Fe ddywed y Quran yn Sura 42, adnod 41: 'Nid yw'r sawl sy'n ymladd pan fyddant dan ormes yn euog, ond bydd Allah yn cosbi'r gormeswyr.' Deued y dydd.
Mae gan yr Arglwydd ei ffordd anrhydeddus ei hun ar gyfer Cristnogion sydd yn euog o fethu wrth iddynt geisio dilyn llwybrau cyfiawnder.
Yn sgîl presenoldeb cynhyddol y camerau dylsai unrhyw chwaraewr syn euog o ddigwyddiadau ysgeler, annerbyniol, dderbyn y gerydd a ddaw i'w ran.
Heb amheuaeth, yr oedd yn euog o deyrnfradwriaeth yn erbyn y wladwriaeth yr oedd yn ddinesydd ohoni.
Dyna pam y mae Menem wedi rhyddhau'r rhan fwyaf o'r milwyr a gafwyd yn euog ar ôl y 'rhyfel brwnt' yn erbyn y bobl yn ystod dyddiau'r juntas.
Ai plant yntai meddwon sydd yn euog o hyn?
Ac er na chlywasai Morfudd mo'r sgwrs, trodd y pwyllgor siaradus fesul un yn euog tua thref y prynhawn hwnnw.
Go brin ei fod o y gwleidydd cyntaf i fod yn euog o'r drosedd honno.
Disgwyliodd felly wrth ddod i wyddfod sipsi y buasai'n teimlo'n euog am ei fod yn ffidlan gyda chelfyddyd arallfydol.
Dechreuai deimlo'n euog eto.
Euog, ie, - ond yr oedd y cosbau ysgafnach a ddyfarnai'r llysoedd mewn achosion fel hyn yn adlewyrchu'r teimlad fod yr euog o dan bwysau teimladol anghyffredin.
Yna cafwyd Lee Harrison yn euog o lofruddio Leslie Fitter, ac at hynny, fe gytunodd i dyngu affidafid yn rhyddhau Lewis yn gyfan gwbl o unrhyw ran yn y lladrad.
Llareiddiwyd ei gydwybod euog drwy gynnig statws uwch i'r gweithwyr yn Lleifior, ond yntau, yr aristocrat, a sbardunodd y fenter.
Mae Beryl yn teimlo'n euog.
Cymaint haws oedd ganddi weini trugaredd a thosturi efo dwylo a chusan; gwisgo a dadwisgo, golchi a bwydo, trwsio a smwddio, anwylo a chribo, cysuro teuluoedd 'euog' a dwrdio ambell un esgeulus.
Ac fe ddaeth yn ffasiynol ymysg nofelwyr hanes yn ddiweddar - fel pe baent yn euog o'u tuedd i roi pen yn nhywod y gorffennol - i bwysleisio mor gyfoes yw arwyddocad eu gwaith.
Teimlai'n euog.
Cyhuddwyd ei fab Samuel o ladrata gweithredoedd a berthynai i feistr tir arall, cafwyd ef yn euog a charcharwyd ef am flwyddyn.
Gofynnodd hwnnw sut y medrai Iesu Grist adael i'r Iddewon fod yn euog o'i hunan-laddiad megis.
Teimlo'n euog roedd hi, roedd hynny'n amlwg.
Mae hyn yn torri'r cwlwm priodas, ac mae hawl gan y person di-euog i ysgaru ei gymar/chymar.
Plediodd Carol Hogan yn euog i gyhuddiad o gynllwynio i gyflawni'r lladrad, ac fe'i dedfrydwyd i bum mlynedd am yr hyn a alwodd y barnwr yn drosedd difrifol.
'Bydd y gerdd yma yn iechyd i farddoniaeth Gymraeg heddiw, oherwydd fe ddengys y gellir cynhyrchu gwaith o radd uchel yn y dull newydd yn ein hiaith ni, a hynny heb fod yn euog o rai pethau ag y bydd condemnwyr y canu modern yn hoff o'u hanelu ato,' meddai J. M. Edwards yn ei feirniadaeth.
Gall Gilles Grimandi gael ei wahardd am gyfnod hir petai UEFA yn ei gael yn euog o daro Diego Simeone yn ystod gêm Arsenal yn erbyn Lazio neithiwr.
Os ceir Lewis yn euog mi fyddan nhw'n cau'r ffeil a fydd ganddyn nhw ddim diddordeb mewn rhedeg ar ôl rhyw jacolantern.' 'Ond sut fedran nhw ddeud bod yr achos wedi'i gau a dau leidr â'u traed yn rhydd?
Roedd hi'n euog o adael ei gþr a'i theulu er mwyn cael encilio i fwthyn unig.
Yn ôl yr hyn ddeudist ti mae'n debyg mai dyna ddigwyddith os ceir Lewis yn euog.
Yn anffodus, mae posibilrwydd i rai o'r gwartheg fod wedi eu prynu oedd eisoes wedi eu trin gyda hormonau, felly mae gwaith ymchwil a gymer gryn amser i'w wneud fel y gellid dwyn y rhai euog i gyfraith.
Ar y llaw arall yr oedd yna 90 o gyhuddiadau, a doeddan nhw ddim ond yn euog o ddau ohonyn nhw.
Ychydig iawn o bobl sy'n barod i gyfaddef bod y pethau hyn yn 'digwydd yma', mai Almaenwyr cyffredin, nid gwehilion ifanc, sy'n euog, mai cynnyrch y gymdeithas Almaenig ydynt, a'n bod ni lawn mor gyfrifol am eu hymddygiad hwy ag am ein hymddygiad ni ein hunain.
