Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

estate

estate

Petai'r goeden gyraints duon honno gan yr estate agent , ac yntau eisiau ei gwerthu, ni fuasai'n chwarae o gwmpas gyda rhyw lol am haul a lleuad.

Enlli yn cario un o arwyddion Owens Estate Agents, ac Enlli yn cael ei llusgo i fan yr heddlu.

Dywedwch wrth y ci fod mwy o gig ar goesau'r estate agent, yr hyn sy'n debyg o fod yn llythrennol wir, am amryfal resymau.

Ni wyddai Shakespeare, Milton, a Dafydd ap Gwilym wedi eu rowlio i'w gilydd ddim byd amdani hi, yn y mater o ddychymyg, o'u cymharu ag estate agent.

Ond cymerwch gysur, canys pe buasai'r cwrs hwn yn agored ichi buasech felly yn cael eich amddifadu o ddarllen llenyddiaeth ddychymyg wychaf y byd disgrifiadau estate agents o'r ffermydd sydd ganddynt i'w gwerthu.

Ni wn i, ond byddaf yn pensynnu rhywfaint ac yn cael amheuon ar y mater wrth weld yr olwg arallfydol yn llygaid ambell estate agent, ac wrth ryfeddu uwchben ar ucheledd dychymyg ei ddisgrifiadau o'r ffermydd sydd ganddo ar werth.

Yn ail, trwy ofyn i'r creaduriaid goruwchnaturiol hynny, yr estate agents, beth sydd ganddynt ar fynd.

Druan bach, nid yw ei adenydd ffansi ond megis rhai gwybed bach wrth ymyl rhai eryr dau-ddwbl yr estate agent pan fo'n disgrifio fferm sydd ganddo i'w gwerthu.

Byddaf yn amau weithiau mai gwŷr a lesteirwyd gan eu rhieni rhag mynd yn feirdd yw'r estate agents un ac oll.