Os yw anghyfarwyddo a dieithro yn rhan o arddull Robin Llywelyn ni ddylai hynny fod yn esgus pam y mae'r un sy'n dehongli ei waith yn gwneud hynny hefyd.
Wi'n dweud hyn am 'i bod hi wedi gofyn i ti helpu gyda threfniade'r angladd - a chan fod rheiny nawr ar ben, fydd gen ti ddim esgus dros alw'n rhy amal yn Maenarthur.'
Mae'n anhygoel fod Cyngor wedi ei arwain gan Sosialwyr yn cwyno ein bod yn gwrthwynebu rheolaeth Quangos Torïaidd ar ein system addysg, ac yn defnyddio hwn yn esgus i beidio â thrafod argymhellion y mae sir gyfagos Ceredigion yn eu hystyried yn ddigon pwysig i'w hastudio'n fanwl gan is-bwyllgor arbennig.
Ni byddai ond esgus i'r arweinwyr gwleidyddol fyddaru'r cyhoedd â dadleuon rhagfarnllyd.
Agorodd Mary'r drws iddo ymhen hir a hwyr gan wneud esgus ei bod wedi pendwmpian ar y soffa a'i bod yn rhaid bod y glicied wedi dod i lawr ar ddamwain.
Yn bersonol, roeddwn yn falch iawn o'r esgus i ymuno gyda'r dorf oedd yn codi ar eu traed ac yn y martsio o gwmpas yr awyren bob awr.
(Ganddi hi roedd y baedd Large White gorau ar Benrhyn Llyn.) Rhesymau gwahanol, fodd bynnag, a barai fod y postman lleol - priod a thad i bump o blant, a blaenor gwerthfawr gyda'r Annibynwyr - yn troi i mewn i Gerrig Gleision ambell i fin nos o dan yr esgus o ddanfon teligram.
Pe buasem wedi bod â'n meddwl yn fwy effro yr adeg hwnnw fe fuasem wedi cofnodi yr hyn a gymerodd le a'r hyn a welsom ac a glywsom, ond y mae peth esgus dros beidio â gwneud, a hwnnw ydyw: yr oeddym yn rhy brysur yn clodfori ac yn canu, a gweddi%o, a rhyfeddu.
Mae'n ymddangos fy mod i'n bodoli i raddau helaeth ar wres, fel pry copyn newydd anedig, ac mae'r tegeiriannau'n esgus dros gael gwres.
Ffermwr i bob golwg ydoedd bellach ond nid oedd ffermio ond esgus dros guddio ei fusnes arall sef smyglo unrhyw beth y gallai roi ei ddwylo arno.
ac, fel mater o ffaith, os cyfaddefir bod rhyfel amddiffynnol yn gyfreithlon yna fe ganiateir popeth, oblegid onid yw'n ofnadwy o beth fod pedwar ar bymtheg allan o ugain o'r rhyfeloedd mwyaf erchyll sydd wedi gorlifo'r ddaear â gwaed wedi cael eu hymladd i'r pwrpas hwnnw, neu o leiaf fel esgus am hynny ?
Wir, roedd sawl un yn arfer taro draw wedi nos, gan esgus mynd i weld 'i mam, ac yn ddigon parod i Luned 'i hebrwng e at glwyd yr ardd cyn mynd adre.
'Diolch am yr esgus i gael pum munud bach.
Mae'n rhaid imi'ch llongyfarch, Marged, am feddwl chwim yn gwneud esgus dros fod yn ei dŷ, ond roeddwn i wedi eich clywed yn blaen yn son am y sachaid bwyd, ac yn gwybod mai wedi dod yno i chwilio roeddech chi." Gwridodd Marged at fon ei gwallt.
"Does dim pwrpas esgus nad oedd dim byd wedi digwydd, Marc."
Rhaid oedd cael esgus i ddod â chyfundrefn newydd o addysg i mewn i Gymru ac i Brydain hefyd (t.
Dyna'r esgus beth bynnag.' Bu saib, tra casglai Jonathan nerth i fynd ymlaen.
Teimlai nad oedd arno awydd dod yn agos ati, a phetai hi'n ceisio cydio yn ei law, fe fyddai'n gwneud esgus i'w ryddhau ei hun o'i gafael.
