Collir arwyddocâd y syniad o bobl Dduw, os tynnir ef allan o'i gyd-destun yn niwinyddiaeth y cyfamod ac etholedigaeth Dyna a wneir pan geisir ei esbonio fel balchder cenedlaethol, a'i gymharu â'r teimladau o falchder a ddangosir gan bobloedd eraill.
Mae arwyddocâd y crefu a'r hudo yn bwysig, yn dangos agwedd wrth-galfinaidd, wrth-ragordeiniad, wrth-etholedigaeth Morgan Llwyd.
Y mae'n ddiamau fod y gred yn nhrefn Duw a'i allu byd-eang yn cynnwys y syniad o le a chyfraniad pob cenedl; ond dylid gwahaniaethu rhwng hyn â syniad cwbl wahanol yr Hen Destament am etholedigaeth Israel fel pobl Dduw a phlant y cyfamod.
Tra'n cydnabod fod gan y gwahanol wledydd eu cyfraniad nodweddiadol eu hunain i ddiwylliant y byd, a bod i bob cenedl ei chenhadaeth arbennig yn y byd, rhaid sylweddoli fod hyn yn gwbl wahanol i'r syniad o etholedigaeth Israel.