Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

erlid

erlid

(Er i adfynach chwerw a adawodd y gymdeithas rhyw flwyddyn ledaenu si ymysg mân fynachod Enlli fod y Priodor wedi'i erlid o Rydychen ar ôl cwta dau dymor dan amgylchiadau pur amheus a dweud y lleia'.) Ond roedd hynny flynyddoedd maith yn ôl, pa 'run bynnag.

Ond yr oedd y teitl 'academi' yn cydio'r sefydliadau hyn wrth yr academiau anghydffurfiol a sefydlwyd yn ystod Oes yr Erlid yn yr ail ganrif ar bymtheg ac a welodd eu hoes aur yn y ddeunawfed ganrif.

Blêr a gobeithiol oedd hi wedyn ond mi ddangosodd Earnshaw frwdfrydedd, dyfalbarhad a dewrder i erlid pas obeithiol.

Ei gas beth a fyddai cael ei erlid o'i dŷ ei hun, 'run fath a Dafydd Gruffudd, gan ryw geilioges o ddynes yn cwyno ei fod o dan ei thraed hi o fore gwyn tan nos.

Bu cryn lawer o erlid ar y rhai a droisai'n Gristnogion, ac wedi ymadawiad y Rhufeiniaid aeth y mwyafrif ohonynt yn ôl at yr hen grefydd.

Nid wyf yn gwadu na byddai cyfnod o gas ac erlid a chynnen yn hytrach na'r cariad heddychol sydd mor amlwg ym mywyd politicaidd Cymru heddiw.

Doedd dim modd iddo wybod y byddai'n rhaid iddo erlid rhywun yn y car, ond fe gofiai o hyn ymlaen - pe bai'n byw trwy hyn oll - i fynd â char manual gydag ef pan weithiai ar 'op'.

Traddodiad o ddioddef dirmyg ac erlid yw traddodiad amddiffyn politicaidd i'r iaith Gymraeg.

Roedd yn anodd ganddynt gredu ei fod wedi cael tro%edigaeth o ddifrif, ei fod yn awr yn pregethu ac nid yn erlid pobl Dduw fel cynt.

Fe'i disgyblodd ei hun i neilltuo rhai oriau penodol bob dydd i hela'r ci llwyd; ac os gallai roi ychwaneg na hynny, popeth yn iawn, eithr nid esgeulusai'r un diwrnod cyfan heb ei fod wedi cyflawni'i gwota hunan-drefnedig o erlid.

Nid oedd bywyd hyd yn oed yn yr harbwr heno, dim ond hen lwydni tesog yn erlid pob argoelo lesni ac yn corlannu cysgodion o ddu%wch ar y gorwel., Gobeithio'r annwyl nad darogan ystorm a wnaent.

A dechreuodd ymroi gydag unplygrwydd abnormal i erlid y ci.