Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

erstalwm

erstalwm

Dyna fy hen gyfaill y diweddar J. W. Jones, Tanygrisiau, a ysgrifenai'r "Fainc Sglodion" i'r "Cymro% erstalwm, yn un; gūr a chanddo lygad am lyfrau prin, llyfrbryf wrth natur - ac un caredig iawn at hynny.

Mae o wedi bod wrthi'n ffoi erstalwm rŵan, yn ffoi'n gylch o amgylch y byd a'r ysbrydion aflonydd ar ei sodlau'n ei hambygio ac yn ei gosbi.

Yr oedd hi wedi sylweddoli erstalwm iawn nad oedd dim pwrpas dweud mai barn y rheithgor oedd yn bwysig ac nid ei barn hi, Yn ddieithriad, wedi iddi osgoi rhoi ateb pendant, y sylw wedyn fyddai, 'Ond rydw i am i chi gredu 'mod i'n ddieuog.'

Erstalwm iawn yr oedd gan un o feddygon y Blaenau 'ma offer ar ei ddrws ffrynt i hwyluso pobol i alw arno yn oriau mân y bore.

Fe'm dysgwyd i yn yr ysgol Sul erstalwm ein bod ni i fod yn geidwad ein brodyr.

Doedd disgynyddion y bobl oedd wedi helpu'r Romans erstalwm i godi caerau, ac oedd yn gweithio'n galed yn codi glo ac ati, ddim yn lecio'r sect newydd yma ryw lawer iawn ond does yna ddim pylla glo ar ol rwan felly mae'r hogia hynny wrthi'n troi at y sect newydd o'r diwedd.

Yn siŵr yr oedd y cosi coesau erstalwm o leiaf yn awgrymu'r awydd.

Roedd gan Arthur gleddyf erstalwm ond mi fu mor blincin gwirion ag ordro hwnnw i gael ei daflu i mewn i ryw lyn.

Wrth i mi ddod o Woolworths Bangor digwyddais gyfarfod a Huw, yr unig hogyn yn ein dosbarth Ysgol Sul erstalwm.

~ iolen stopiodd i herio'r hen gyfeillion a orweddai yno trwy weiddi 'Dowch allan rwan os ydach chi isio paffio efo fi fel roeddach chi'n gneud erstalwm!

Petai'r Tomosiaid wedi holi eu mam beth oedd draw yn y fan honno, fe ddywedasai hi wrthynt fod ffermdy yno erstalwm - cyn i'r goedwig gael ei phlannu.