Yr hyn syn ddiddorol yw sut y mae'r Just Gay Enoughs wedi esgor ar fathau eraill o ddynion - fel yr NQGEs (Not Quite Gay Enogh) syn gyrru o gwmpas mewn picyps.
Yr oedd ei garedigrwydd naturiol yn esgor ar gymwynasgarwch a chyfeillgarwch.
Ffrwyth ymchwil synfawr a dychymyg eofn wedi esgor ar iaith ddi-dderbyn-wyneb fydd honno.
Yn wir, un o siomedigaethau llenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif yw bod profiadau mawr y bro%ydd diwydiannol wedi esgor ar gyn lleied o lenyddiaeth storiol dda.
Mae bwrlwm y profiad personol yn yr emyn yn esgor ar y byrdwn a ganwn gyda'r fath arddeliad.
O fwd moroedd Bermiwda, ys dywed Euros Bowen yn ei gerdd iddynt, mae'r leptocephalii yn esgor ac esgyn i wyneb y tonnau ac yn cychwyn ar drugaredd Llif y Gwlff.
Cymdeithas sy'n ymddiried yng nghynneddf y rheswm yw'r gymdeithas gomiwnyddol, ac fel y proffwydodd Goya ddwy ganrif yn ol 'mae'r rheswm yn esgor ar anghenfilod unwaith ei fod e'n dechrau breuddwydio.'
Pylwyd ffydd gan esgor ar ddiffyg ffyddlondeb a theyrngarwch.
Felly, wrth i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg fynd ymlaen - y syniadau am y dinesydd modern, buddiol neu am y genedl fel cwlwm o werthoedd yn ennill tir, gwelwn wrthdrawiad cymhleth rhyngddynt a hynny'n esgor ar nifer o batrymau addysgol yn ôl natur y wladwriaeth a datblygiad y broses foderneiddio.
Yr arian yn esgor ar aur.
mae'n esgor ar deimladau cryfion a gweithredodd byrbwyll.
Un o drychinebau'r sefyllfa bresennol yw bod y ddwy garfan hyn, er yn coleddu'r un nod, yn mynd i amau cymhellion a dulliau ei gilydd, a bod hynny yn ei dro yn esgor ar elfen o anoddefgarwch yn agwedd y naill at y llall.
Fel Dick Chappell, mae Bert Isaac yn cael ei ddenu at olion diwydiant, ond yn ei achos ef mae'r diddordeb yn esgor ar waith gwahanol iawn.
Doeddwn i ddim wedi sylweddoli, mae'n amlwg, fy mod innau hefyd yn gynnyrch y gymdeithas honno, a bod y 'consumer society' bondigrybwyll wedi esgor ar ddiwylliant cyfan yr oeddwn innau'n rhan ohono yn ddiarwybod i mi fy hun.
Mae hyn wedi esgor ar nifer o ymholiadau a negeseuon o gefnogaeth o bob ran o Gymru a'r byd (neges o Senegal ydi'r un mwyaf annisgwyl hyd yma!), ac mae nifer wedi cyfrannu'n ariannol wedi darllen y tudalennau.
Dylid asesu pob agwedd ar gynllunio ar gyfer datblygiad yn ôl y gofynion er mwyn sicrhau y bydd hynny'n esgor ar gyfle cyfartal i'r holl ddisgyblion ag AAA.
Nawddsantes gwragedd beichiog oedd Margred ac arferai gwragedd apelio ati i leddfu eu gwewyr esgor er mai morwyn oedd Margred.
Y mae un o'i gariadon yn marw wrth esgor ar ei blentyn.
Mae'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn Lloegr wedi esgor ar anghytundeb brwd ynghylch natur Hanes Lloegr.
Felly fydd Catherine Zeta Jones ddim yn priodi nes y bydd ei chorff wedi dod yn ôl i siap ar ôl iddi esgor ar ei babi.
Fe'u beirniadwyd yn arbennig am eu hanniweirdeb a'u llacrwydd moesau, am esgor ar blant anghyfreithlon, ac am eu hanonestrwydd, eu twyll a'u diota.
O safbwynt iaith leiafrifol fel y Gymraeg sydd wedi bod heb statws mewn cynifer o feysydd allweddol am gymaint o flynyddoedd, y mae colli hyder yn safon a pherthnasoldeb yr iaith a siaredir yn gallu esgor ar shifft araf tuag at ddefnydd helaethach o'r iaith ddominyddol mewn gwahanol sefyllfaoedd.
Gollyngir dros gof yn llwyr fod ugain mlynedd o Ffasgi%aeth wedi esgor ar ddirywiad dychrynllyd yn yr Eidal - datblygiad hollol anochel.
Ond anfonodd yr Almaen filwyr i Kosovo y llynedd gan esgor, felly, ar drefn newydd.