Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

eto

eto

all neb wadu, er bod yr ordeinio'n hollol anorfod, eto perigl yr ordeinio, perigl mynd yn gyfundeb ar wahan, ydy ei bod hi/ n haws llithro oddi wrth yr hen Erthyglau, yr hen Homiliau, rhoi llai o bwys arnyn-nhw, cymryd haearn y ffrwyn rhwng ein dannedd, penderfynu pynciau credo heb gadw mewn cof mai etifeddiath ydy'r Ffydd, ac mai cadw'r ffydd, traddodi, ydy swydd pregethwr, nid ymresymu'n rhydd.

Ac eto, tra bo pobl gwledydd y Baltig yn ystwyrian a phleidleisio tros ryddid, y mae mwyafrif pobl Cymru'n dotio cael eu sarhau a'u sathru.

Daeth yn ymwybodol o lais y ficer eto.

Edrychodd unwaith eto ar y dyn du a oedd yn rheoli'r awyren.

Eto, doedd yna liw o ddim.

Cymrodd hi chwarter awr arall i Gymru sgorio eto - Alan Bateman yn torri drwy amddiffyn America a rhyddhau ei gapten Mark Taylor i groesi.

Cawn fwy o hanes Wiliam Prichard eto.

Ac eto, rydych yn barod i roi arweiniad clir ar bynciau addysgol yr ydych yn credu eu bod o bwys e.e. llythrenedd a rhifedd.

Ar adeg arall roedd o'n gweithio hefo un ar ddeg o ddynion eraill mewn chwarel, hwn eto mewn lle pur wyllt, a phawb yn byw mewn cytiau a gofalu am eu bwyd eu hunain.

Aethon ni ar y blaen eto heno - ni wedi gwneud hynny yn erbyn Armenia ac yn erbyn Norwy.

'Dydy o ddim wedi priodi eto," a chwarddodd Elis Robaitsh hen chwerthiniad awgrymog.

Ar yr un pryd, mae nifer o'i luniau wedi'u hysbrydoli gan lefydd lle nad yw ôl dyn mor amlwg, y rhan fwyaf o'r rheiny eto yng Ngogledd a De Cymru, yn arfordir a mynydd-dir.

Fel rheol ar ôl i dwll fel hyn gael ei saethu mae angen llnau wyneb y graig, gan fod cerrig wedi symud ond ddim wedi dod i lawr, felly rhaid i'r ddau ddyn fynd i lawr ar y rhaff eto hefo darn o haearn crwn rhyw bedair troedfedd o hyd wedi ei finio yn un pen, yr hwn a elwir yn drosol.

Gyda dulliau mwy cywrain, gellir gwella eto ar fedr yr algorithm genetig.

gwaeddodd eto, mwy i godi ei galon na dim arall.

Eto byddai'n pwyso'n wahanol hanner ffordd i fyny'r Wyddfa, ac yn pwyso dim yn y gwagle.

Efallai y daw cyfle i'w portreadu hwy eto.

"A phan oedd efe eto ym mhell oddiwrtho, ei dad a'i canfu ef."

Bwriad Operation Poised Hammer oedd sicrhau na fyddai Saddam yn ymosod eto ar y Kurdiaid, yn enwedig drwy ddefnyddio ei awyrlu.

Ac eto, er holl ddatblygiadau cymdeithasegol a thechnolegol ein hoes ni, ac er y cynnydd ymddangosiadol yn ein haddysg, rhoddir pwys o hyd ar lawer iawn o hen goelion gwerin ein hynafiaid a chaiff eraill eu haddasu a'u creu o'r newydd.

Bydd yn gweld arbenigwr eto heno ac ofnir y bydd angen llawdriniaeth ar ei droed.

"Naddo," atebodd y ffarmwr yn araf, "ond pan fyddwch chi'n dwad y ffordd yma eto caewch y blwmin giat 'na ar ych ôl.

Bu agor ar y Sul yn destun trafod yng Nghymru unwaith eto.

