Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

erwau

erwau

A dyma'i chymar - un gangen eithin dal, a losgwyd yn ddu deryn haf ar erwau Brynhafod.

Heddiw mae'r olygfa wedi newid llawer, yn lle'r caeau bach a'r mynydd a'r cloddiau cerrig shêl - mae'r 'coed duon' yn erwau ar erwau o binwydd - sbriws sitca rhan fwyaf...

Cwilt pobol ddiog yw'r cwilt erbyn hyn a'r clytiau o las Gwanwyn a melyn Haf ac aur Hydref wedi mynd yn fawr ac yn ychydig, a'r tractorau a'u gwehyddion a'u casglwyr silwair a'u combeiniau yn llusgo hyd yr erwau agored fel chwilod mawr, boliog yn ysu'r cnydau.

erwau ac erwau o gynefin arbennig ac yng nghanol yr unigeddau - i'w weld o bobman y 'tū ysbryd' i'r anghyfarwydd, neu Wylfa Hiraethog i'r astudiwr mapiau neu Plas Pren i'r lleol...

Trowyd ffriddoedd serth a'r ucheldiroedd yn borfeydd bras, traenwyd y corsydd, plannwyd miloedd o erwau o goed bytholwyrdd felly collwyd cynefinoedd gwyllt, - y coedlannau derw a'r rhosydd a'r grug, a hefyd yr arferion hynafol a ganiataodd i laweroedd o blanhigion ac anifeiliaid ffynnu mewn cydberthynas â dyn.

Faint o werin Cymru sydd erbyn heddiw, wedi naw mis o streic gan yr 'arwyr' hyn yn eu gweld fel 'Arwyr glew erwau'r glo'?

Ple ydoedd dros drefnu teyrnas mewn ffordd na wadai i bobol eu hawl i weithio er cynnal corff ac enaid ac na ddibrisiai mohonynt yn eu golwg eu hunain," meddai Arwr Glew Erwau'r Glo.

Môr a thraeth, mynyddoedd uchel, erwau gleision, neu ddinasoedd yn llawn o adeiladau hanesyddol, diddorol nid oes diwedd arni.

Brwd alaw ei bêr delyn - ddistawodd, Ys tywyll ei fwthyn; Hyd erwau gloes drwy y glyn Aeth o ymaith a'i emyn.

ARWYR GLEW ERWAU'R GLO 'Caner, a rhodder iddo - glod dibrin Y werin a'i caro: Nydder y mawl a haeddo I arwr glew erwau'r glo.'

Dyna un cwestiwn sy'n cael ei godi yn llyfr yr Athro Hywel Teifi Edwards, Arwr Glew Erwau'r Glo.

Rhywle mewn ystafell ddirgel yn y Swyddfa Ryfel yn Llundain bu dynion yn gwyro uwch map o fynydd-dir Cymru, ac wedi astudio'r tirwedd a chyfrif erwau, daethpwyd i benderfyniad.

Llanw'r nos dros erwau galar, Hoen a gobaith dan ei li, Ysbryd braw yn crwydro'r ddaear, Tristwch yn fy mynwes i...