Ysgytwol yw eu cyhoeddi'n blaen fel hyn: erlynwyd dros 1,100 o unigolion mewn llysoedd barn yn Lloegr a Chymru am eu rhan mewn ymgyrchoedd; codwyd cyfanswm o £38,854 o ddirwyon a £26,283 o gostau llys a iawndal; a dedfrydwyd 170 o unigolion i gyfanswm o 41 mlynedd a deufis o garchar.
Erlynwyd yr undeb gan reolwyr y cwmni a bu'n rhaid iddo dalu'n ddrud am gefnogi'r streicwyr.