Cyfeirir at bobl ddwy ar hugain oed fel personau ifanc nad ydynt eto'n llwyr gyfrifol am eu gweithredoedd.

Be bydaet ti yn aros am flwyddyn eto i edrych sut y bydde pethe?' ' Siaradai'n dyner a pherswadiol; ond aeth ei eiriau fel brath i'm calon.

Aros nes y daw o i gysylltiad eto ydi'r peth doetha.

A doedd y ddynes sy'n llnau'r lle ddim yn cofio'i gweld hi, chwaith." Bu tawelwch rhyngddyn nhw am eiliad cyn i Mam siarad eto.

Er fod y cylchgronau hyn wedi eu huniaethu'n glos a'r enwadau a'u noddai hwynt, eto nid enwadol a chrefyddol yn ynig oeddynt o ran cynnwys.

Cafodd Y Llewod eu hail fuddugoliaeth o'u taith yn Awstralia, eto gyda sgôr uchel.

'Dim eto, Jo Dafis.

A'm gwaith wedi cwpla daeth yn amser i fi ddweud ffarwel i Cape Town, ond roeddwn yn edrych ymlaen at weld fy nheulu unwaith eto, cwrdd â'm cwsmeriaid a dychwelyd i ddysgu Cymraeg.

Fel y gallwch ddychmygu, fi unwaith eto oedd Mrs. Chauffeur i Rich, Lowri fy chwaer a John ei gwr.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach tystiodd eto i'w dryblith yn ei gerdd 'Ewch, a chloddiwch Fedd i Mi', ac oni bai am ymgeledd ei ail wraig, Rachel, ni fuasai wedi byw i ddathlu ei ben-blwydd yn ddeg ar hugain oed.

Flwyddyn yn ddiweddarach enillodd yr un wobr eto, am ddrama arall, A Light in the Valley, a ysgrifennwyd gan Ian Rowlands ac a gyfarwyddwyd gan Michael Bogdanov.

Eto, nid oes ystyr i'r "gwirionedd" yma y tu allan i'r patrymau disgrifiadol y mae'n eu hadeiladu.

Does arna i ddim isio mynd yn ôl i ganol Saeson eto." "Mae arna i ofn dy fod ti braidd yn hwyr yn meddwl am beth felly, 'ngwas i.

Ac mae gen i boints hefo hi eto Dolig nesa.

Eto, prin fod lle i ddau ohonom sefyll ochr yn ochr ar gopa Piz Kesch - prin fod lle i ddau yn unman ar hyd ei grib dri chanllath, ychwaith.

Deallwn y daw'r papur allan mor sych ag arfer yr wythnos nesaf.' 'A rwan, to business,' meddai'r Golygydd, gan eistedd eto yn ei gadair.

Eto, nid am gynnwys y ffisig y byddai'n sôn, ond am ei liw.

Fydd y prop, David Whittle, ddim yn chwarae eto yn y gystadleuaeth ar ôl cael anaf i'w wddf yn ystod y gêm yn erbyn Seland Newydd.

Eto, ni ddaeth cwsg.

"Tail fydd ynddi hi fory eto bois" meddai'i pherchennog yn ffeind ac yn flêr.

Ac eto, fel y mae llyfr Job yn dweud, nid yw nerthoedd natur heb eu mawredd a'u prydferthwch.

Diflannodd y Coraniaid yn y man ond cadwodd Lludd ychydig o'r ffolliaid yn fyw, rhag ofn i'r Coraniaid ddychwelyd rywbryd eto.

Does yna ddim diben i unrhyw un wadu i ddatblygiad y sîn ddawns Gymraeg fod yn eithriadol o araf ac, yn sicr, mae yna le i wella eto.

Eithr ymhen ychydig ddyddiau bu cymodi eto, a dychwelodd at Ali a hwythau.

Datganaf eto mai hanes fydd yn ein barnu.

Fel y caf son eto, y mae ardal Cefn Brith yn fawr iawn ei dyled iddo ef a'i briod..

Ar hyn o bryd mae'r arwyddion yn galonogol ond y mae amser pryderus yn bodoli am beth amser eto.

