Sethrir ar ddiwylliannau gwannach ran amlaf dan gochi lledaenu diwylliant ac addysg arall i wledydd estron.
'Nid dyn yw e, ond Sais', meddai glowyr y fro wrth durio'n chwyslyd am 'ddiemwnt du' dros eu meistr estron.
Twpdra rhywun estron diddeall oedd sail anwybodaeth Ms Toynby.
Gwelwyd hefyd ddylanwad llenyddiaeth Lloegr a Ffrainc yn treiddio i'r traddodiad Cymraeg, nes bod llenorion yn benthyca naill ai destunau cyfan i'w cyfieithu a'u haddasu ar gyfer cynulleidfa newydd, neu'n codi enwau ac elfennau naratif unigol o'r ffynonellau estron, i'w hymgorffori mewn testunau cyfansawdd.
Un diwrnod pan oedd Hadad a'i warchodwyr, a oedd erbyn hyn yn debycach i noddwyr, yn aros yn y wersyllfa lle gwelsai Hadad griw'r llong ddiwetha, dyma garafa/ n ramantus, estron yr olwg yn dynesu o'r bwlch creigog ac yn aros wrth ffynnon y balmwydden.
Ffanffer ydyw sy'n gorffen yn ddisymwth, fel y gwnaeth, yn ôl y chwedl, ganrifoedd yn ôl pan laddwyd y trwmpedwr a oedd wrthi'n rhybuddio'r trigolion fod milwyr estron y Tartar gerllaw'r ddinas.
Pwy mewn gwirionedd ydi'r Eingl-Gymro bondigrybwyll yma, ond un sy'n gwybod ei fod yn Gymro, neu sy'n dymuno meddwl amdano'i hun felly, ond sy'n ymwybodol byth a hefyd ei fod yn siarad iaith estron?
Yn yr Almaen, mae ymosodiadau'r 'Neo-Natsi%aid' ar bobl o dras estron yn parhau, ond cau eu llygaid ar y broblem y mae'r llywodraeth fel y rhan fwyaf o Almaenwyr, yn ôl MARION L™FFLER o Berlin.
Coed estron i'n hardaloedd ni yw'r Conwydd - y pinwydd, y ffinydwydd a'r pyrwydden.
Diddorol hefyd yw sylwi lle'r oedd y dylanwad estron i'w deimlo drymaf.
Yr oedd dau goleg y Bedyddwyr (yn Hwlffordd ac ym Mhont-y-pŵl) hefyd wedi rhoi lle rhyngddynt i dri estron ond nid yw hynny'n gymaint o ryfeddod, efallai, ag yn hanes y Methodistiaid oherwydd yr hen gysylltiadau niferus rhwng Bedyddwyr Cymru a Lloegr.
Ond nid hollol estron Fryniau Casia chwaith.
Gwelir y duedd hon ar waith yn y deunydd Arthuraidd yn arbennig, lle gellid yn hawdd greu dolen gyswllt rhwng y traddodiadau estron a'r rhai brodorol, oherwydd bod cymeriadau ag enwau tebyg iawn yn profi anturiaethau tebyg, boed eu hiaith yn Gymraeg neu Ffrangeg.
Cynrychiolai yr ieithoedd eraill elfennau estron a oedd yn dinistrio undod ysbrydol y genedl.
Wrth i'r fyddin nesu, aeth y gwerthwyr a'r prynwyr yn ddistaw gan wylio'r milwyr estron yn mynd drwy'r porthdy.
Gan eu bod heb gydymdeimlad â'r ffordd o fyw yn y cymunedau a gaent yno, roedd dod wyneb yn wyneb ag iaith gwbl estron yn brofiad brawychus.
Un o'r trafferthion pennaf wrth geisio cyflwyno'r maes hwn yw'r holl enwau estron!
Roedden nhw mewn gwlad oedd yn hollol estron - y brodorion yn elyniaethus ac yn mynnu siarad eu hiaith ryfedd eu hunain.
Na feddylied neb am fod yna gymaint o Saesneg ymhob man yng Nghymru nad ydyw'n iaith estron.
Os oedd Ystorya Trystan, neu'n arbennig y darnau rhyddiaith, wedi cyrraedd ei ffurf bresennol yn gymharol ddiweddar, pan oedd y traddodiadau Ffrangeg wedi cael digon o gyfle i ymledu, gallwn dybio fod elfennau estron wedi eu gwrthod yn fwriadol.
Un o'r santesau estron a oedd yn boblogaidd yng Nghymru oedd Margred o Antioch.
