Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

esmwyth

esmwyth

Weithiau mae'n edrych fel rhidyll symudol anferth o oleuni, fel yn 'Y Gogarth o Fangor Uchaf', lle mae'r haul yn llithro'n esmwyth trwy orchudd tenau o gymylau i oleuo'r môr.

Daeth yr awyren i lawr yn esmwyth gan redeg ar hyd rhyw gae.

Mae gennych chi le i ddiolch nad ydw i ddim yn cysgu mor esmwyth ag y bu+m i, neu fyddech chi ddim yma'n mwynhau brecwast yn yr haul ond yn yr ysbyty yn ymladd yn erbyn niwmonia.

'Roedd yr awyren yn hedfan yn esmwyth mewn awyr glir.

Bellach y mae llawer ohonynt wedi eu caethgludo i wasanaeth materoliaeth, ac yn esmwyth yn eu caethglud.

'Roedd pethau'n mynd yn esmwyth iawn ym mherthynas Teg a Cassie ar y dechrau ond dechreuodd pethau fynd o chwith yn gynta pan ddaeth Steffan i chwilio am ei fam - 'doedd Cassie 'rioed wedi cyfadde wrth Teg fod ganddi blentyn cyn priodi - ac yna pan benderfynodd Beryl, mam Cassie, adael y gogledd a dod i fyw at ei merch i'r Deri.

Teimlai nad oedd yntau, chwaith, wedi cael siwrnai esmwyth drwy'r misoedd diweddar.

Codi'n esmwyth ddaru o, yntê?

Wedyn, rhwng y gwahanol silffoedd o lyfrau y mae digonedd o gadeiriau esmwyth y gall rhywun ymlacio ynddynt tra'n pori trwy lyfr.

Mae ei ffrog gotwm ysgafn yn esmwyth i'r cyffyrddiad, ac mae 'na gymaint o hapusrwydd ynof.

Credaf mai ParryWilliams a fathodd y term 'pryd poced' a fyddai'n cydio de a gogledd yn esmwyth ddigon.

Heb os, mae rhywun yn cael yr argraff na fyddai rhaglenni o'r fath yn cydorwedd yn esmwyth ag athroniaeth rhaglenni heddiw.

Edrychodd Gwen arno'n cyrcydu'n esmwyth ar y carped hirflew, a golau fflam ffug y ta yn chwarae ar ei wyneb.

Ar fraich y gadair esmwyth roedd papur newydd, a phâr o esgidiau ar y llawr yn ei hymyl.

Ond y mae'r ddwy ysgol ar ddau safle ac y mae popeth yn rhedeg yn esmwyth.

Pan ddaethon ni i'r ddaear yn y diwedd, roedden ni ar fryncyn braf y gwair yn hir ac yn ir o'n cwmpas, fel matres esmwyth.

Yr wyf innau'n un o'r lleiafrif hurt sy'n gweld ynddo farwolaeth barchus ac esmwyth ac angladd ddialar i'r Gymraeg.

Yr oedd yno hefyd gadeiriau esmwyth, a dwy lyfrgell yr orlawn o lyfrau.

Gwelai Myrddin Tomos yn y gell gosb y meysydd moethus, maethlawn ar lannau Tywi, y cnydau cyfoethog, y bencydd beichiog,,a'r gweunydd sa oedd mor esmwyth-lyfn â lawntiau.

Dowch i ista fan'ma, i ni gael sgwrs, tra bydd yr actorion yn cael eu traed danyn'." Cawsom ddwy gadair esmwyth yn ddigon pell o'r llwyfan, ond dal i sibrwd a wnaethom.

Yr un teimlad melfedaidd, esmwyth sydd i'w gael yn yr ail lun hefyd, Haf yn Ninas Dinlle.

Nid ple yw hyn dros fynd yn ol i'r hen amser yn gymaint a rhyfeddu mor rymus o nobl y cerddodd y canrifoedd rhagddynt, a hynny heb un arlliw o dechnoleg ein blynyddoedd esmwyth ni.

Ochenediodd hithau, cyn rhoi ei llaw yn ysgafn ar ei thalcen i'w thawelu, ac ni symudodd nes iddi lithro'n eri hôl i gysgu'n esmwyth a dibryder.