Codir tal am y gwasanaethau hyn ond gellid codi mwy o incwm eto trwy'r dull yma.

Ac, eto, bob hyn a hyn, fe fyddai'n codi'i ben yn herfeiddiol a fflach o hiwmor dygn yn dod â gwên i'w wyneb.

Ac y daw mwy eto o fedalau aur yn sgîl yr arian hwnnw.

'Dewch i ni glywed unwaith eto y rhestr trosedde,' gorchmynnodd Martha Arabela.

(Syrthio i gysgu unwaith eto.)

Fe adewais i'r band er mwyn priodi fy ngŵr, ac dyna pryd wnes i ddechrau gweithio ar fy mhen fy hun eto%.

Cyn i'r llawenhau fedru cychwyn o ddifrif mae LIWSI yn ymryddhau oddi wrth y grwp sy'n cadw reiat a chamu y tu allan i'r ty unwaith eto.

"Mae Sinai yn feichiog eto yn ôl pob sôn," a daliodd ei law allan i dderbyn ei gil-dwrn.

Eto, nid oes dim byd anorfod am dranc y Gymraeg.

Galwai ei thad yn aml a gwelai yn ei wyneb unwaith eto ei dynerwch cynnar.

Angkor oedd yr ymerodraeth a ddaeth i fri ar ddechrau'r nawfed ganrif pan deyrnasai Jayavarnam yr ail a addolid fel duw tra'r oedd eto'n fyw.

Ac fe erys hyn yn fyw iawn yn ei chof eto.

Darllenodd y llythyr, a'i ddarllen yn araf eilwaith, yna'i ddarllen eto, a'i roi yr un mor araf yn ei amlen a syllu'n hir i'r lle tân gwag.

Cod dy galon, Harri; mi ddaw haul ar fryn eto.' Gwyddai Harri fod yr Yswain yn siarad ei galon, ac nad oedd yn rhagrithio.

A phob natur a phriodoledd Eto'n hollol gadw'u lle, -Dyndod heb gymysgu â Duwdod; Priod f'enaid byth yw E.

ar gynghorau lleol yn y cyfnod hwn, fe ddangosodd ei gwendid eto mewn methiant i fanteisio ar ei chyfle, a hynny, i'm tyb i, oherwydd rhyw ddiniweidrwydd egwyddorol megis.

Fel gyda newid rheolwr mewn clwb, roedd llechen pawb yn lân pan oedd y rheolwr cenedlaethol yn newid ac roedd yn rhaid cych-wyn o'r cychwyn eto.

Aethpwyd â Siwsan, y plant a minnau i swyddfa er mwyn ein holi eto gan swyddogion oedd yn awyddus i wybod sut roedden ni'n ein hadnabod ein gilydd.

Ac eto, malu awyr ydi hyn i gyd, mewn gwirionedd.

.' 'Tyd yn d'ôl 'fory.' Chwifiodd ei law mewn ffarwe/ l, ar fin boddi eto yn nyfroedd cwsg.

Eto ac eto a thrachefn a thrachefn nes i ni weld llawer o ddynion yn mynd â'r elor at dy ewyrth Richard.

Amlygwyd eto y diffygion yn neddf 1993 - sef nad ydi hi ddim yn rhoi statws swyddogol i'r iaith Gymraeg (sy'n golygu ei bod yn colli allan ar grantiau allweddol o Ewrop), ac nad ydi'n delio gyda'r sector breifat na'r sector wirfoddol.

dyna fo eto !

Bydd pwyllgor y gynghrair yn cyfarfod eto i benderfynu maint y gosb.

chwalwyd breuddwydion cymru o chwarae yn ffeinals cwpan y byd unwaith eto.

Ac yn ail, yn y seiat neu'r rhyddymddiddan a ddilynai'r ddarlith, gallech fentro y byddai'r hybarch Fyfanwy, o fewn pum munud eto, wedi mynd a ni oddi ar lwybr cul ein pwnc i ryw borfeydd gwyllt, os nad gwelltog.

