Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

erthyglau

erthyglau

all neb wadu, er bod yr ordeinio'n hollol anorfod, eto perigl yr ordeinio, perigl mynd yn gyfundeb ar wahan, ydy ei bod hi/ n haws llithro oddi wrth yr hen Erthyglau, yr hen Homiliau, rhoi llai o bwys arnyn-nhw, cymryd haearn y ffrwyn rhwng ein dannedd, penderfynu pynciau credo heb gadw mewn cof mai etifeddiath ydy'r Ffydd, ac mai cadw'r ffydd, traddodi, ydy swydd pregethwr, nid ymresymu'n rhydd.

Ond i'r hanesydd, nid ansawdd y defnyddiau yw'r ystyriaeth bennaf ond arwyddocâd cymdeithasegol a diwylliannol y barddoni a'r ysgrifennu erthyglau.

Mae hefyd yn awdur nifer o erthyglau, llyfrau a gwers lyfrau gwyddonol Basgaidd.

Byddwch cystal â manteisio ar gyfleusterau'r We i gysylltu â ni i ymateb i erthyglau neu i sgwennu erthyglau newydd.

Dyma un arall o'r erthyglau na chafodd eu hailgyhoeddi, ac mae'n hawdd deall pam, gan fod ynddi ambell osodiad a fuasai'n anathema i'r Saunders Lewis diweddarach.

Cyfrannu erthyglau amrywiol ar weithgarwch CYD i'w cynnwys yng ngholofn Gymraeg y Llanelli Star.

Cynnyrch y Diwygiad Protestannaidd oedd yr Erthyglau, ac i'r garfan yn y mudiad a dueddai tuag at Rufain 'roedd y Diwygiad dan amheuaeth.

mae'r llyfr yn dilyn stori Catatonia o'r cyfarfyddiad cyntaf rhwng Cerys a Mark yn gig Rhyw Ddydd ym Mhontrhydfendigaid (ie, myth yw'r stori am gyfarfod wrth byscio yng Nghaerdydd), trwy ddyfynnu erthyglau ac adolygiadau o bob math o gyhoeddiadau ar hyd a lled Cymru ar byd - canmoliaeth o bob cyfeiriad.

Cyhoeddodd dros gant o lyfrau i gyd yn nofelau, straeon, erthyglau ac yn gyfrolau barddoniaeth.

Cafwyd toreth o erthyglau a llyfrynnau'n mawrygu Penri.

Yn ystod y pedair blynedd y bu+m yn cyfrannu erthyglau garddio i'r cylchgrawn soniais droeon am fethiant rhai planhigion i lwyddo ym mhresenoldeb gwynt hallt o'r môr.

Archwiliodd yr erthyglau yn fanwl fel pe baent yn ddogfennau cyfreithiol, a phrofodd i'w fodlonrwydd ei hun nad oeddent yn condemnio na'r Purdan nac Aberth yr Offeren, eithr yn unig camddefnydd ohonynt gan Eglwys Rufain.

A thrwy gydol y flwyddyn 1971 bu erthyglau nerthol y misolyn Barn yn gefn mawr i'r frwydr hon gan Gymdeithas yr Iaith dros urddas dyn yng Nghymru.

Mae Bardi McLennan yn cydnabod mai Walter Glyn oedd cymwynaswr pennaf y Daeargi Cymreig, fel hanesydd o Goleg y Drindod Caergrawnt, Rhydychen, beirniad, awdur erthyglau a llysgennad mwyaf y brîd.

Archif o holl ddeunydd cyhoeddedig R.S. Thomas, ynghyd â chasgliad cynhwysfawr o adolygiadau, erthyglau a llyfrau beirniadol, cyfweliadau a deunydd clywedol.

"Dan ni'n cynhurchu papur misol sy'n cynnwys erthyglau, awgrymiadau a chynghorion ynglŷn â bwyta'n iachach, cadw'n heini, gwarchod ein cyrff ac yn y blaen.

Mewn cyfres o erthyglau i'r Tyst ar Fonedd Dyn' aeth ati i amddiffyn syniadau Tom Nefyn am ymgnawdoliad ar dir esblygiad gan ddal ar y cyfle yr un pryd i amlinellu'r hyn a olygai 'traddodiad' iddo yntau:

Cafwyd ysgrifenwyr medrus i gyfrannu erthyglau, rhai fel Brynmor L. Davies, D. Myrddin Davies, T. Eurig Davies, R. Elfyn Hughes, A. O. H. Jarman, J. Gwyn Jones, Enid Parry, Jennie Thomas a J. O. Williams.

Bellach, mae erthyglau yn llifo i mewn, a'r Gymraeg yn gyfrwng i fynegi syniadau.

Er ei fod yn gwybod hanes Cymru'n dda, ac er iddo ysgrifennu erthyglau a llyfrau arno, ni theimlodd erioed ar ei galon gloddio am wybodaethau newydd fel y gwnaeth Lleufer Thomas.

