Cymeradwya y ddau Edwards roddi'r halen-chwerw Epsom hefyd pan fo annwyd ar y fuwch, ond fe gynyddid y dôs i un pwys!
Ymddengys y medrai'r halen wella dyn hefyd, oherwydd credai fy nhad yn gryf iawn yn yr halen Epsom, ac fe gymerai Iwyaid ohono cyn gynted ag y teimlai'r oerfel yn disgyn arno.
Rhinweddau'r halen-chwerw Epsom
Ond ar ôl dweud hynny, 'roedd yna sail synhwyrol i'w cyfarwyddyd nesaf: Cymerwch Nitre a Cream of Tartar, dwy owns o bob un: Epsom Salts, hanner pwys.
Mae'n arferiad gennyf roddi tair owns o'r halen Epsom mewn peint o ddwr claear i'r fuwch rhyw wythnos cyn ei hamod, gan fy mod yn meddwl ei bod yn well osgoi trafferth na'i gyweirio!