Eto i gyd, nid oedd hynny'n rhwystr i'r ferch gyffredin ymuniaethu â'r santes.

Doedd o ddim yn ffyddiog iawn i gwelen nhw eu car byth eto gan fod cynifer o geir yn cael eu dwyn yn y ddinas.

Ac os oedd gwythiennau'r Fraslyd, y Fowr a'r Bumcwart a'r lleill i gyd yn dipyn sicrach na thywod, eto, o'u twrio a'u tynnu oddi yno roedd y tir uwchben yn siwr o symud ryw fymryn.

Eto i gyd, doedd cael ei wrthod ddim yn beth neis, yn enwedig heb wybod pam.

Cefais hyd i rwyd i'w thaenu dros y gwely bach, ac oherwydd hynny gallwn gysgu heb ofni brathiadau mosgito, a rhaid fod hyn eto wedi f'arbed rhag dal malaria.

Eto Trundle ddaeth â Wrecsam yn gyfartal.

Eto i gyd, yr oedd rhai dosbarthiadau yn llawer mwy tebygol o ddioddef o'r afiechyd.

Aeth y gwyliau yn rhy gyflym a daeth yn amser gweithio eto.

'Gawsoch chi hi?' 'Ddim eto -' Honnai rhai mai dyma pam roedd y Priodor mor drwm ei lach ar drefi a byth a hefyd yn rhefru pregethu yn eu herbyn.

Eto mae Golwg ymhell ar y blaen.

Heb arboeni am 'gywirdeb' a 'heresi' yr athrawiaethau mewn dialog (neu, yn achos Llyfr y Tri Aderyn, trialog) a llythyr a cherdd, y mae'n gymaint haws astudio nid yn unig yr hyn a ddywedir ond hefyd yr awen honno a gais yr hyn sydd y tu cefn a'r tu hwnt i'r cyfryw athrawiaethau, gan adnabod a gwerthfawrogi eto ac eto ac eto ymdrech y dychymyg dynol i herio ein maith maith anwybod.

Ac eto onid i Lety'r Bugail yr ai hi weithiau gyda'r hwyr ar ol gorffen gorchwylion, i freuddwydio?

Eto, mae peilotiaid a chriwiau awyrennau yn ofni defnyddio'r gair 'crach' na sôn am unrhyw ddamwain i awyren cyn cychwyn allan ar siwrnai.

Daeth y sw^n eto, clec uchel fel pren yn torri o dan draed rhywbeth trwm.

Gallai arogli ei phersawr eto, hyd yn oed ar ôl yr holl flynyddoedd.

Doedd dim ond dweud celwydd amdani: '...,' meddwn, '...' Fodd bynnag, dyma'r trên yn chwislo, a llawer yn gorfod gadael y ciw cantîn yn waglaw, y porteri yn galw ar i bawb frysio a dyma ni unwaith eto ar yr 'olwynion chwim'.

Fe allai gyrfa liwgar John Hartson fod ar fin datblygu eto o fewn y dyddiau nesa.

Cafwyd Cyfarfod Gweddi Dechrau'r Flwyddyn ym Methel ac yma eto roedd yr holl Eglwysi wedi uno.

ATHREITUS Am athreitus y mae Urmyc fwyaf enwog - y glaw eto, ac mae rhai o'r bobl stiff sy'n byw yno yn cadw math o wyliau od iawn.

Eto, bodlonwn ar ei ddyfod i'n plith.

Dyw'r drws ddim wedi caun hollol arno fe eto.

Ac eto, o ddewis yr aeth yn ôl yno cael grant teithio gan Gyngor y Celfyddydau.

ac eto mae hi'n nofel sy'n torri allan o'r mowld realaidd.

Fe gefais fy magu ar aelwyd grefyddol, lle na chrybwyllwyd erioed y gair 'ofergoelion', eto wrth edrych yn ôl gwelaf fod fy mhlentyndod yn llawn o ddywediadau ac arferion oedd yn ymylu ar fod yn ofergoelus.