'O'n i'n teimlo bod y gwaith yn y clwb yn dal i gynhyddu a ro'n i'n teimlo braidd yn euog bo fi'n colli shwt gyment o amser o'r clwb yn hyfforddi Cymru.
A pham y cosbai heb gael prawf fod y bachgen yn euog?
Rheithgor Caernarfon yn methu cytuno ar ddedfryd ond rheithgor yr Old Bailey yn eu cael yn euog ac yn eu dedfrydu i naw mis o garchar.
Ond þ a dyma'r pigiad sydd yn ngholyn y ddeddf þ os ceirr y modurwr yn euog gan lys barn, bydd y ddirwy'n uwch (yn sylweddol uwch, mae'n debyg) nag a fuasai'r ddirwy ar y pryd.
VATILAN DI-EUOG a RHYDDID I VATILAN oedd y slogannau, mewn llythrennau breision cochion, ac un arall o dan rheini'n dweud PC LLONG Y CWD mewn paent glas.
Y cefnwr chwith John Wyle oedd yn euog.
'Deud y bydda i nad oes a wnelo cyfreithiwr ddim â'r cwestiwn a ydi person yn euog ai peidio, dim ond â dilysrwydd y dystiolaeth ymhob achos.'
Yn fy marn i mae'n bwysig bod y rhai euog, os y bydd achos, yn cael eu cosbi'n llym a digyfaddawd.
Pam 'roedd hon yn edrych mor euog?
Cafwyd Stephens yn euog o achosi niwed corfforol i Bebb, ar ôl iddo daflu dwrn mewn gêm rhwng Cross Keys a Phenybont.
Mae'n rhyfeddod o gofio'i gefndir - ei dad o hyd yn y carchar ar ôl ei gael yn euog o lofruddiaeth.
A dweud y gwir, bu+m yn euog o hynny fy hun.
Yn gwneud i mi deimlo'n euog, ac afiach, ia - ond ddim yn gyfforddus!
Trawsffurfiodd yr hen Gomisiwn Eglwysig a'i droi'n Llys yr Uchel Gomisiwn a hwnnw'n gwbl wynebgaled yn defnyddio ddulliau hen chwilys yr Oesoedd Canol, yn gorfodi pob cyhuddedig i gymryd y llw ex officio a oedd yn caniata/ u i esgob yn rhinwedd ei swydd ofyn unrhyw gwestiwn a fynnai i'r cyhuddedig a phe peidiai hwnnw ag ateb, gellid cymryd yn ganiataol ei fod yn euog, er nad oedd un ditment wedi ei chyhoeddi yn ei erbyn cyn hynny na thwrnai'n bresennol i'w gynorthwyo.
o'i gael yn euog ar gyhuddiad o ddwyn arian o anedd-dy, dderbyn y gosb eithaf, ond yn fwy tebygol, derbyniai bardwn am ei drosedd a châi ei anfon i Awstralia am ei oes.
Fe allwn ni'r Cymry Cymraeg, bawb ohonom, fod yn euog o'r cyhuddiad hwn i'r graddau y bo ein harfer yn anghyson â'n proffes.
am gyflawni trosedd gyffelyb, dedfrydid yr euog i gyfnod o alltudiaeth am saith mlynedd, tra byddai'r troseddwr a ddedfrydid gynt i dymor o benyd wasanaeth, yn debygol o gael ei gaethiwo mewn carchar ym Mhrydain.
Yr oeddem i gyd yn blant direidus, felly mae'n ddigon tebyg nad oedd o'n unig euog.
Bid hynny fel y bo - ond maen ymddangos i mi mai y ffordd gall a chyfiawn o drin materion fel hyn fyddai; gwahardd y chwaraewr euog am o leiaf yr un faint o amser ag y bydd y chwaraewr arall yn methu â chwarae oherwydd yr anaf a gafodd.
Rhywsut fe deimlech yn euog o feiau'r byd, mai chwi oedd achosydd holl ruo a brefu a rhegi'r ffair.
Yn ôl yr ystadegau diweddaraf cafwyd un allan o bob tri o bobol yn euog o rhyw drosedd neu'i gilydd erbyn eu bod yn ddeg ar hugain oed.
Y trydydd dydd cyfododd Crist, I gyfiawnhau rhai euog trist; Ac esgyn wnaeth i'r orsedd fry, I ddadlu yno'n hachos ni.
Fe allai'r pump gael eu gwahardd am oes os bydd yr ymchwiliad yn eu cael nhw'n euog.
Digwyddiadau fel sylweddoli fod dy gariad di yn caru rhywun arall ac ar waethaf pob peth, ei fod yn mynd i' d'adael di am y person hwnnw." "Marc, bydd yn rhesymol..." "Rhesymol yw derbyn wedyn fod yn rhaid cael halen ar y briw - mai dy ffrind gorau di yw'r ferch arall yn y darlun." "Wrth gwrs, os oes angen beio unrhyw un, rwy i'n fwy euog na neb.
Yn ddiweddarach daeth Steffan yn bartner ac yn ffrindiau agos gyda Hywel - cadwodd Steffan yn dawel am ymgais Hywel i ladd Nia a chadwodd Hywel yn dawel am nifer o ddigwyddiadau oedd yn awgrymu fod Steffan yn euog o dreisio Karen.
Mi fyddwn yn euog o gynnal y sustem anghyfiawn ac annemocrataidd bresennol.
Esboniodd Pamela ei bod wedi sylweddoli eu bod hwy oll yn bechaduriaid euog ac yn haeddu llid Duw a chyda hyn gwahoddodd wraig y llety i benlinio gyda nhw.