Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

esgeulustod

esgeulustod

Byddai arweinwyr y mudiad i godi eglwysi newydd - a dderbyniai gryn gymorth gan y Llywodraeth yn cyson alw sylw at esgeulustod digywilydd y diwydianwyr a wrthodai ddarparu rhagor o addoldai yn ardaloedd eu gweithfeydd.

Y mae yna duedd ymhlith rhai ohonom o hyd i roi'r bai am ddirywiad yr iaith yn bennaf wrth ddrws y Sais yn hytrach na chyfaddef esgeulustod y Cymry eu hunain.

Atgofion o'r ddeunawfed ganrif wedi mynd ar goll am byth drwy fy esgeulustod.

Cawn weld yn nes ymlaen mai'r esgeulustod hwn o gymhellion yr unigolyn, yn arbennig yn y farchnad lafur, yw un o'r prif gyhuddiadau a wnaed yn erbyn y dadansoddiad Keynesaidd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Gwylltiai hefyd pan gyhoeddid dedfryd megis 'Marwolaeth drwy ddamwain' neu 'Marwolaeth drwy ymyrraeth Duw' ar ddiwedd cwest i farwolaeth glo%wr, ac yntau'n gwybod o'r gorau mai esgeulustod y meistri oedd yn bennaf cyfrifol am y drychineb.

Beirniadodd yn llym yr esgeulustod ar waith yr Ysgol Sul yng Nghymru, a'r puteinio a fu'n gyffredinol ar addysg, oherwydd mesur ei gwerth yn nhermau llwyddiant bydol.