Y mae llyfrau ac erthyglau godidog y Parchedig Ddr Isaac Thomas wedi datgelu'n glir gwrs y cyfieithu, ac y mae'n dda gennyf allu dibynnu yma ar ei gasgliadau ef, fel y bydd ysgolheigion yn sicr o wneud am genedlaethau i ddod.

Yr oedd yn awdur toreithiog, a llyfrau hanes, dyddiaduron gwir a dychmygol, erthyglau di-rifedi, ac un nofel hanesyddol yn llifo o'i bin ysgrifennu.

Roedd yn y rhifyn erthyglau gan Ambrose Bebb, Saunders Lewis a Iorwerth Peate, cerdd gan Dyfnallt, a rhywfaint o newyddion y blaid.

Mae'n dda cael casgliad eto o erthyglau achlysurol yr Athro Glanmor Williams.

Dadleuai ymhellach mai bwriad llunwyr yr Erthyglau oedd bodloni Pabyddion yn ogystal â Phrotestaniaid, a'u geirio yn y fath fodd fel ag i gadw cynifer o Gatholigion ag oedd yn bosibl oddi mewn i'r eglwys ddiwygiedig.

(ch)Rheilffordd y Cambrian CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio ar erthyglau a ymddangosodd yn y wasg yn ddiweddar ynglŷn â bwriad y Rheilffyrdd Prydeinig i gau rhai gorsafoedd ar Reilffordd Arfordir y Cambrian.

Datblygiad mwyaf arwyddocaol y flwyddyn oedd achlysur lansio BBC Cymrur Byd, safle Cymraeg sydd bellach yn golygu bod siaradwyr Cymraeg ledled y byd, am y tro cyntaf, yn cael cyfle i weld papur newydd arlein dyddiol yn Gymraeg, wedii ategu gan wasanaeth chwaraeon, erthyglau, a chysylltiadau â nifer o safleoedd eraill fel Pobol y Cwm a Ffeil, y rhaglen newyddion i blant a wneir gan BBC Cymru ar gyfer S4C. Mae hwn yn un o'r dyfeisiau cyfryngol mwyaf arwyddocaol yn Gymraeg ers agor S4C ar ddechraur 1980au, ac mae eisoes yn denu cannoedd o ymweliadau gan siaradwyr Cymraeg ledled y byd.

Yn y Traethawd dadleuai Newman nad oedd yr erthyglau, o'u dehongli'n gywir, yn wrth-Gatholig nac yn wrth-Babyddol.

Diau i'w ddull o ysgrifennu effeithio ar lawer un arall, oherwydd darllenid ei weithiau, yn erthyglau a llyfrau, gan bob llenor o Gymro yn gyson am dros ddeng mlynedd ar hugain.

'Rydym yn dewis erthyglau a straeon a fydd yn cyfleu yr amrywiaeth liwgar a blasus o ddeunydd sydd yn y papur bob wythnos.

Datblygiad mwyaf arwyddocaol y flwyddyn oedd achlysur lansio BBC Cymru'r Byd, safle Cymraeg sydd bellach yn golygu bod siaradwyr Cymraeg ledled y byd, am y tro cyntaf, yn cael cyfle i weld ‘papur newydd' arlein dyddiol yn Gymraeg, wedi'i ategu gan wasanaeth chwaraeon, erthyglau, a chysylltiadau â nifer o safleoedd eraill fel Pobol y Cwm a Ffeil, y rhaglen newyddion i blant a wneir gan BBC Cymru ar gyfer S4C.

Ceir digon o erthyglau ar y grwpiau, adolygiadau o'u recordiau, adran ar offer, a'r newyddion diweddaraf am helyntion y byd pop Cymraeg.

Prif arf ymosodiad y Seren Ogleddol ar yr Eglwys Sefydledig oedd cyfres o erthyglau a ysgrifennwyd gan Hugh Hughes ar ffurf llythyron at y Parchedig Ellis Annwyl Owen.

Dyma'r dolenni a glyma'r mudiad yn deulu, a ffurfid y bont rhyngddo a'r byd ac â'r byd ac yntau, drwy'r erthyglau amrywiol a gynhwysid ynddo o fis i fis.

Nodweddion y prif ffactorau Mae hinsawdd, tirwedd, priddoedd ac amaethyddiaeth Cymru wedi eu disgrifio'n fanwl mewn nifer o lyfrau ac erthyglau.

Ers i mi fynd ar y Senedd gyntaf fel golygydd y Tafod roedd hi'n ymddangos i mi fod pob Cadeirydd yn mesur ei hamser neu ei amser yn y gadair yn ôl faint o erthyglau cadeiryddol oedd ar ôl i'w sgwennu i'r Tafod.

Sefydlu nifer o golofnau rheolaidd i sicrhau erthyglau cyson -- eisoes mae colofnau Cysylltiadau Rhyngwladol a Pwy Uffar Yw...? wedi ymuno ag eitemau rheolaidd eraill fel y Cadeiryddol a thudalen Mr Mwydyn.

O ran diwinyddiaeth yr oedd yn Galfinydd manwl - dywedir mai ef a luniodd Erthyglau Lambeth i'r Archesgob John Whtigift.