Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

etifedd

etifedd

Williams oedd y diwethaf i ddirmygu'r athrawiaethau ond Crist yn y galon sy'n goleuo'r deall ac yn trawsnewid bywyd dyn a'i wneud yn etifedd iachawdwriaeth.

Bobi Jones, Yr Etifedd Llwyd

Mae'r hanes diddorol hwn am etifedd olaf Llywelyn ap Gruffudd yn ceisio ennill yn ôl ei hawl i fod yn Dywysog Cymru wedi'i gadw i ni yng ngwaith Ffrancwr o'r enw Froissart.

Oherwydd hyn yr oedd yn etifedd traddodiad dyneiddiol Ewrob.

Cysylltid hwnnw â rhir ei gŵr, sef etifedd Nannau, i greu undod parhaol a nerthol.

Y mae bod yn etifedd dau ddiwylliant yn gallu creu anawsterau digon blin yn aml ac nid y lleiaf ohonynt yw anallu'r sawl na wyr iaith ond Saesneg i sylweddoli nad yw medru Saesneg a bod yn hyddysg yn hanes a llenyddiaeth Lloegr o angenrheidrwydd yn gwneud pobl yn Saeson.

Roedd y tyddyn wedi meddiannu ei bersonoliaeth ac o ganlyniad nid oedd yn gallu meddwl amdano'i hun fel etifedd ei gyndadau:

Ni all y genedl cyn marw wneuthur yr un ewyllys ar ei chyfoeth; rhaid i'r holl eiddo fynd yn sied, rhaid iddo gwympo, fel pob eiddo di-etifedd, i sawnsri Lloegr.