Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

esgyrn

esgyrn

Felly y gwnaem o'r naill ran i'r fraich i'r llall gan gynnwys cymalau ac esgyrn; ac mae i bob asgwrn ei hyd a'i ffurf, a'r ffurfiau i gyd wedi eu creu gan y cyhyrau.

Ers dau neu dri o berfformiadau bellach rwyf wedi cael rhyw hen deimlad annifyr ym mêr fy esgyrn fod cwmni Bara Caws wedi chwythu'u plwc.

Ydy hithau'n dwad Ddolwyddelan?" "Ydy, yn ôl pob sôn." "A'r un mor barod i frwydro?" "Ia, ddyliwn." "Gwytnwch a rhuddin hil Rhodri ac Owain Gwynedd o Benychain ym mêr yr esgyrn." Yna sibrydodd Elystan o dan ei anadl rhag i'r ddeuddyn arall ei glywed, "Os byth y bydd angen Ysgrifydd arni i ysgrifennu drosti mewn llythrennau cain, fe ŵyr hi at bwy i droi.

Arhosais i bethau ddod atynt eu hunain ryw ychydig: y fegin yn dal i weithio er bod yr esgyrn yn ratlo ar ôl y glec, ac roedd y byd yn dechrau sadio wedi fy nhaith din-dros-ben drwy'r awyr ar ddeng milltir ar hugain yr awr.

Adrodd yr Ymrwyniad Dirwestol wedyn, nerth esgyrn ein pennau þ 'Yr wyf yn addaw, drwy gymorth Dur, ymgadw rhag pob math o ddiodydd meddwol.' Dau fath o blant oedd yna bryd hynny þ plant y Rhodd Mam, yn dda a drwg.

Gan fod i bob rhan ei enw Lladin roedd yn ofynnol ei dysgu a'u cofio i gyd ac mae'r mân esgyrn a geir yn yr arddwrn a'r llaw, yn unig, yn niferus iawn.

Nid boliau mawr yn hongian ar esgyrn di-gnawd yw unig arwyddion newyn.

O grafur ddaear â ffyn ac esgyrn i ffermio diwydiannol technolegol a bwydydd GM, bur rhaglen hyddysg, llawn gwybodaeth Fruitful Earth, yn olrhain sut y lluniwyd ein hynysoedd gan yr angen i fwyta.

Gwaeddodd nerth esgyrn ei ben ond chlywodd neb y gri unig o'r môr.

Erbyn i ni gyrraedd Lavernock mae'r marl gwyrdd wedi troi i fod bron yn ddu, ac yn yr haenau du yma ceir olion esgyrn pysgod ac ymlusgiaid mawr.

Gwaeddai, crochlefai a rhuai nerth esgyrn ei ben, a phan aeth i gicio drws ei gell, clywodd y ceidwad ef.

Roedd hi'n gynnes braf yma yng nghysgod y gwynt, y llyn yn ddrych clir, yr awyr yn sidanaidd ac esgyrn eira'n Machio'n y cilfachau.

`Lleidr!' bloeddiodd Debbie nerth esgyrn ei phen.

Uwchben yr haenau du yma o esgyrn mae carreg galch a sial y creigiau Lias i'w gweld, ac yn wir, mae yna lwybr o'r traeth sy'n arwain i fyny'r clogwyn ar y garreg galch.

Cleisio oedd yr anaf mwyaf cyffredin ond roedd yna nifer o achosion o bobol ifanc efo esgyrn wedi'u torri ac anafiadau i'r pen, brathiadau a llosgiadau.

Sylweddolodd gydag arswyd mai esgyrn oedd y rhain.

Y rhan o'r Beibl sy'n ei gynnig ei hun fel un addas wrth weddi%o tros ein heglwysi heddiw yw Gweledigaeth Dyffryn yr Esgyrn Sychion.

NId ysgolhaig a bardd yn unig oedd John Morris-Jones, ond athro hyd fêr ei esgyrn, a threuliodd ei flynyddoedd aeddfetaf yn dysgu i genedl y Cymry, trwy'r Eisteddfod a'r wasg, sut i farddoni.

Chwys wyneb a llafur breichiau, a mêr esgyrn y nigger druan adeiladodd eich muriau, a weithiodd eich ystafelloedd, ac a osododd i fyny eich pinaclau; a'u dodrefnodd â dodrefn dymunol o goed y Walnut a'r Rosewood, y Curly Maple, y dderwen, a'r Spanish Mahogany.

O grafu'r ddaear â ffyn ac esgyrn i ffermio diwydiannol technolegol a bwydydd GM, bu'r rhaglen hyddysg, llawn gwybodaeth Fruitful Earth, yn olrhain sut y lluniwyd ein hynysoedd gan yr angen i fwyta.

Er eich bod ym mêr eich esgyrn yn tybied y deuai'r byd pydredig hwn i ben ryw dro, prin fod hynny'n ddigon i chi wneud synnwyr o'r 'pummed brenin' ar y ddaear y dywedir yma ei fod yn 'Rheolwr or tu fewn i Dduw ag i ddynion': sut all neb fod yn rheolwr o'r tu fewn i Dduw?

Uwchben y côr mae aderyn yn canu nerth esgyrn ei ben yn uchel ym mrigau coeden.

Mêr esgyrn y negro druan lanwodd eich cypyrddau â llestri drudfawr o aur, arian, a china - gwaith dwylaw celfydd celfyddwyr blaenaf Prydain ac Ewrop - a huliodd eich byrddau a'r danteithfwydydd brasaf, a'ch selerydd â gwinoedd mwyaf blasus gwinllanau Ysbaen, Portiwgal, a Champagne.

Yr oedd ei esgyrn, er nad oedd un ohonynt wedi torri, yn cnoi; ond ni ofalai ef lawer am hynny y cnofeydd a oedd yn ei galon a'i blinai fwyaf.

"Damia!" sisialodd, pan gofiodd yn sydyn na wnâi hynny ddim ond datguddio rhychau ac esgyrn a smotiau brown galwad ei phridd, felly caeodd y ddau fotwm yn ffwndrus yn eu hôl.

Darlithiau trwy'r dydd, a'r Major yn tynnu ar ei atgofion mewn ymdrech i roi cnawd am esgyrn sychion ei sylwadau.

Dwi'n wlyb at fy nghroen ac mae'r carpiau bratiog yma sgynnai'n llac amdanai, yn da i ddim yn erbyn yr oerfel sy'n gafael ym mêr fy esgyrn, waeth gen i pa mor hudol bynnag ydyn nhw, ac mae hi'n mynd yn hwyr.

A does dim byd syn rhoi mwy o bleser na gyrru trwy Llundain am dri y bore da chriw o bobl feddw yn mynnu dod o hyd i Burger King lle gallen nhw socian lan yr alcohol tran canu caneuon yr Eagles nerth esgyrn eu pennau.

Help!' gwaeddodd nerth esgyrn ei ben, ond roedd gormod o sŵn gan y fen i neb fredru ei glywed.

Ysgubaist trwy ein cymoedd gan wiso esgyrn sychion â chnawd a'u gwneud yn fyddin gref.