Wrth gwrs, ac yn naturiol, yr oedd rhai Cymry a hoffai gredu nad oedd Dafydd nemor yn nyled neb, ac yr oedd eraill yn barotach i gredu ei fod yn ddyfnach ei ddyled i'w ragflaenwyr nag i neb estron.
Iaith estron!
Fel hyn yr ysgrifennodd un o'r 'awduron estron' sy'n byw yn yr Almaen yn ddiweddar: 'Chi Almaenwyr!
Roedd hanes trist y Ddeddf Iaith yn brawf pellach o'r modd y caiff Cymru a'i phobol eu trin gan lywodraeth estron.
Mae'n ddigon naturiol, wrth gwrs, os bydd bardd neu lenor yn gweld rhyw debygrwydd rhwng ffurf lenyddol estron ac un o ffurfiau ei lenyddiaeth frodorol ei hun, iddo roi cynnig ar gyfieithu rahi enghreifftiau o'r naill iaith i'r llall.
'...' Roedd yna weledigaeth o wasg Gymreig fel un i warchod Cymreictod dilychwin rhag gwerthoedd estron.
wel yn syml iawn doedd y cysyniad ddim yn bod, syniad estron yw e, a beth y mae absenoldeb y gair yn ein ein ni'n ei brofi yw fod modd byw heb y syniad.
Byddai'r Sun a'r Express a'r Mail, (sydd, fe gofiwch, yn dweud mai'r Saesneg ddylai fod yn iaith swyddogol Ewrop) y papurau a ddarllenir gan filiynau lawer, yn gwneud eu gorau glas i berswadio pawb i wrthod unrhyw beth "estron".
Mae'r system addysg estron yn ein hysgolion yn dysgu ein plant i wneud hynny.
Ie'n wir, os ydi'r llenor o Eingl-Gymro'n onest ag ef ei hun, bydd yn rhaid iddo gyfaddef mai mewn iaith estron y mae'n sgrifennu.
Lawer o flynyddoedd wedi hynny, a minnau wedi dechrau llenydda'n Gymraeg, cymerais yr enw 'Pennar' i'm hachub fy hunan rhag cyffredinedd estron a dilewyrch fy enwau Seisnigiedig, fy nhri enw prin eu swyn.
Arferent addoli nwyddau oherwydd credent mai duwiau oedd y bodau estron a ddisgynnai o'r awyr yn eu peiriannau rhyfel ac a ddeuai ag anrhegion gyda hwy.
Ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd un o bob tri Ewropead yn byw o dan lywodraeth estron.
A chyn pen nos roedd Llety'r Bugail wedi ei werthu i'r estron, a edmygodd y lle oherwydd yr olygfa eang o'i ffenestri ac a chwenychodd y lle fel gwrthrych i'r arbrofion pensaerniol.
Yn ogystal â gweithlu estron, y mae testun pryder i wledydd 'niwtral' fel Iwerddon a Norwy, mewn datblygiadau eraill.
Yr hen iaith arni weithion - sy'n parhau Er rhwystrau yr estron; Gwelydd wrthsaif bob galon i'r Gymraeg yw muriau hon.
Rwyn credu byse hi'n well se ni wedi gorffen Gemau Heineken i gyd ond dyw hwn ddim yn rhywbeth estron i ni.
(Yn ôl un stori ddi-chwaeth gan un o'n plith nad oedd yn or-hoff o ymweld â Moscow, roedd Mr Gorbachev wedi llwyddo o'r diwedd i gael gwared ar y ciwiau hynny drwy sicrhau fod y siopau bwyd yn wag!) Go brin fod parch newyddiadurwyr estron tuag ato, yn enwedig yn y dyddiau cynnar, wedi gwneud llawer o les iddo ymhlith ei bobl ei hun.
O leiaf ar rai adegau yn eu hanes, bu'n rhaid i'r Saeson fynd at lenyddiathau estron, ac yn arbennig at y clasuron, er mwyn cael syniadau o ffurf, mesur, arddull a phriodoldeb mewn barddoniaeth.
Yn ei lyfr Meistri'r Moroedd, y mae Mr Aled Eames yn sôn am y "munudau tawel ar nos braf, ac yn y distawrwydd clywed Mrs Pritchard yn canu'r piano yn y caban a'r Capten yn ei lais bariton cyfoethog yn canu 'The harp that once through Tara's Hall' neu Dafydd y Garreg Wen Claddwyd Mrs Pritchard yn Laurenco Marques a gallwn ddychmygu y tristwch ar y llong ymysg y criw ac yn enwedig tristwch Capten Pritchard o adael ei wraig mewn bedd ar dir estron.
Ond lle mae'r beirdd a gyfansoddodd gerddi gwir fawr mewn iaith estron?