Hawliai Israel fod Duw wedi'i dewis o blith holl genhedloedd y ddaear yn forwyn iddo, yn genedl etholedig.
Cafwyd trafodaeth gadarnhaol ar nifer o bwyntiau gan gynnwys rhoi proffeil iaith i holl swyddi staff y Cynulliad, sicrhau bod modd i holl aelodau'r staff a'r aelodau etholedig ddysgu Cymraeg neu loywi eu Cymraeg a hynny yn y Cynulliad ei hun yn ystod oriau gwaith, a rhoi statws llorweddol i'r iaith Gymraeg yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Ar ôl i gynghorau lleol etholedig ymddangos o dan y gyfundrefn gyfansoddiadol yn y chwedegau, daeth tro ar fyd.
Cafwyd anerchiadau gan J.Oliver Stephens, Cadeirydd yr Undeb ar y pryd, ac R. G. Berry, y Cadeirydd-etholedig.
Wedi chwarter canrif o brofiad gwelwn mai gwaith cyson y Swyddfa Gymreig - ar wahan i'w chyfrifoldeb am y Gymraeg - yw (a) gweinyddu gyda help y cyrff annemocrataidd sydd dan ei rheolaeth, bolisiau craidd Adrannau nerthol Whitehall, boed y polisiau yn gyson â'n dyheadau yng Nghymru a'i peidio, a (b) cymryd cyfrifoldebau iddi ei hun a ddylai fod yn nwylo cynrychiolwyr etholedig y bobl.
Medrid mynd â'r achos o flaen tribiwnlys ond gan nad oedd gan unrhyw un a gyhuddid o fod eisiau dymchwel llywodraeth etholedig y wlad hawl i gael gwybod pa weithred neu ddatganiad ar ei ran a oedd wedi achosi'r amheuon gwreiddiol, amhosib oedd paratoi amddiffyniad effeithiol.
Gosodir y cyfrifoldeb am benderfyniadau o'r fath ar ein gwleidyddion etholedig, sydd wedi dewis gwario cyfran helaeth o'r cyllid sydd ar gael ar ddatblygiadau yn ymwneud ag arfau, tra yr un pryd yn cwtogi ar yr arian sydd ar gael ar gyfer ymchwil wyddonol bur.
Eto, os trosglwyddir y cyfrifoldeb am waith y Swyddfa Gymreig a'r atebolrwydd amdano i Gynulliad etholedig oni fydd yn anodd cadw swydd Ysgrifennydd Cymru?
Yr oedd y feirniadaeth yn gywir: ychydig iawn o wrthwynebiad i'r Ysgol Fomio a gawsid gan y cynghorau, ac yr oedd yn hawdd i'r awdurdodau ateb pob protest gan gorff gwirfoddol drwy ddweud nad oedd gwrthwynebiad oddi wrth gynrychiolwyr etholedig y bobl.
Un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o hybu cadwraeth yw dweud eich barn yn glir wrth eich cynrychiolwyr etholedig - helpwch ni os gwelwch yn dda.
Sylwyd, er enghraifft, fod brenhinoedd y Dwyrain - a'r brenin, wrth gwrs, yn cynrychioli ei bobl - yn haeru mai hwy oedd etholedig y duwiau.
Pryderir na fyddai fformiwla/ u cyllido corff o'r fath yn ymatebol i'r anghenion amrywiol sydd yng ngwahanol ardaloedd Cymru, nac wedi'u seilio ar bolisi%au wedi'u llunio gan bersonau etholedig ac atebol i'r cymunedau lleol hynny.
Ond yr ydan ni'n lwcus o gael ein cynrychiolwyr etholedig efo ni o hyd yn dal yma ar waetha pawb a phopeth 'dan ni yma o hyd, o hyd, pa hyd, o Dduw, pa hyd y mae'n rhaid i ni eistedd yn llywaeth a sbio arnyn nhw fel hyn yn mynd dros y geiria, yn sbio ar y geiria caled du ar y gwyn llyfn, ac yn llyfnhau'r ffordd fel hyn i wneud lle i'r dim byd fydd i fod i'n gwarchod am y chwarter canrif nesa'/tan bydd yr iaith wedi marw.
Yn lle cymdeithas y ganrif ddiwethaf a oedd yn gweld Cymru fel Canaan a'r Cymry fel Cenedl Etholedig, wele'n awr gymuned nerfus, ar chwal, byth a hefyd yn ofni rhyw fygwth.