Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

esgobaeth

esgobaeth

Wedyn pwdodd Constantine a mynd ar streic a gwrthod gwneud ei waith fel cofrestrydd yr esgobaeth.

Mae'n amlwg fod Ferrar yn awyddus i ymarfer ei awdurdod bugeiliol yn yr esgobaeth.

Un rheswm dros gefnogaeth Burgess i'r Gymraeg oedd fod yr Anghydffurfwyr, a'r Methodistiaid yn enwedig, wedi ennill tir sylweddol yn ei esgobaeth yn ystod y ddeunawfed ganrif.

Er bod Thomas Young wedi dod yn ganghellor yr esgobaeth, yr oedd yr esgob yn barod iawn i dorri ei grib, fel.

Yn ogystal â bod yn un o'r tlotaf, Tyddewi oedd yr esgobaeth ail fwyaf o ran maint yng Nghymru a Lloegr.

Roedd esgobaeth Tyddewi yn un enfawr a rhy anodd o lawer ei rheoli o Dyddewi.

Pan oedd ar ei ffordd i'w esgobaeth, daeth o hyd i nifer o bobl y wlad yn dawnsio o amgylch un o'r meini hirion hyn.

Wel, roeddwn i'n ymgeisydd am Urddau yn Esgobaeth Llanelwy gan fod diffyg Cymraeg, yr adeg honno roedd Esgobaeth Bangor yn drylwyr Gymraeg.

Y Parchedig Gordon Owen, Llanfairisgaer yw Swyddog Addysg yr esgobaeth.

WYN JAMES sy'n dweud hanes Sais a Chymro a fu'n allweddol eu cyfraniad at gywyd diwylliannol Cymru yn y ganrif ddiwethaf, yn naill yn Esgob Tyddewi ar adeg pan oedd yr Esgobaeth yn cynnwys y rhan fwyaf o ddalgylch yr Eisteddfod, a'r llall yn un o'r 'hen bersoniaid llengar' ac yn enedigol o'r ardal.

Ymhen tair blynedd fe'i symudwyd gan yr Esgob William Hughes o Lanelwy i ficeriaeth y Trallwng yn Nyffryn Hafren, symudiad a sicrhaoddd mai yn esgobaeth Llanelwy y gwnâi ei waith mawr, ffaith ddigon eironig o gofio gwrthwynebiad cynnar yr Esgob Hughes, fel rhyw fath o 'enfant terrible' yn yr Eglwys ar y pryd,i gael Beibl Cymraeg o gwbl.

Dichon fod digwyddiadau fel hyn bellach yn ymddangos yn annoeth, ac hyd yn oed yn blentynaidd, ond maent yn dangos fod y berthynas rhwng Ferrar a phrif glerigwyr ei esgobaeth wedi mynd yn bur wenwynllyd.

Bu wrthi'n brysur yn creu delweddau am ein nawddsant er mwyn dyrchafu esgobaeth Ty Ddewi.

Er gorfod wynebu gwg yr awdurdoadu gwladol ac eglwysig, ni wangalonnodd Piwritaniaid esgobaeth Peterborough.

Ond ymrôdd hefyd i wella safon addysgol clerigwyr ei esgobaeth, a rhan o'r ymroi hwnnw oedd ei ymgyrch i sefydlu coleg i hyfforddi darpar offeiriaid yn Llanbedr Pont Steffan.

Gwnaeth Penri y rhan fwyaf o'i waith yn sir Northampton, yn esgobaeth Peterborough ac ni ellir gwerthfawrogi'n llawn gymhellion ei weithgarwch heb gymryd hynny i ystyriaeth.

Canolbwyntir yn yr ysgrif hon, hyd y gellir, ar gyfnod byr William Morgan yn yr esgobaeth honno, ond yn gyntaf mae'n rhaid trafod rhai agweddau ar ei yrfa yn y blynyddoedd cyn hynny.

Fel yr awgryma'r Athro Glanmor Williams, roedd yr esgob wrth wneud hyn yn rhannu'r esgobaeth yn is-esgobaethau.

Pan gysegrwyd Thomas Bec yn esgob ar esgobaeth Tyddewi, canfu fod llawer o gymdeithasau eglwysig a oedd wedi goroesi'r canrifoedd yn bodoli yn ei esgobaeth.

Pan oedd Morgan yn blentyn fe aeth Eglwys Loegr (a oedd yn cynnwys pedair esgobaeth Cymru) drwy broses o Brotestaneiddio cyflym dan y Brenin Edward VI ac yna drwy adwaith Catholig pur chwyrn dan y Frenhines Mari I, ond pan oedd Morgan yn dair ar ddeg oed fe ddaeth y Frenhines Elisabeth I i'r orsedd a sicrhau mai Protestaniaeth Anglicanaidd fyddai crefydd swyddogol y deyrnas - Lloegr a Chymru - o hynny ymlaen.

Treuliodd ei yrfa eglwysig yn esgobaeth Bangor.

Rhoddwyd iddo hefyd drwydded gyffredinol i bregethu, fel nad oedd angen iddo chwilio am ganiatâd pob esgobaeth i bregethu ynddi yn ystod ei ymweliadau.

Nid aeth Ferrar i esgobaeth Tyddewi ar unwaith a bu cwyno digon pigog oherwydd hynny.