Galw ar i'r Cynulliad osod esiampl dda drwy weithredu'n hollol ddwyieithog ac ysytyried effaith pob polisi ar bobl ifanc yng Nghymru.
Defnyddiaf ynni fel esiampl gan yn anad, dim ynni sy'n cynnal cymdeithasau ac mae eu ffyrdd o'i ddefnyddio yn eu nodweddu.
Mae'r symudiad yma yn esiampl pellach o ymgais llywodraeth asgell-dde y Partido Popular yn Sbaen i gynyddu tensiwn yng Ngwlad y Basg.
Roedd ganddo ef gydwybod gymdeithasol effro iawn, wrth gwrs, ond yr esiampl a gynigiai ei stori i'r genhedlaeth yn union cyn f'un i oedd gwerth hunan-wellhad: goruchafiaeth hunan-ddisgyblaeth, diwydrwydd, a byw'n dda, gwerthoedd oedd wedi eu hangori mewn patrwm cymdeithasol di-sigl.
"Ni'n ca'l laff fel, ond weithie rhaid dangos esiampl.
Yn gyntaf oll, disgwylid iddo reoli'n dda ac, yn ail, edrychid arno fel un a roddai esiampl i eraill o'i 'berffeithrwydd' (neu o leiaf ei ddehongliad ef ohono) er mwyn gwneud dynion eraill yn dda.
Effeithir popeth gan y pwyslais newydd ar 'enaid': mae'r profiadau a barodd i'r bardd arddel Iesu fel dyn wedi troi'n foddion iddo ei goleddu bellach fel ymgorfforiad o Gariad ac fel esiampl i'w efelychu.
Galwn nawr ar i bob Cyngor Unedol arall ddilyn esiampl Ceredigion trwy greu Cynllun Addysg Cymunedol, sefydlu Is-Bwyllgor Datblygu Addysg Gymraeg, a hybu datblygu Fforwm Addysg i Gymru.
Mae'r we yn un esiampl, ac fe soniodd Iwan am enghraifft y swyddfa dreth incwm.
Nid yn aml y ceir esiampl felly o gymhwyso hen chwedl at ymosodiad gwleidyddol neu gymdeithasol.
Dilyn esiampl yr Almaen a wnaeth Cymro amlycaf ei oes, a'i wobr oedd gwybod fod gweithwyr yn gallu cael cynhaliaeth hyd yn oed mewn salwch trwy lusgo byw 'ar y Lloyd George'.
Yn ôl esiampl yr Ysgrythurau eu hunain, rhaid rhoi'r flaenoriaeth i briod-ddull yr iaith y cyfieithir ohoni wrth gyfieithu'r Ysgrythurau.
Sôn am amherthnasol, fedra'i ddim meddwl am well esiampl'.
Norman Tebbit yn cynghori pobl i ddilyn esiampl ei dad a mynd ar eu beiciau i chwilio am swyddi.
Esiampl weddol syml o'i ddefnydd a gyflwynwyd yma, ond mae'n ddigonol i ddangos effeithioldeb yr algorithm genetig.
Fel esiampl o broblem i'w datrys, dychmygwch fod yn rhaid teithio o amgylch Cymru i ddosbarthu'r rhifyn hwn o Delta, ac mai dim ond un cerbyd sydd ar gael i wneud y gwaith.
Yr oedd hefyd esiampl enwocach, os rhywbeth, a pharchusach yn sicr.
Credir gan archaeolegwyr mai beddrod o Oes y Cerrig Newydd yw'r Garreg mewn gwirionedd, ond mae'r chwedl yn esiampl arall o arferiad ein cyndadau i geisio egluro nodwedd hynod yn ein tirlun.
Y mae llenyddiaeth Sinn Fe/ in yn cydnabod fod y cynlluniau hyn wedi eu hysbrydoli gan esiampl y Swistir.
Dilynwyd yr esiampl hon gan y ddau brif enwad arall, yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr.
'Mae'r gêm hon wedi bod yn dda i mi', meddai, 'a theimlaf ei bod hi'n ddyletswydd arnaf i roi rhywbeth yn ôl iddi.' Ei gariad at y gêm a'i rhwydodd i rengoedd dethol dyfarnwyr Pencampwriaeth y Siroedd, gan ddilyn esiampl y ddau Gymro chwedlonol, Dai ac Emrys Davies.
Doedd bosib nad oedd e'n gweld ei fod yn agor y ddor i ragor o estroniaid ddilyn ei esiampl?
Dengys esiampl Mr a Mrs Beasley sut y dylid mynd ati.
Radicalaidd-anghydffurfiol) o'r Eglwys yn y ddeunawfed ganrif, gan bortreadu Theophilus fel esiampl o fywiogrwydd eglwyswyr yn y cyinod hwnnw; mae'n mynd hefyd y tu hwnt i lawer o'n syniadaeth confensiynol ni a dangos sut oedd modd yn y cyfnod hwnnw gydblethu Cymreictod a Phrydeindod gydag arddeliad.
Dechreuodd, gan ddilyn esiampl ei thad yn rhoi cynulleidfa yn y cywair priodol cyn dechrau siarad, trwy ddweud mai pleser oedd bod ar yr un llwyfan â mab Tom Ellis a Mab OM Edwards.
Sbardunwyd eraill i ddilyn esiampl Forbes.
Mater yw hi o'r Cynulliad yn cynnig esiampl ac arweiniad positif gan felly feithrin hyder cyffredinol yng ngwerth a phwysigrwydd yr iaith Gymraeg i bawb yng Nghymru.
Bydd yn esiampl i eraill.