Digon rhesymol gwneud esgus i ymdroi o gwmpas Crud y Gwynt am ryw hanner awr ychwanegol, ond wedyn byddai'n rhaid iddi gerdded yn ôl ac ymlaen ar hyd y ffordd i aros amdano.
Mi fyddent yn dod yn aml efo rhyw esgus, ond mi pedd Dada, yn gallu eu cadw yn eu lle, a felly 'roedd ef yn cael ei barchu ac yn cael eu help pan fyddai yn adeg brysur.
Dyma esgus da i bawb roi'r gorau i weithio ac er i'r dyn Indiaidd ysgwyd ei ddwrn a dweud mewn llais miniog, '...
Cymerir hynny'n esgus dros geidwadaeth ronc yn amlach na pheidio, ond mae'n amhosib peidio a bod yn ymwybodol o'r blaen ellyn y mae'n rhaid ei droedio.
"Wel", meddwn i, i gael amser i feddwl am esgus mwy pendant.
Mae arna i ofn y byddwn i'n twyllo fy hunan yn llwyr pe bawn yn esgus bod adroddiad Cymraeg ar orsaf deledu leiafrifol wedi agor y ffin i'r Palestiniaid.
A ninnau'n byw o fewn dau funud o'r ysgol doedd gen i ddim esgus dros ei gwrthod.
Pan agorodd ei wraig gymharol newydd ddrws eu cartref ar ei ddychweliad bun rhaid iddo yntau feddwl am esgus sydyn am ei absenoldeb.
Gyda'r esgus eu bod yn archwilio'r gwahanol bosibiliadau, gwnaeth Awdurdod Addysg Ceredigion arolwg yn nechrau 1998 o'r ddarpariaeth o addysg gynradd yn y sir.
Yr agwedd gonfensiynol at Oes Victoria yw ei bod yn oes hynod gul a fynnai anwybyddu'r profiad rhywiol mewn llenyddiaeth ac esgus nad oedd yn bod ym mywyd y dosbarth canol parchus.
O ran hynny, yr oedd ganddo esgus da, ond yr oedd yn rhy falch i'w ddefnyddio, yr oedd y codwm a gawsai wedi ei ysigo yn dost, ac anafu, neu o leiaf amharu, pob migwrn ac asgwrn ohono.
Torri 'ngwallt i heb yngan gair, dim ond gwenu a chrechwenu'n y drych wrth ddefnyddio'r siswrn obeutu 'nghluste i, ac esgus holi'n ddifrifol pa liw oedd 'y ngwaed i; gwaed 'nigar' - fel tasa fe'n gweud 'gŵr bonheddig' neu 'Gymro' neu 'Sais'.
Yn gynta am fod Cymru wedi dod i Iwerddon iddo fe gael gweld gêm ryngwladol, ond yn ail roedd am ddiolch i mi am rwystro'r hyn a alwai ef yn esgus pellach i bropaganda'r wasg Seisnig gael ei ddefnyddio yn erbyn ei bobl e.
Caf esgus i loetran yn hamddenol yn hytrach na bustachu tua'r copa pan ddof ffordd hyn ganol haf i chwilota am blanhigion yng nghysgod y creigiau, wrth ffrydiau neu ar ymylon y pyllau mawn.
"Mi wnewch chi ryw esgus.
Serch hynny, roedd yna esgus gyda'r tywydd yn oer dros ben â'r amgylchiadau yn anodd i'r bowlwyr.
Cofiwch nad esgus i orfwyta yw bod yn feichiog.
Nid oes esgus, meddai'r Gweinidog Addysg, tros ysgrifennu Saesneg carbwl.
Efe a aeth, er y buasai yn rhoi llawer am esgus digonol dros beidio â mynd.
'Bydd y lle yn oer,' oedd yr esgus a gawn dros y diffyg brwdfrydedd yma.
Er pan glywsai am fwriad John Edmunds i ddathlu sefydlu hunan-lywodraeth yn yr harbwr, ni buasai taw ar ei fremian, na wyddai'r cynghorydd y peth cyntaf am fywyd môr, mai dyn tir oedd o, o dras a diddordeb, mai esgus i gael ei weld oedd ei glochdar am gael dathliad yn yr harbwr am nad oedd sail i ddathlu dim arall yn y Porth.
"Pam wyt ti'n meddwl mod i'n esgus nad oedd dim wedi digwydd?"