iaith ddi-dderbyn-wyneb fydd honno.
Yn ystod Mawrth a dechrau Ebrill y maent yn cymharu ac yn y cyfnod hwnnw y maent yn hyfion ac eofn iawn.
Mynegai ac amddiffynnai safbwynt yr hyn a gynrychiolai yn hyderus a digywilydd a phlannodd yr un ysbryd eofn yn ei ddarllenwyr cyson.
Doedd dim i'w wneud ond trio edrych yn eofn a doeth a gwneud yn union yr hyn a wnai Jan o Wrecsam a eisteddai ar y lifft o 'mlaen i.
Er nad oedd ond cymedrol o ran maint, 'roedd ganddo groen eliffant, ystyfnigrwydd mul a thymer y byddai'r mwyaf eofn yn gwaredu rhagddi.
Yn eofn, dechreuodd Jim bysgota gwaelod ym Mhwll y Bont?
Roedd JPR yn eofn ond eton chwyrn ei gondemniad o chwarae brwnt a chïaidd.
Dim ond hanesydd eofn -- ac un nad oedd yn rhan o fwrlwm y cyfnod cynnar -- fedr daflu ei linyn mesur yn wrthrychol dos hanes y mudiad.
"Rhaid iddo fynd allan ar unwaith." Cerddodd o ystafell i ystafell yn eofn, ond nid oedd neb yno.
Bydd rhaid i'r ail fuddsoddi fod yn: a) gyflym - i sicrhau gwirddewis; b) ddoeth/gofalus - gan na ellir rhagdybio beth fydd dewis-batrymau'r defnyddiwr yn y dyfodol; c) yn eofn, - er mwyn magu hyder.
Rwy'n ddieuog o'r cyhuddiadau ffug sydd yn fy erbyn, a galwaf yn daer ar i lwyth yr Ogoni, holl bobloedd glannau'r Niger, a'r holl leiafrifoedd a ormesir heddiw yn Nigeria i sefyll ac ymladd yn eofn ac yn heddychlon dros eu hawliau.