Fe'n sobreiddiwyd braidd o sylweddoli na fu'r newid yn gyfangwbl er gwell er gwaethaf datblygiadau technegol a oedd y tu draw i ddychymyg cenhedlaeth Gwyn Erfyl o wneuthurwyr rhaglenni.
Ar y noson dangoswyd dwy allan o'r dros 400 o raglenni a wnaed gan Gwyn Erfyl yn ystod ei gyfnod gyda HTV, un yn darlunio ei gyfaill mynwesol, yr arlunydd Pietro Annigoni wrth ei waith yn Fflorens, yr Eidal, a'r llall, Ewscadi, yn darlunio bywyd yng Ngwlad y Basg ar y ffin a Ffrainc yng ngogledd Sbaen.
Yr argraff oedd, fod creu rhaglen deledu i rai fel Gwyn Erfyl yr adeg honno yn ymdrech hefyd i greu celfyddyd.
Wedi'r ffilmiau bu cyfle iddo drafod yn Chapter eu hunion grefft, am gwta dri chwarter awr pryd, y nododd fel dawn sylfaenol gwneuthurwr rhaglenni y grefft o gyfuno'r gallu i ddweud stori a'r gallu i dynnu llun - dau beth sy'n gynhenid i ni'r Cymry, yn ôl Gwyn Erfyl.
Yn sicr, dydi meddylgarwch dreiddgar a Chymraeg graenus Gwyn Erfyl, gyda phob gair wedi ei ddewis yn ofalus, ddim yn rhywbeth y mae rhywun yn gweld gormod ohono y dyddiau hyn.