Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

etifeddu

etifeddu

Cynorthwya ni i dderbyn dy gynnig, ein Tad, fel y cawn ni etifeddu'r bywyd tragwyddol yr wyt ti'n ei gynnig i ni, a llawenhau yn dy gwmni a'th gariad yn y bywyd hwn.

Y canlyniad yw dau 'unigolyn' newydd, y ddau wedi etifeddu gwybodaeth enetig wahanol o 'DNA' eu 'rhieni'.

Gan fod Syr John Wynn wedi etifeddu tiroedd Gwedir wedi marw ei dad Morys Wynn, gwnaeth ei orau i greu ystad helaeth a gwethfawr.

Bron na ddywedwn fod undonedd gwastatiroedd yn groes i natur y Celt a hynny am ei fod o bosib wedi etifeddu tueddiadau sy'n medru ei godi'n sydyn i'r entrychion, a bod undonedd yn lladd ei ysbryd.

Etifeddai'r naill ddosbarth eu heiddo yn ôl y gyfraith Seisnig, a olygai etifeddu gan y cyntafanedig, a'r llall yn ôl y gyfraith Gymreig (neu Gyfraith Hywel fel y'i gelwid), a olygai rannu'r etifeddiaeth yn gyfartal rhwng meibion, a hynny o fewn uned deuluol ddiffiniedig.

Daeth tro mawr ar fyd Derek wedi iddo etifeddu swm sylweddol o arian ar ôl ei dad anhysbys.

Roedd yna dwr o fechgyn ifainc oedd wedi tyfu i etifeddu, nid y ffydd yn yr egwyddorion a ddygai well byd i fyw ynddo, ond y Ffydd a ddywedai fod gobaith am fywyd tragwyddol.

Rwyn credu bod Ronnie O'Sullivan wedi etifeddu rôl Jimmy White o ran y Saeson.

Y mae Mr Gruffydd yn sicr wedi etifeddu'r safbwynt anghydffurfiol, ac megis Mr Murry yn Lloegr, yn gwneuthur mwy tros fetaffyseg crefydd nag unrhyw offeiriad enwadol y gwn i amdano.

Yr oedd miwsig yn y teulu ar ochr fy nhad, ac er na wyddwn i ddim byd am dechneg honno, 'roeddwn wedi etifeddu digon o chwaeth fel y medrwn fwynhau miwsig o safon.

Ar wahan i Close - ar parot syn meddwl ei fod yn gi! - difywyd yw'r actio ar y cyfan gyda Ioan Gruffudd wedi etifeddu rhan syn golygu nad oes cyfle iddo ond mynd drwyr mosiwns.

Honnai ar un adeg ei fod ef yn perthyn i fudiad a elwid Brodoliaeth Beirdd Morgannwg, a phwysleisiai fod yn ei fro ef feirdd o hyd a oedd, yn wahanol i'r rhai a geid ym mro%ydd eraill Cymru, wedi etifeddu 'Cyfrinach y Beirdd' yn yr hen ffordd draddodiadol trwy iddi gael ei throsglwyddo i lawr o athro bardd i ddisgybl yn ddi-dor er amser y derwyddon, yn wir, o Oes Aur Dynolryw, a'i fod ef yn un o'r etifeddion breiniol hynny.

Roedd Sabrina yn ymwelydd cyson â Chwmderi cyn iddi etifeddu siar o'r siop yn ewyllys Maggie Post yn 2000.

Mae'r addasiadau Cymraeg yn dderbyniol er bod y gair etifeddu yn y frawddeg gyntaf yn Pws Esgid uchel wedi bod yn ychydig o rwystr wrth ddechrau'r stori.

Rydym wedi etifeddu credoau'r tadau yn gwbwl ddiarwybod i ni - a'r un mor ddiarwybod yn eu trosglwyddo i'n plant.

Ac wrth ymwneud â hwnnw y mae hefyd yn etifeddu dylanwadau a thraddodiadau ei hil, ei lwyth, ei genedl a'i deulu.

'Rydach chi'n rheolwr llawn - wedi etifeddu'r peth.'