Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ergydion

ergydion

Rhaid iddo gymryd ergydion a symud i mewn ac ymosod i'r corff.

Yr oedd yn ofynnol i'r sawl oedd ar y graig fod yn o ystwyth i danio'r fuse a dringo i fyny i ddiogelwch, ac yn ddisymwth dyma'r ergydion yn dechrau mynd allan.

Symudai'r niwl gydag ef i bobman, gan gadw'r ergydion draw, a chan gadw'r lleisiau y tu hwnt i'r sŵn.

Ar y bore Iau tyngedfennol, tua hanner awr wedi un-ar-ddeg y bore, roedd wedi clywed sŵn ergydion trwm yn dod o dy Ali - fel sŵn ergydion bwyell.

Pethau'n mynd i'r gwellt heb i mi wneud dim byd i frwydro yn erbyn hynny; dim ond gorwedd yn ddiymadferth o dan ergydion creulon y tawelwch a adawai glwyfau a chleisiau newydd o ddieithrwch bob eiliad.

Er i David Walsh arbed rhai ergydion yn gôl Wrecsam a Stuart Roberts yn taro'r bar roedd hi'n anodd i Abertawe o flaen torf oedd yn ddigon naturiol yn fach ac yn dawel.

Yn wir, synnwn i fawr nad yw ergydion bywyd yn golygu mwy iddi heddiw na disgleirdeb diflanedig ei dau Oscar.

Ar ddiwedd y daith honno roedd yn ofynnol i ni wedyn gario un o'n cydfilwyr ar ein hysgwydd am gan llath, yna gwyro ar un pen-glin, a saethu at darged, ac os na lwyddid i gael hanner yr ergydion naill ai i'r canol neu o fewn ffiniau'r magpie' - fel y'i gelwid - rhaid fyddai gwneud y daith unwaith yn rhagor.

Ergyd i rybuddio, mae'n siŵr - ychydig iawn o ergydion a fethai'r targed y dyddiau hyn.

Eithr pan beidiodd yr ergydion, clywodd lais merch yn sgrechian a dychrynu cymaint nes iddi redeg i ffenestr yr ystafell ffrynt rhag ofn bod rhywun o'r drws nesaf wedi cael damwain.

Gan fod Yr Ymofynnydd hefyd yn cyflawni swyddogaeth cylchgrawn hanes y mudiad, byddai bywgraffiad ambell arwr, fel Thomas Emlyn Thomas o Gribyn a Gwilym Marles, Llwyn, yn cael llenwi'r misolyn ac ni allai neb a ddarllenodd y rhain fethu â dilyn y thema ganolog a theimlo'r ergydion sylfaenol.

AR flaen ei draed y byddai wrthi o'r dechrau i'r diwedd, a dyma reswm diymwad arall pam na thaflai ergydion trwm a chael ei bwysau i gyd y tu ôl iddyn nhw.