Esgorodd y polisi hwn ar ganlyniadau cymdeithasol, seicolegol a diwylliannol sy'n ddigon cyfarwydd mewn gwledydd sydd wedi eu concro gan wlad arall neu eu corffori mewn gwlad arall.
Ryw noson, a Rondol ar waelod y grisiau cefn heb yr un ddima i godi'r glicied, fe gredai yn y cyflwr hwnnw mai yn ei wylltineb y creodd y Creawdwr gors Bodwrog, ond ei fod wedi dod ato'i hun pan greodd feysydd haidd yr ardal, a esgorodd ar y wyrth o fedru gwneud cwrw; ac fe gydsyniodd a fo'i hun nad oedd yn iawn fod yr hyn a elwir yn ddim yn medru sefyll rhyngddo fo a'i beint.
Roedd y ddwy garfan yn ymateb, wrth gwrs, fel ag yr oedd deallusion Ewrop benbaladr, i'r 'newyddfyd blin' yr esgorodd y Rhyfel Mawr arno.