Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

erw

erw

Mae Tre'r Ceiri, sydd ar safle o bum erw wedi'i hamgylchynu â muriau cedyrn o gerrig a phridd ar ffurf caer neu amddiffynfa.

Brwydr gyntaf yr Undeb oedd gwrthwynebu troi 16,000 erw yn Epynt yn faes tanio.

Erbyn inni ddychwelyd i'r fan y buasem yn holi ynghylch diogelwch y twnnel, yr oedd un o'r ffermwyr ieuainc, a ddywedasai wrthyf ei fod wedi prynu pedair erw a hanner o'r trac, yn trafod picwarch ryw ganllath oddi wrthym a gwaeddais arno'r cwestiwn pa ddefnydd y bwriadai ei wneud o'r llain hirgul a brynasai.

Mae potensial haidd yn nhermau cynnyrch yn lleihau o gant i gant a chwarter yr erw am bob wythbos o oedi yn yr hau ar ol dechrau Mawrth.

Ond yma mae'r meirw yn eu 'parlyrau perl', a'r marwol arbennig hwn, yn holl addewid ei ddisgleirdeb, ynghladd mewn erw anghyffredin iawn na ddichon i'r byw byth ymweld â hi.

Tyddyn pymtheg erw o dir gwael mynyddig oedd y Ffridd Ucha, tyddyn rhy fach i gynnal teulu, hyd yn oed yn nechrau'r ganrif.

Cost y Rhyfel i Gymru: lladd 20,000 yn y Lluoedd Arfog a'r Llynges Fasnach; 1000 wedi eu lladd yn y bomio; tua 350,000 o 'faciwis wedi dod i Gymru, a'r Swyddfa Ryfel yn meddianu 200,000 erw, sef 10%, o dirwedd Cymru.

Dywedodd ei fod yn gwneud archwiliad o'r tir ac eisiau cadarnhau sawl erw oedd i bob fferm.