Mewn rhai o'r llawysgrifau ychwanegir un episod arall, lle cynigia Arthur, gan nad yw March na Thrystan yn barod i ildio, y dylai un feddiannu Esyllt tra fyddai'r dail yn ir ar y coed, a'r llall yn ystod gweddill y flwyddyn.
Cytunwn yn llwyr â'r Dr Rachel Bromwich fod tystiolaeth y Trioedd hynny lle cyfeirir at Drystan yn hynod bwysig, ond rhaid cofio nad yw cyfeiriadau o'r fath o angenrheidrwydd yn datgelu gwybodaeth am fwy nag un episod neu elfen stori%ol: ni allwn gymryd yn ganiataol eu bod yn adlewyrchu gwybodaeth am chwedl go iawn.
Ond rhaid cofio mai dau episod ar y mwyaf sydd yn Ystorya Trystan, ac nid yw'r naill na'r llall yn ymdebygu ryw lawer i'r hyn a geir mewn unrhyw destun Ffrangeg.